Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Gardner a G. Thomas.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn Datganiadau Buddiant a Goddefebau.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid cynnal cyfarfodydd y dyfodol am 12.00 canol dydd.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 285 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2022.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 260 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022.
PENDERFYNWYFD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 223 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion yr Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022.
Diweddarodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu y Pwyllgor ar y mater hwn yn dilyn y penderfyniad. Hysbyswyd aelodau y bu apêl i’r Llys Ynadon ar benderfyniad yr Is-bwyllgor na chafodd ei glywed hyd yma. Roedd aelodau’r Is-bwyllgor wedyn wedi cwrdd gyda Cyfreithiwr y Cyngor i baratoi am yr apêl ac, yn unol â chyngor cyfreithiol, cytunwyd ceisio Gorchymyn Caniatâd i alluogi’r cais gwreiddiol i fynd yn ei flaen.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r Cofnodion.
|
|
Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 230 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Ffioedd Trwyddedau Statudol 2022/23 PDF 430 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm, Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y ffioedd arfaethedig ar gyfer Trwyddedau Gamblo, Hypnosis a Ffilmiau fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
|