Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 20fed Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier a K. Rowson.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Wayne Hodgins fuddiant yn y cyfarfod gan y gall rhai o’i gleientiaid hefyd fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 239 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfrod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021.

 

Nodwyd y trefnwyd sesiwn wybodaeth i Aelodau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer 1 Mawrth 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 18 Tachwedd 2021 pdf icon PDF 246 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021.

 

Eitem 7 – Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch cymharu hysbysebion gydag ardaloedd eraill, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant na wyddai am unrhyw ddata cymharu ond y byddai’n edrych i mewn i’r mater ac yn hysbysu Aelodau maes o law.

 

Teimlai Aelod y dylai’r Awdurdod ddychwelyd i ddulliau mwy traddodiadol o hysbysebu tebyg i bapurau newydd, hysbysebion ar gylchfannau a hysbysfyrddau i gyrraedd cynulleidfaoedd nad ydynt efallai yn gwybod am wasanaethau mabwysiadu ac nad ydynt o bosibl yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y cynhaliwyd dadansoddiad am ddemograffig y bobl sydd â diddordeb mewn mabwysiadu ac mae’r data wedi helpu i ffocysu hysbysebion at y bobl hynny sydd fwyaf tebygol o fabwysiadu. Cafodd llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu targedu gan eu bod yn cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf o bobl a allai o bosib fod â diddordeb mewn mabwysiadu. Gyda chyfyngiadau Covid yn llacio, ychwanegodd y byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl iddynt fod yn bresennol mewn cymunedau a byddent yn darparu cyfuniad o gyfryngau cymdeithasol a hefyd hysbysebion cymunedol.

 

Teimlai’r Cadeirydd, ynghyd â hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, y dylid hefyd ddychwelyd i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned fel a ddigwyddai cyn y pandemig a gellid defnyddio hybiau cymunedol lleol i arddangos posteri hysbysebu ac yn y blaen.

 

Holodd aelod am wybodaeth ar blant mewn gofal maeth yn cael eu mabwysiadu gan eu gofalwyr maeth. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod nifer o fach o blant sydd wedyn yn cael eu mabwysiadu gan eu gofalwyr maeth. Maent yn edrych ar ddatblygu’r maes hwn ac yn peilota canllawiau newydd i recriwtio mabwysiadwyr a fyddai hefyd yn cael eu hasesu fel gofalwyr maeth fel y gellid lleoli’r plant gyda nhw ar unwaith, aros gyda nhw a chael eu mabwysiadu ganddynt.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Adroddiad Cynnydd Rhianta Corfforaethol 2021-22 pdf icon PDF 555 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am gynnydd Bwrdd Rhianta Corfforaethol Blaenau Gwent drwy gydol 2021 i wella canlyniadau a gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ym mhob blaenoriaeth allweddol.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad yng nghyswllt recriwtio seicolegydd. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod angen mewnbwn seicoleg i gefnogi ymarferwyr yng nghyswllt rhai anghenion cymhleth iawn gan blant sy’n derbyn gofal. Drwy arian grant y Gronfa Gofal Integredig roeddent wedi medru recriwtio seicolegydd rhan-amser oedd yn cynnig ymgynghoriadau i ofalwyr maeth er mwyn trin ymddygiad cymhleth ac atal chwalfa lleoliad.

 

Holodd Aelod os yw’r tîm yn cysylltu gyda’r Gyfarwyddiaeth Addysg i wella nifer y plant sy’n derbyn gofal sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant eu bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Gyfarwyddiaeth Addysg. Mae Swyddog Addysgol Plant sy’n Derbyn Gofal yn aelod o’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ac mae gan blant fentoriaid a chynghorwyr ar yr agenda addysgol fel y caiff eu hanghenion unigol eu hystyried, eu monitro a chaiff cynlluniau gweithredu unigol eu rhoi ar waith i edrych sut y gellid eu cefnogi o amgylch eu cynnydd addysgol.

