Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac adroddwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:
Cynghorydd G. Thomas a Mr. J. Evans.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Cadeirydd y credai y gwneir mwy o geisiadau am oddefebau mewn awdurdodau eraill nag ym Mlaenau Gwent.
Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fod hyn yn dueddiad hirsefydlog ym Mlaenau Gwent am resymau a ystyriwyd yn flaenorol. Roedd Aelodau wedi cael hyfforddiant fod goddefebau ar gael fel rhan o’u proses sefydlu a darperir hyfforddiant gloywi hefyd. Mae ffurflenni cais ar gyfer goddefebau ar gael i Aelodau ynghyd â chanllawiau ar pryd i wneud cais.
Dywedodd y Swyddog fod goddefebau yn dod yn bwysig lle mae nifer gyfartal bron mewn cynrychiolaeth wleidyddol rhwng partïon, yn arbennig wrth bleidleisio ar faterion dadleuol ac yn y blaen. Fodd bynnag, nid oedd hwn yn fater mor bwysig ym Mlaenau Gwent oherwydd bod mwyafrif clir o Aelodau Annibynnol. Roedd y seiliau ar gyfer gweithredu goddefebau hefyd yn gyfyngedig ac fel canlyniad roedd Aelodau ym Mlaenau Gwent yn fwy tebygol o ddatgan buddiant a pheidio cymryd rhan os oes angen.
Ychwanegodd y Swyddog, er y gall godi ymwybyddiaeth fod goddefebau ar gael, na fedrai ddylanwadu ar Aelodau i wneud cais. Roedd seiliau goddefebau yn gul a dywedodd y Swyddog fod mwyafrif y materion a drafodir gydag Aelodau yn nhermau datganiadau buddiant yn dod o fewn categori goddefebau posibl. Fodd bynnag, byddai’n edrych lle gellid cryfhau proffil goddefebau.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 209 KB Derbyn cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019.
CYTUNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon (Elfen Ymddygiad) PDF 126 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol at yr adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yng nghyswllt cwynion gwasanaeth a chwynion Cod Ymddygiad Aelodau.
Cyhoeddwyd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon yn yr Haf, a chadarnhaodd y Swyddog y rhoddwyd adroddiad amdano i’r Pwyllgor Archwilio a’r Cyngor i’w ystyried.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo, yn arbennig dudalen 58 sy’n rhoi data cymharol ar gyfer 2018/19 a 2017/18 yng nghyswllt cwynion Cod Ymddygiad a dderbyniwyd. Nid oedd unrhyw dystiolaeth ar gyfer y ddwy flynedd am dorri Cod Ymddygiad yn erbyn unrhyw Aelodau o’r Awdurdod Lleol.
Mae gan y Pwyllgor Safonau hefyd rôl wrth oruchwylio ymddygiad Cynghorau Tref a Chymuned, a chaiff manylion y rhain hefyd eu hamlinellu ar dudalen 58 yr adroddiad.
Yn nhermau meincnodi, dywedodd y Swyddog fod y gyfradd o gwynion a dderbynnir ym Mlaenau Gwent yn gyffredinol is nag mewn awdurdodau lleol eraill.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a’r effaith bosibl ar Bwyllgorau Safonau.
Mewn ymateb dywedodd y Swyddog ei fod yn debygol o effeithio mwy ar awdurdodau iechyd nag ar awdurdodau lleol.
Gofynnodd Aelod am y sefyllfa ar gyfer 2019/20, a chadarnhaodd y Swyddog y cyflwynwyd nifer o gwynion i’r Ombwdsmon yng nghyswllt cynghorau tref a chymuned, ac y cafodd un g?yn yng nghyswllt yr awdurdod lleol ei thynnu’n ôl.
|
|
Ystyried Enghreifftiau o Lyfr Achosion yr Ombwdsmon Cofnodion: Roedd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Corfforaethol Chyfreithiol wedi dweud yn y cyfarfod diwethaf y bu trafodaeth am y mathau o gwynion a gyflwynir i’r Ombwdsmon. Mae’r Ombwdsman wedi cyhoeddi canfyddiadau achosion unigol a chafodd yr wybodaeth ei chasglu yn Llyfr Achos Cod Ymddygiad. Cylchredwyd copïau o’r Llyfr Achos i Aelodau a bu trafodaeth am y crynodebau achos a amlygir ynddo.
Dywedodd y Swyddog nad oedd unrhyw hawl apêl ar gyfer achwynydd pe byddid yn canfod nad yw Aelod yn torri’r cod ymddygiad. Mae proses adolygu y gellid ei dilyn yn annibynnol, ond dim hawl ffurfiol i apelio.
Dilynodd trafodaeth bellach pan ddywedodd Aelod fod Llyfr Achos yr Ombwdsmon yn ddefnyddiol iawn i Aelodau a CHYTUNWYD y byddai hyn yn dod yn eitem sefydlog i’w thrafod ar agendâu yn y dyfodol.
|
|
Diweddariad par: Pwyllgor Safonau arall y Cyngor Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol y gofynnwyd iddi yn y cyfarfod diwethaf i wneud ymholiadau gyda Phwyllgorau Safonau awdurdodau lleol eraill am sut y gweithredant a pha mor aml y cynhelir cyfarfodydd.
Yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion Monitro eraill ac edrych ar wefannau Cynghorau eraill, dywedodd y Swyddog fod amlder cyfarfodydd yn amrywio. Roedd Cyngor Dinas Caerdydd yn cwrdd yn fwy aml gan fod ganddynt fwy o fusnes i’w drafod a hefyd geisiadau am oddefebau ac mae’r awdurdodau hynny gyda nifer fawr o Gynghorau Tref a Chymuned hefyd yn cwrdd yn fwy aml. Fodd bynnag, mae ein hawdurdodau cyfagos yn ymddangos yn debyg i Blaenau Gwent ac mae Cynghorau eraill hefyd wedi cytuno ar weithdrefn datrysiad lleol.
Yng nghyswllt trafodaethau blaenorol am Aelodau yn arsylwi cyfarfodydd y Cyngor, dywedodd y Swyddog nad oedd dim o’r Pwyllgorau Safonau y gwnaeth ymholiadau gyda nhw yn gwneud hyn. Roedd rhai Cynghorau wedi awgrymu na fyddent yn annog aelodau eu Pwyllgorau Safonau i arsylwi cyfarfodydd gan y gallai ragfarnu gwrandawiadau’r dyfodol o Bwyllgorau Safonau, yn nhermau y posibilrwydd y byddai Aelod yn dyst i unrhyw gwynion yn deillio o’r cyfarfodydd a arsylwyd.
Dywedodd y Swyddog mai cyfrifoldeb y Swyddog Monitro yw arsylwi ymddygiad mewn cyfarfodydd, a rhoddodd sicrwydd y byddid yn rhoi blaenoriaeth ar unwaith i unrhyw faterion o ymddygiad. Dywedodd hefyd fod mwyafrif y toriadau yn digwydd tu allan i amgylchedd cyfarfodydd ffurfiol.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod hefyd yn y cyfarfod diwethaf wedi ymgymryd i roi adborth fel Aelod o Bwyllgor Safonau Bro Morgannwg a Phwyllgor Safonau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Dywedodd fod y ddau awdurdod wedi mabwysiadu’r weithdrefn o’i gwneud yn ofynnol i Aelodau Pwyllgor Safonau fynychu cyfarfodydd eraill. Mae Pwyllgor Safonau Bro Morgannwg yn cwrdd 4 neu 5 gwaith y flwyddyn, a disgwylir i Aelodau fynychu dau gyfarfod Cyngor ym mhob cylch blynyddol a dau gyfarfod o Gyngor Tref a Chymuned. Roedd Safonau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn fwy ar gam datblygu a gofynnwyd i Aelodau fynychu un cyfarfod arall o’r Awdurdod. Roedd wedi mynychu un cyfarfod a byddai’n mynychu un arall yn y dyfodol agos.
Soniodd Aelod arall am ei phrofiad o Bwyllgorau Safonau eraill a dywedodd ei fod yr un fath â Blaenau Gwent yn nhermau amlder cyfarfodydd. Derbyniai sylw’r Swyddog y gallai arsylwi cyfarfodydd ragfarnu ymgyfraniad Aelodau pe byddai unrhyw faterion o ymddygiad yn codi.
Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Swyddog na chredai fod angen i Aelodau fynychu cyfarfodydd gan fod hyn yn rhan o’i rôl hi. Fodd bynnag, byddai’n awgrymu y gallai Aelodau fynychu pe byddai unrhyw broblemau sy’n ailddigwydd. Dywedodd hefyd y gall yr Awdurdod gyflwyno gwe-ddarlledu cyfarfodydd yn y dyfodol ac y byddai hyn yn galluogi Aelodau i arsylwi cyfarfodydd drwy wefan y Cyngor.
CYTUNWYD y byddid yn trafod y mater hwn eto yn y dyfodol.
|
|
Blaengynllun Gwaith/Gofynion Hyfforddiant Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fod uchafswm cyfnod swyddi Mr. J. Evans a Mr. J. Price yn dod i ben ar 25 Gorffennaf 2020. Cadarnhaodd y byddai’r broses recriwtio yn dechrau yn y Gwanwyn, gyda chyfarfod ym mis Mehefin i drafod ceisiadau.
Yng nghyswllt hyfforddiant, cadarnhaodd y Swyddog y cynhelir sesiwn hyfforddiant i gynnwys Aelodau newydd ym mis Medi.
|
|
Unrhyw Fater Arall/Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Cofnodion: Cyfeiriodd Aelod at Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a’r effaith bosibl ar Bwyllgorau Safonau, yn nhermau’r gofyniad i gynhyrchu adroddiadau blynyddol, ac awgrymodd y dylid cael diweddariad ar ddarpariaethau’r ddeddfwriaeth newydd.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog fod yr Awdurdod wedi ymateb i nifer o feysydd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Dywedodd y cynigiwyd fod Arweinwyr Gr?p yn cael mwy o gyfrifoldeb am ymddygiad o fewn eu grwpiau gwleidyddol, a dywedodd y Swyddog y credai hi mai’r rheswm pam fod nifer y problemau ymddygiad yn isel ym Mlaenau Gwent oedd bod Arweinwyr Gr?p eisoes yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr a hithau fel Swyddog Monitro, a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, i fonitro ymddygiad a’u bod yn cael sgyrsiau cynnar i ddatrys problemau.
Mae mwyafrif helaeth y Bil yn ymwneud â democratiaeth; fodd bynnag dywedodd y bydd yn edrych ar y materion hynny fyddai’n effeithio’n uniongyrchol ar y Pwyllgor Safonau, a hefyd yn cylchredeg crynodeb o brif ddarpariaethau’r Bil i Aelodau.
CYTUNWYD cynnal y cyfarfod nesaf ddechrau mis Mehefin 2020.
|