Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Llun, 8fed Mawrth, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

4.

Deddf Trwyddedu 2003 Datganiad Adolygiad Polisi Trwyddedu 2021 pdf icon PDF 476 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.

Amlinellodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu yr adroddiad a hysbysodd Aelodau mai diben yr adroddiad oedd i Aelodau gymeradwyo’r ymgynghoriad. Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn datgan y dylai’r polisi gael ei adolygu bob pum mlynedd yn dilyn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid a phartïon â diddordeb. Mae’n rhaid i’r polisi newydd wedi ei ddiweddaru gael ei weithredu cyn mis Hydref 2021.

 

Holodd Aelod sut y cynhelir y broses ymgynghori yn ystod y pandemig. Esboniodd y Rheolwr Tîm y caiff yr ymgynghoriad ei gynnal mewn nifer o ffyrdd, mewn blynyddoedd diweddar roedd ymgynghoriadau wedi defnyddio dulliau mwy digidol a byddai dolenni i’r ymgynghoriad ar wefan y Cyngor. Byddid hefyd yn anfon llythyrau ymgynghori at rai a diddordeb gyda’r ymatebion yn cael eu casglu a’u hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Hysbysodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau y paratowyd amserlen ddiwygiedig ar gyfer yr ymgynghoriad oherwydd y pandemig, fodd bynnag mae’r cyfnod ymgynghori yn dal ar y targed i gyflawni amserlen y Pwyllgor a’r dyddiad gweithredu.

 

Yng nghyswllt unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau i’r polisi dros y 5 mlynedd ddiwethaf, esboniodd y Rheolwr Tîm eu bod yn gweithio gyda phump awdurdod Gwent ac felly roedd newidiadau gweinyddol dros gyfnod, ond dim newidiadau na diweddariad sylweddol i’w tynnu at sylw Aelodau ar hyn o bryd. Yn dilyn yr ymgynghoriad, caiff yr holl newidiadau eu hamlygu a byddir yn dod â nhw yn ôl i Aelodau ar y pwynt hwnnw.

 

Yng nghyswllt Deddf Trwyddedu 2003, cyfeiriodd Aelod at ddiogelu’r cyhoedd cysylltiedig â Covid ac esboniodd sut byddai hyn yn cyd-fynd â’r Ddeddf. Dywedodd y Rheolwr Tîm fod y Ddeddf Trwyddedu a’r adolygiad o bolisi’n cysylltu’n ôl i’r amcanion trwyddedu tebyg i atal troseddu ac anrhefn a sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae Covid-19 yn fater iechyd cyhoeddus ond yn anuniongyrchol wedi’i ddal o fewn y polisi, er enghraifft, lle mae busnesau’n methu cydymffurfio gyda rheoliadau cyfyngiadau busnes Covid-19 gallai hynny ddod o fewn amcanion troseddu ac anrhefn neu ddiogelwch cyhoeddus y polisi.

 

Yng nghyswllt cwestiynau am ddarpariaeth yr Awdurdod o gamerâu CCTV, esboniodd y Rheolwr Tîm y cânt eu defnyddio weithiau fel rhan o orfodaeth weithredol y Ddeddf Drwyddedu ond nad yw rheolaeth gyffredinol system CCTV yn fater i bolisi’r Ddeddf Trwyddedu, gan fod y rheolaeth dros hyn yn dod tu allan i gylch gorchwyl y Tîm Trwyddedu. Esboniodd ymhellach y gellid gosod amodau ar ddeiliaid trwyddedau i’w gwneud yn ofynnol i gael darpariaeth CCTV mewn safleoedd trwyddedig a bod yn rhaid i fideo o’r fath fod ar gael i’r swyddogion gorfodaeth perthnasol o fewn cyfnod penodol. Yn hynny o beth, byddai’r cyfnod ymgynghori yn caniatáu sylwadau ar hyn lle’n briodol.

 

Felly

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo ymgynghoriad ar y drafft Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu diwygiedig, yn unol â Deddf Trwyddedu 2003. Yn dilyn y mater, dylid adrodd y mater yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu i ystyried y drafft bolisi ac ymatebion i’r ymgynghoriad yn ffurfiol (Opsiwn 1).