 

Gadawodd y Cynghorydd Hodgins y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gofynnodd Aelod faint o blant sy’n derbyn gofal yn dal i fod gyda’u rhieni. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant o’r 194 plentyn sy’n derbyn gofal bod 42 fod yn derbyn gofal yr Awdurdod ac wedi eu lleoli gyda rhieni. Esboniodd y caiff yr achosion hyn eu hadolygu’n rheolaidd ac os nad oedd angen mwyach i’r Awdurdod Lleol fod y rhieni cyfreithiol wrth ochr y rhieni geni, yr eir ag achosion yn ôl i’r llys i ddiddymu gorchmynion gofal.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau yn cydnabod y cynnydd a wnaed drwy gydol 2021 ac yn teimlo’n hyderus bod yr Awdurdod Lleol a’i bartneriaid yn gwneud yn dda i wella canlyniadau ar gyfer ein plant sy’n derbyn gofal fel rhan o’n cyfrifoldebau rhianta corfforaethol.

 

7.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/2022 (Chwarteri 1 a 2) pdf icon PDF 494 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i roi sylw i bwyntiau allweddol o chwarteri 1 a 2 Adroddiad Blynyddol 2021/2022 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Atodiad 1).

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a thynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant sylw at y prif bwyntiau ynddo yng nghyswllt Gwasanaethau Plant a’r Pennaeth Gwsanaethau Oedolion sylw at y prif bwyntiau ynddo yng nghyswllt Gwasanaethau Oedolion.

 

Gwasanaethau Oedolion

 

Cyfeiriodd Aelod at y prinder gofalwyr a holodd os bu unrhyw welliant mewn recriwtio. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod llawer o gynlluniau a’u bod ar hyn o bryd yn gweithio’n agos iawn gyda darparwyr mewnol ac allanol i edrych ar recriwtio a chadw. Roedd yn heriol iawn ond roedd gwasanaethau’n parhau i gael eu cynnal ac yn gweithredu mor debyg i’r arfer ag oedd modd o fewn y pandemig.

 

Yng nghyswllt cymwysterau ar gyfer y swyddi, os na fyddai gan unigolyn gymhwyster perthnasol byddai’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda nhw i ennill y cymhwyster hwnnw. Mae’r dull gweithredu hwn yn galluogi pobl heb y cymwysterau perthnasol i wneud cais am y swyddi a chael eu cefnogi wrth gyflawni’r cymwysterau gofynnol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol iddynt fedru defnyddio peth cyllid cyn y Nadolig ar gyfer pwysau gaeaf i gefnogi rhai darparwyr gofal yn y cartref a gofal preswyl ac mae hyn wedi helpu gyda chadw staff, ond ychydig iawn o recriwtio sy’n dal i fod ar draws Gwent. Teimlai fod y cyflog byw gwirioneddol yn symud yn y cyfeiriad cywir ond amcangyfrifodd y byddai cyflog uwch yr awr yn ei gwneud yn gynnig mwy deniadol i bobl weithio yn y sector hwnnw.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd.

8.

Cyfraddau Swyddi Gwag Gweithwyr Cymdeithasol mewn Gwasanaethau Plant, Tâl a Chymhellion pdf icon PDF 535 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi gwybodaeth ar y dilynol:-

·         Y pwysau staffio gwaith cymdeithasol a brofir mewn gwasanaethau cymdeithasol plant;

·         Yr hyn a gaiff ei wneud i reoli’r pwysau hyn;

·         Cymariaethau o raddfeydd cyflog gwaith cymdeithasol ar draws Cymru, yn neilltuol Gwent;

