Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniodd y Cadeirydd y ddau Arweinydd Gr?p i’r cyfarfod.
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer: Sarah Rosser a Roger Clark
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Trafodaethau gydag Arweinwyr Grwpiau Trafod gydag Arweinwyr yr ymagwedd at safonau dan y ddeddfwriaeth newydd.
Cofnodion: Amlinellodd Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Gr?p Annibynnol eu dull gweithredu i gynnal a chodi safonau o fewn y Cyngor a’u grwpiau eu hunain dan y ddeddfwriaeth newydd.
CYTUNODD y Pwyllgor y dylai Arweinwyr Grwpiau dderbyn gwahoddiad fel mater o drefn i fynychu cyfarfodydd y dyfodol o’r Pwyllgor Safonau.
|
|
Pwyllgor Safonau – 19 Gorffennaf 2022 PDF 202 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Gorffennf 2022..
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022.
Yn dilyn trafodaeth fer,
CYTUNODD y Pwyllgor Safonau i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Canlyniad y Panel Apwyntiadau 15 Hydref 2022 Hysbysu’r gr?p am benderfyniad y Panel, i’w gadarnhau gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2022.
Cofnodion: Hysbysodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y Pwyllgor am ganlyniad y Panel Apwyntiadau.
Yn dilyn trafodaeth fer,
CYTUNODD y Pwyllgor i ailhysbysebu’r lle gwag am aelod Annibynnol cyn y Nadolig.
|
|
Ystyried Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon (Elfen Ymddygiad) PDF 142 KB Ystyried y llythyr..
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ac yn dilyn trafodaeth fer,
CYTUNODD y Pwyllgor Safonau i nodi cynnwys Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon.
|
|
Blaengynllun Gwaith/Gofynion Hyfforddiant Trafod y blaengynllun.
Cofnodion: Codwyd y pwyntiau dilynol:-
Cyfarfodydd rheolaidd wedi eu strwythuro Hyfforddiant gloywi (yn arbennig os penodir aelodau newydd) Adolygu Cylch Gorchwyl Adroddiad Blynyddol
|
|
Unrhyw Fater Arall/Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Ystyried unrhyw fater arall/dyddiad y cyfarfod nesaf.
Cofnodion: Cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau – Ionawr/Chwefror 2023 I’w gadarnhau. |