Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Llun, 16eg Ionawr, 2023 10.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Woods.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

4.

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 190 KB

Ystyried penderfyniadau’r Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniadau..

 

5.

Ffioedd Trwyddedau Statudol 2023/24 pdf icon PDF 579 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnachu a Thrwyddedu. .

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a’r ffioedd arfaethedig ar gyfer Trwyddedau Gamblo, Hypnosis a Ffilmiau fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad (Opsiwn 1).