·         Cymhellion ychwanegol a gynigir i weithwyr cymdeithasol Blaenau Gwent.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddot.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am hyrwyddo iechyd a gofal cymdeithasol fel maes gwaith mewn ysgolion a cholegau, hysbysodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant yr Aelodau eu bod wedi ymweld ag ysgolion cyn y pandemig ac wedi mynychu dyddiau agored mewn prifysgolion i hyrwyddo manteision gweithio i Gofal Cymdeithasol Blaenau Gwent a byddent yn gwneud hyn eto pan fydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu hynny. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y buont yn gweithio gyda cholegau ar draws Gwent yn cynnwys Prifysgol De Cymru i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau o fewn gofal cymdeithasol i geisio denu myfyrwyr i’r sector. Buont yn canolbwyntio ar ofal yn y cartref a gofal preswyl gan fod hynny yn aml yn arwain at i bobl ddatblygu diddordeb mewn gweithio mewn gofal cymdeithasol.

 

Yng nghyswllt cymhariaeth cyflogau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod hyn yn cael ei adolygu ond roedd pryder, pe byddai un Awdurdod yn codi eu cynnig cyflog, yna gallai awdurdodau eraill ddilyn a fedrai yn anfwriadol arwain at i weithwyr cymdeithasol symud o un Awdurdod i un arall gan darfu ar eu perthynas gyda’r plant a’r teuluoedd a gefnogant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod hyn yn broblem genedlaethol a theimlai fod angen datrysiad cenedlaethol, ac mae Cymdeithas Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi graddfa gyflog genedlaethol a’u bod hefyd wedi bod yn gwthio Llywodraeth Cymru i gyflwyno bwrsariaethau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, tebyg i’r un ar gyfer nyrsys, i greu cydraddoldeb rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a rhoi cymhelliant i weithwyr gofal cymdeithasol ymgymryd â’r swydd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau yn craffu’r adroddiad ar nifer swyddi gwag gwasanaethau plant, tâl a chymhellion a chyfrannu at asesiad parhaus effeithlonrwydd y gyfarwyddiaeth.

9.

Blaenraglen Gwaith: 3 Mawrth 2022 pdf icon PDF 392 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cyflwyno’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod sydd ar yr amserlen ar gyfer 3 Mawrth 2022.

 

Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau, oherwydd y cynhelir cyfarfod arbennig o’r Cyngor ar 3 Mawrth 2022, y cynigir canslo’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a fwriadwyd ar gyfer 3 Mawrth 2022 a bod eitemau’r agenda yn cael eu hystyried yng nghylch nesaf y Pwyllgor.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef canslo cyfarfod blaenraglen gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol oedd ar y rhaglen ar 3 Mawrth 2022 a bod yr eitemau agenda yn cael eu hystyried yng nghylch nesaf y Pwyllgor.

 

10.

Datblygu cynllun cydweithio rhwng Caerffili/Blaenau Gwent mewn darparu Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi gwybodaeth i gefnogi trefniant cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gan ddarparu gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Blaenau Gwent.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad gan dynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo ac ymatebodd i gwestiynau Aelodau. Hysbysodd Aelodau y caiff adolygiad o gostau blynyddol ei gynnwys fel rhan o’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth, ond roedd yn bwysig nodi y byddai Blaenau Gwent yn gyfrifol am y costau a gafwyd wrth gomisiynu bargyfreithwyr ar gyfer achosion mwy cymhleth a chostau llys eraill cysylltiedig.

 

Yng nghyswllt capasiti, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y dylai parhad y strategaeth i ostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal arwain at ostyngiad yn nifer y ceisiadau llys sydd eu hangen yn y dyfodol. roedd Caerffili wedi llwyddo i recriwtio a chadw eu tîm cyfreithiol a theimlai’n hyderus y byddai digon o gapasiti i gefnogi Gwasanaethau Plant Blaenau Gwent. Pe byddid yn cytuno i’r cydweithio, dywedodd y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth am isafswm cyfnod o 5 mlynedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes unigolion heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi’r cydweithio rhwng Blaenau Gwent a Chaerffili i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddarparu gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant.