Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Derbyn penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod arbewnnig a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023. Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023.
Rhoddwyd y diweddariad dilynol:
· Cynrychiolaeth Cynghorau Tref/Cymunedol mewn cyfarfodydd – Dywedodd y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant ei fod yn disgwyl diweddariad yr wythnos ddilynol.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r elfen Ymddygiad yn Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon, pan wnaed y pwynt dilynol:
· Awgrymodd Aelod y dylai’r sawl sy’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd ddefnyddio clustffonau wrth drafod gwybodaeth eithriedig mewn cyfarfodydd rhithiol – dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n cyfeirio’r mater hwn at y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau i’w drafod ymhellach.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon.
|
|
Atgyfeiriadau’r Ombwdsmon Ystyried atgyfeiriadau a wnaed i’r Ombwdsmon.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o busnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraff 12, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol.
Mewn pleidlais,
CYTUNODD y Pwyllgor i symud ymlaen i wrandawiad ffurfiol.
|