Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Ni chafwyd ceisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Cynghorydd S. Thomas (Arweinydd y Cyngor) Cynghorydd J. Wilkins (Arweinydd y Gr?p Annibynnol) Cynghorydd J. Thomas Ms S. Rosser
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig). Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor mai dim ond os oes eitemau perthnasol ar agenda y cyfarfod y caiff Arweinwyr Gr?p eu gwahodd i gyfarfodydd y Pwyllgor Safonau, a nodi gwaith y Tîm Gwasanaethau Democrataidd a’r Swyddog Monitro yn yr Adroddiad Blynyddol.
|
|
Ystyried drafft Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r drafft Gylch Gorchwyl
CYTUNODD y Pwyllgor
|
|
Drafft Templed Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau PDF 338 KB Ystyried drafft templed Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i dempled drafft yr Adroddiad Blynyddol.
CYTUNODD y Pwyllgor:
y dylai’r adroddiad gynnwys blwyddyn calendr h.y. Ionawr 2022 – Ionawr 2023. |
|
Diweddariad ar benodi i swydd wag ar gyfer Aelod Lleyg ar y Pwyllgor Safonau Ystyried adroddiad llafar y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad llafar y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r adroddiad llafar.
|
|
Diwygiad i Broses y Cod Ymddygiad Cwynion PDF 153 KB Ystyried adroddiad llafar y Swyddog Monitro. (Atodir llythyr at Gadeiryddion y Pwyllgor Safonau).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad llafar y Swyddog Monitro.
CYTUNODD y Pwyllgor i hysbysu’r Ombwdsmon o hyn ymlaen os yw’r broses newydd yn achosi problemau.
|
|
Diweddariad ar Hyfforddiant yn y Dyfodol ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol ar hyfforddiant yn y dyfodol..
Cofnodion: CYTUNODD y Pwyllgor y dylid trefnu sesiwn hyfforddiant rhithiol hanner diwrnod gyda darparydd allanol ar gyfer Aelodau presennol a newydd a gwahodd Cynghorau Torfaen a Sir Fynwy. Byddid yn cynnal trafodaeth fewnol ar y sesiwn hyfforddiant unwaith y’i cwblhawyd.
UNRHYW FATER ARALL/DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol i edrych ar dudalen benodol ar y wefan yn hyrwyddo gwaith y Pwyllgor Safonau.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth 2023.
|