Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cynghorydd G. Thomas Cynghorydd K. Rowson
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 259 KB Ystyried cofnodion yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2021.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Adroddiadau Gweithgareddau ar gyfer 2020/21 a 2021/22 (Ch1 a Ch2) PDF 437 KB Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.
Dywedodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn diweddaru cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol ar waith y Tîm Trwyddedu o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 ac 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021. Siaradodd y Rheolwr Tîm am yr adroddiad ac amlinellu’r pwyntiau allweddol a fanylir ynddo yn ymwneud ag effaith Covid-19, staffio a dyletswyddau, arferion gweithio ynghyd â’r adroddiad gweithredol, alcohol ac adloniant, gamblo, hap-chwarae a loterïau, gweithgareddau arolygu a gorfodaeth ac adroddiad rheoli.
Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau ymhellach at y manylion a amlinellir yn atodiad yr adroddiad.
Cododd Aelod bryderon am yfed dan oed a dywedwyd fod yr awdurdod lleol yn casglu tystiolaeth yn unol â pholisi RIPA y Cyngor. Rhoddodd y Rheolwr Tîm ymhellach esboniad o’r broses a gynhelid os honnwyd fod gwerthu alcohol i bobl dan oed ac esboniodd y byddai’r deilliannau a’r camau gweithredu yn dibynnu ar yr holl amgylchiadau, yn cynnwys pwy oedd wedi gwerthu i unigolyn dan oed.
Yng nghyswllt cwestiwn am natur y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wnaed, dywedwyd fod y ceisiadau a wnaed yn cynnwys gwybodaeth ar nifer y tafarndai, clybiau sydd wedi cau neu ildio/dod i ben oherwydd Covid-19. Dywedodd y Swyddog y gwneir gwiriadau bob amser gyda’r tîm Rhyddid Gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth er mwyn sicrhau ei bod yn addas datgelu gwybodaeth.
Cyfeiriodd Aelod at y newidiadau a wnaed i nifer o safleoedd trwyddedig yn ystod y pandemig er mwyn cynnig gofodau awyr agored. Gofynnodd yr Aelod os oes gan yr Awdurdod ddigon o gapasiti i reoli’r gofodau awyr agored hyn a dywedodd ei bod yn hollbwysig y caiff y busnesau hyn eu hyrwyddo a’i bod hefyd yn bwysig eu bod yn cael eu rheoli’n gywir gan fod rhai tafarndai mewn ardaloedd preswyl.
Teimlai’r Rheolwr Tîm – Safonau Masnachu a Thrwyddedu fod y capasiti yn ddigonol ar hyn o bryd a nododd mai am nifer cymharol fach o safleoedd y bu cwynion yn gysylltiedig â defnydd ardaloedd awyr agored hyd yma. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n cael ei monitro’n barhaus yn unol â chyfyngiadau Covid-19. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm fod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Heddlu Gwent i weithio mewn partneriaeth gyda’r awdurdod lleol a rhoi gwybodaeth yn ôl i’r Tîm Trwyddedu/Safonau Masnach i ymchwilio/monitro ymhellach drwy ymweliadau gorfodaeth.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (opsiwn 2).
|