Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Mandy Moore, G. Thomas a D. Wilkshire.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn Datganiadau Buddiant a Goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Adroddiad Gweithgareddau ar gyfer Chwarter 3 2019/20 PDF 409 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Trwyddedu. Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol fod yr adroddiad yn amlinellu gwaith y Tîm Trwyddedu am y trydydd chwarter rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2019 yng nghyswllt dyletswyddau trwyddedu statudol. Siaradodd y Rheolwr Tîm am yr adroddiad ac amlinellu’r pwyntiau allweddol yng nghyswllt yr Adroddiad Gweithredol a’r Adroddiad Rheoli.
Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol yr Aelodau at ddyddiad gweithredu’r unedau isafswm pris a gadarnhawyd erbyn hyn fel 2 Mawrth 2020. Soniodd y Rheolwr Tîm hefyd am brosiect peilot Gwasanaethau Cefnogaeth ar gyfer Gamblo ym Mlaenau Gwent a nododd y byddai Blaenau Gwent yn un o’r awdurdodau cyntaf i ymwneud ag ymchwilio’r galw am hyfforddiant a byddai’n gweithio gyda ARA a CAB i ddatblygu pecyn cymorth ar y cyfryngau cymdeithasol. Defnyddir y pecyn hwn i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o wasanaethau cefnogaeth yn gysylltiedig â gamblo ac y bwriedir ymestyn hyfforddiant i staff rheng-flaen mewn rôl gefnogi.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Tîm am y trosolwg defnyddiol o’r adroddiad a gwahoddodd gwestiynau gan Aelodau ar y pwynt hwn.
Cyfeiriodd Aelod at gyngion prydau bwyd ‘Bwyta Mewn i Un neu Ddau’ mewn archfarchnadoedd a gofynnodd os byddai’r isafswm pris yn effeithio ar gost y gwin yn y pecynnau hyn gan y byddai’n cynyddu cost gwin.
Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu Masnachol mai Safonau Masnach sy’n arwain y prosesau isafswm pris a chytunodd fynd â’r cwestiwn hwn yn ôl atynt er mwyn iddo gael ei ystyried.
Yng nghyswllt cwestiwn a godwyd am y cynnydd mawr yn nifer y trwyddedau dros dro, dywedwyd y bu’r cynnydd mewn niferoedd oherwydd Cwpan Rygbi’r Byd.
Dywedodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu a Masnachol y cynhaliwyd trafodaethau am amlder yr Adroddiad Gweithgareddau. Cytunwyd y cyflwynir Chwarter 4 fel y cytunwyd, fodd bynnag wedyn byddai’r adroddiadau’n cael eu cyflwyno ar sail 6 mis. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y rhoddir adroddiad ar wahân i’r Pwyllgor am unrhyw faterion o bwys sylweddol er mwyn hysbysu Aelodau.
PENDRFYNWYD derbyn yr adroddiad a nododd y Pwyllgor yr adroddiad gweithgaredd ar gyfer y chwarter hwn.
|