Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Cynghorwyr G. Thomas, D. Bevan a L. Winnett.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau. Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 212 KB Ystyriedadroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chadarnhau penderfyniad yr Is-bwyllgor i ddyfarnu'r Drwydded yng nghyswllt The Looking Glass, 10 Stryd y Castell, Tredegar.
|
|
Gambling, Hypnosis & Film Classification Licence Fees 2020/21 PDF 422 KB Ystyriedadroddiad y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Masnachol a Thrwyddedu.
Siaradodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol am yr adroddiad sy'n cyfeirio at ffioedd trwyddedu am y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 a rhoddodd drosolwg manwl o'r wybodaeth ynddo. Esboniodd y Rheolwr Tîm hefyd y ffioedd gamblo, hypnosis a dosbarthu ffilmiau fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac Atodiad 1.
Hysbysodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau y byddid yn cynnal ymgynghoriad gyda masnachwyr ac unwaith y cwblhawyd hynny y cyflwynir adroddiad pellach i'r Pwyllgor ei ystyried.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r ymgynghoriad ar gyfer y ffioedd arfaethedig fel y'u hadroddwyd.
|