Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny. Cofnodion: Nodwyd na wnaed unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwydymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Cynghorwyr B. Summers, B. Thomas a L. Winnett.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Adroddiad Gweithgareddau ar gyfer Chwarter 2 2019/2020 PDF 542 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwydystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol yr adroddiad sy'n rhoi diweddariad ar waith y Tîm Trwyddedu ar gyfer Chwarter 2 yng nghyswllt materion trwyddedu statudol.
Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at yr Adroddiad Gweithredol a dywedodd y derbyniwyd 80 cais y chwarter hwn yn cynnwys 5 trwydded safle newydd, 1 tystysgrif safle clwb newydd a 40 hysbysiad digwyddiad dros dro.
Mae Atodiad 2 yn cynnwys data Chwarter 1 a Chwarter 2 ar gyfer dibenion cymharu gyda thueddiadau blaenorol.
Ynnhermau'r Adroddiad Rheolaeth, hysbysodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau ei bod yn bryd adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu Deddf Trwyddedu 2003 ac y byddai'n destun adroddiad ar wahân a gyflwynir i'r Pwyllgor maes o law. Mae Atodiad 1 yn amlinellu amserlen arfaethedig yr adolygiad polisi. Nodwyd y cynhelir y cyfnod ymgynghori yn ystod Chwefror/Mawrth 2020.
Dywedodd y Rheolwr Tîm y byddai'r Ffioedd Gamblo hefyd yn cael eu hadolygu yn ystod Chwarter 3 a 4 2019/20 gyda golwg ar weithredu unrhyw newidiadau arfaethedig o 1 Ebrill 2020.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad gweithgaredd ar gyfer y chwarter hwn (Opsiwn 2).
|