Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer: Cynghorydd M. Cross a Helen Roberts.
|
|
Cyflwyno a Chroesawu Aelodau Newydd Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniadau.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 193 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.
Yn dilyn trafodaeth fer,
CYTUNODD y Pwyllgor Safonau i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Adnewyddu Telerau Swydd Trafnod adnewyddu telerau swydd.
Cofnodion: Esboniodd y Swyddog Llywodraethiant a Diogelu Data aelodaeth y pwyllgor fel sy’n dilyn.
Nid yw unrhyw Aelod i wasanaethu am gyfnod o 10 mlynedd (i gynnwys un cyfnod o 6 mlynedd ac ail gyfnod o 4 mlynedd).
Dywedwyd fod dau Aelod o’r Pwyllgor wedi cyrraedd eu tymor cyntaf 6 mlynedd, sef Ronnie Alexander a Helen Roberts. Fodd bynnag, mae Helen Roberts wedi penderfynu peidio cymryd ail dymor, ac fel canlyniad byddai lle gwag ar y Pwyllgor.
Wedyn cynigiwyd ymestyn lle Ronnie Alexander ar y Pwyllgor yn ffurfiol am gyfnod o 4 mlynedd, a chafodd hyn ei eilio a’i GYTUNO.
|
|
Adnewyddu Cadeirydd Trafod adnewyddu cadeirydd.. Cofnodion: Gwahoddwyd enwebiasdau ar gyfer penodi Cadeirydd ar gyfer 2022/23.
CYTUNWYD y dylai Mr. R. Alexander gael ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2022/23.
Wedyn gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer penodi Is-gadeirydd, a CHYTUNWYD penodi Mr. S. Williams yn is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2022/23.
|
|
Adrannau 62 a 63 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: Dyletswyddau Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol Rhoi ystyriaeth i Adrannau 62 a 63 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: Dyletswyddau Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol yng nghyswllt safonau ymddygiad a dyletswydd y Pwyllgor Safonau i wneud adroddiad blynyddol.
Cofnodion: Bu trafodaeth pan godwyd y pwyntiau gweithredu dilynol:
· Awgrymodd Aelod y dylid cynnal adolygiad o nifer y Penderfyniadau Lleol a gynhelir gan y Swyddog Monitro.
· Awgrymodd Aelod hefyd y dylid dod â throsolwg o waith y Tîm Gwasanaethau Democrataidd, o ran yr hyfforddiant a ddarperir ar gyfer Aelodau etholedig, i’r Pwyllgor Safonau.
· Ystyried cofrestr buddiannau.
· Rhoddwyd hyfforddiant i Aelodau ar oddefebau, a chynigir hyfforddiant pellach. · Bydd aelodau’r Pwyllgor Safonau yn cwrdd gydag Arweinwyr grwpiau gwleidyddol.
|
|
Blaengynllun Gwaith/Gofynion Hyfforddiant Trafod blaengynllun gwaith/gofynion hyfforddiant.
Cofnodion: Codwyd y pwyntiau dilynol:
Rhestr cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn.
Swyddogion Monitro i baratoi rhestr o hyfforddiant a gynigiwyd i Aelodau.
|
|
Unrhyw Fater Arall/Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Trafod unrhyw fater arall/dyddiad y cyfarfod nesaf.
Cofnodion: Cyfarfod gydag Arweinwyr Grwpiau ym mis Hydref.
Pwyllgor nesaf y Pwyllgor Safonau – Ionawr, i’w gadarnhau.
|