Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Iau, 22ain Medi, 2022 11.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Gardner a G. Thomas.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn Datganiadau Buddiant a Goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid cynnal cyfarfodydd y dyfodol am 12.00 canol dydd.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny. 

 

5.

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 285 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 260 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYFD cadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 223 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion yr Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022.

 

Diweddarodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu y Pwyllgor ar y mater hwn yn dilyn y penderfyniad. Hysbyswyd aelodau y bu apêl i’r Llys Ynadon ar benderfyniad yr Is-bwyllgor na chafodd ei glywed hyd yma. Roedd aelodau’r Is-bwyllgor wedyn wedi cwrdd gyda Cyfreithiwr y Cyngor i baratoi am yr apêl ac, yn unol â chyngor cyfreithiol, cytunwyd ceisio Gorchymyn Caniatâd i alluogi’r cais gwreiddiol i fynd yn ei flaen.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r Cofnodion.

 

8.

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 230 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

9.

Ffioedd Trwyddedau Statudol 2022/23 pdf icon PDF 430 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm, Safonau Masnach a Thrwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y ffioedd arfaethedig ar gyfer Trwyddedau Gamblo, Hypnosis a Ffilmiau fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.