Agenda and minutes

Pwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Llun, 8fed Chwefror, 2021 3.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Rowson.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

4.

Ffioedd Trwyddedu Statudol 2021/22 pdf icon PDF 441 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.

 

Amlinellodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu yr adroddiad a hysbysodd Aelodau am yr opsiynau ar gyfer ffioedd trwyddedau gamblo ar gyfer 2021/22. Dywedodd y Rheolwr Tîm fod y ffioedd hyn yn dod dan gylch gorchwyl y Pwyllgor Trwyddedu Statudol i gael eu hystyried.

 

Nododd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach y pwysau a roddwyd ar fusnesau yn ystod y pandemig ac oherwydd y cyfnod anodd a heriol hwn ar gyfer busnesau a hefyd y cyhoedd yn ehangach, cynigwyd fod ffioedd yn parhau heb newid er mwyn rhoi cymorth y mae ei fawr angen. Byddai’r opsiwn a ffafrir yn gweld ffioedd o 2020/2021 fel yr amlinellir yn Atodiad 1 yn symud ymlaen i 2021/2022. Er ei bod yn arferol cynnal cyfnod ymgynghori ar gynnydd ffioedd, dywedodd y Rheolwr Tîm nad oedd angen ymgynghori os nad oedd newidiadau i’r ffioedd.

 

Oherwydd na chytunwyd ar gynnydd ffioedd mewn blynyddoedd blaenorol er fod cyllidebau incwm wedi codi yn unol â’r Gofrestr Ffioedd a Thaliadau, hysbysodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau fod pwysau cost ar hyn o bryd ar incwm y Pwyllgor Trwyddedu o £33,000 ar gyfer 2020/21. Er na chafodd y Gyllideb Incwm ei chynyddu ar gyfer 2021/22, byddai’r pwysau cost yn parhau os na eir i’r afael â hynny, gyda phosibilrwydd cynnydd pe byddai gostyngiad yn nifer y trwyddedau a geisir.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm hefyd y gallai’r opsiwn a ffafrir arwain at feirniadaeth gan nad yw lefelau ffioedd yn adfer costau llawn y gwasanaeth. Fodd bynnag, dywedwyd fod angen cydbwyso hyn gyda’r pwysau digynsail ar fusnesau a’r cyhoedd yn ehangach yn ystod y pandemig byd-eang.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu esboniad manwl o’r ffioedd fel yr amlinellir yn yr Atodiad i’r adroddiad.

 

Cyfeiriodd Aelod at y pwysau cost a gofynnodd os byddai unrhyw ganlyniadau niweidiol i’r Gwasanaethau Trwyddedu pe na bai newid yn y ffioedd. Dywedodd y Rheolwr Tîm y byddai’n anodd dynodi unrhyw oblygiadau fyddai gan y penderfyniad ar y Tîm Trwyddedu, fodd bynnag mae’r Tîm Adnoddau a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn gwybod am y pwysau cost. Mewn ymateb i bryderon pellach am ostwng nifer staff y Tim, dywedwyd nad oedd unrhyw gynnig i i ostwng nifer y staff ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach, teimlid na fedrai’r Pwyllgor gynyddu’r ffioedd Trwyddedu Statudol yn dilyn y gymeradwyaeth i gynnal y ffioedd Trwyddedu Cyffredinol a’i bod yn hollbwysig fod yr Awdurdod Lleol yn cefnogi busnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Felly

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n cefnogi’r cynnig i gadw lefel ffioedd 2020/21 yn 2021/22.