Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Nodyn: Oherwydd nam technegol nid oes recordiad o’r cyfarfod hwn ar gael
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac adroddwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:
Cynghorydd G. Thomas a Mr. J. Evans.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefeau.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 208 KB Derbyn cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Safonaul a gynhaliwyd are 29 Ionawr 2020.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020.
Materion yn Codi
Codi ymwybyddiaeth fod goddefebau ar gael
Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithol a Chorfforaethol, yn dilyn trafodaethau blaenorol am argaeledd goddefebau, y bwriedir cryfhau’r broses ar gyfer goddefebau drwy’r hyfforddiant arferol ar God Ymddygiad Aelodau. Fodd bynnag, cafodd y rhaglen hyfforddiant ei gohirio fel rhan o’r ymateb i COVID-19 ond rhoddodd y Swyddog sicrwydd y caiff ei gynnwys yn y rhaglen hyfforddiant pan mae busnes y Cyngor yn ôl i’r arferol.
Ystyriaeth i enghreifftiau o Lyfr Gwaith yr Ombwdsmon
Dywedodd y Cadeirydd y cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf y byddai hyn yn dod yn eitem safonol ar yr agenda a gofynnodd i’r Swyddog os oedd unrhyw ddiweddariad i’w adrodd.
Atebodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol na fedrai roi diweddariad gan fod yr ymateb i COVID-19 wedi effeithio ar hyn hefyd ac y caiff ei godi yn y cyfarfod nesaf. Cafodd llawer o waith yr Ombwdsmon hefyd ei oedi felly mae’n annhebyg y byddai llawer i adrodd arno, fodd bynnag yn y cyfamser gall Aelodau edrych ar wefan yr Ombwdsmon.
Dywedodd yr Aelod fod yr adnoddau ar wefan yr Ombwdsmon yn ddefnyddiol iawn wrth roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Safonau.
Gohrio gweddarlledu cyfarfodydd
Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithol a Chorfforaethol y cafodd llawer o’r materion yn ymwneud â gweddarlledu eu disodli gan ymateb y Cyngor i COVID-19. Mae’r Cyngor bellach wedi symud i sefyllfa lle mae cyfarfodydd democrataidd wedi cael eu hailgyflwyno’n raddol yn defnyddo technoleg Teams sy’n ei gwneud yn bosibl i recordio cyfarfodydd a’u rhoi yn y parth cyhoeddus, felly mae cyfarfodydd mewn gwirionedd yn cael eu gweddarlledu er mewn ffurf wahanol. Dywedodd y Swyddog y byddai’r Cyngor, fel llawer o sefydliadau eraill, yn edrych ar gymryd rhai o fanteision hyn i’r tymor hwy i gynllunio ar gyfer atal lledaeniad COVID-19, ond edrych hefyd ar y buddion yn nhermau effeithiolrwydd. Caiff hyn ei ystyried gan Dîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol y Cyngor wrth symd ymlaen.
Gofynion Hyfforddiant
Gofynnodd y Cadeirydd os yw’n dal yn fwriad i gynnal sesiwn hyfforddiant ym mis Medi o gofio am ganllawiau presennol y Llywodraeth ac os y gellid cyflwyno hyn gyda thechnoleg Teams.
Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y byddai’r sesiwn hyfforddiant arferol yn cynnwys hyfforddiant i Aelodau newydd a hyfforddiant gloywi ar gyfer Aelodau presennol, fodd bynnag bydai’n rhaid diweddaru hyn yn awr i ffurf rithiol a gofynnodd am awgrymiadau gan Aelodau am sut yr hoffent dderbyn hyfforddiant.
Dywedodd Aelod fod hyfforddiant yn hanfodol i bob Aelod ac y byddai’n croesawu unrhyw fath o hyfforddiant. Soniodd fod hyfforddiant ar y cyd gydag awdurdodau lleol eraill yn fanteisiol, ond ei bod yn bwysig derbyn hyfforddiant gloywi neu fel arall.
Cadarnhaodd y Swyddog y caiff opsiynau eu hystyried a’u cylchredeg i Aelodau ar gyfer trafodaeth bellach.
Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
Gofynnodd y Cadeirydd os cafodd y crynodeb o brif ddarpariaethau’r Bil eu cylchredeg i Aelodau.
Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Penodi Swyddi Gwag Aelodau Annibynnol Ystyried penodi swyddi gwag aelodau annibynnol. Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithol a Chorfforaethol y cafodd dau ymgeisydd eu cyfweld ar gyfer y ddwy swydd wag ar y Pwyllgor Safonau. Argymhellwyd penodi un o’r ymgeiswyr, a chaiff yr argymhelliad hwn ei gyflwyno i’w gymeradwyo yn y Cyngor ar 23 Gorffennaf 2020.
Byddai’r swydd wag arall yn cael ei ailhysbysebu.
Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd, dywedodd y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant y derbyniwyd tua 9 ymholiad ond mai dim ond 3 cais ffurfiol a gafodd eu llenwi. Cafodd y swyddi eu hysbysebu yn y wasg leol a hefyd ar gyfryngau cymdeithasol a sianeli recriwtio arferol Datblygu Sefydliadol.
|
|
Cynllun gwaith/gofynion hyfforddiant y dyfodol Trafod cynllun gwaith/gofynion hyfforddiant y dyfodol.
Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y byddai’n e-bostio opsiynau am gyflwyno hyfforddiant, i gynnwys Aelodau newydd. Er fod yr opsiynau yn gyfynedig yn yr amgylchiadau presennol, gellid trefnu sesiynau rhithiol.
Tanlinellodd y Cadeirydd bwysigrwydd hyfforddiant, yn neilltuol Aelodau newydd i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu swyddi newydd, fodd bynnag roedd yn deall yr anhawster yn yr amgylchiadau presennol.
|
|
Unrhyw Fater Arall/Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd mai hwn oedd y cyfarfod olaf i Mr. Evans a Mr. Price ac er nad oeddent yn bresennol, diolchodd iddynt am eu gwasanaethau sylweddol i’r Pwyllgor Safonau yn y 10 mynedd diwethaf.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol nad yw’r Ombwdsman wedi ymchwilio unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Blaenau Gwent.
Dyddiad y cyfarfod nesaf: i’w gadarnhau.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu a dywedodd fod y cyfarfod ar gau.
|