Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 5100
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Collier.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Codwyd y datganiad buddiant dilynol:-
Cynghorydd G. Paulsen Eitem Rhif 6 – Grant Plant a Chymunedau
Cododd y Cynghorydd Wayne Hodgins hefyd ddiddordeb buddiant yn y cyfarfod gan y gall rhai o’i gleientiaid fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 235 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021, yn cynnwys:-
Cyfeiriodd Aelod at yr awgrym a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gellid cyflwyno adroddiad i’w ystyried yng nghyswllt tâl gwaith cymdeithasol a’r cymhellion a gynigir gan awdurdodau eraill. Nododd yr Aelod nad oedd hyn ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd a gofynnodd pryd y gellid disgwyl adroddiad.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y gellid cyflwyno’r adroddiad i’r cyfarfod nesaf.
CYTUNODD y Pwyllgor y dylai’r adroddiad gael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.
CYTUNODD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, y dylid cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/2021 PDF 407 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol at Adroddiad Blynyddol 2020/2021 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a fanylir yn Atodiad 1 a gwahoddodd gwestiynau gan Aelodau.
Cyfeiriodd Aelod at y flaenoriaeth ‘i ddatblygu modelau amgen o gefnogaeth sy’n hyrwyddo annibyniaeth ac yn cefnogi deilliannau llesiant’ ac yn neilltuol unigolion 25 oed a throsodd. Dywedodd yr Aelod fod llawer o’r bobl ifanc hyn yn awyddus i ddychwelyd i normalrwydd a gofynnodd pa gynlluniau sydd yn eu lle ar gyfer y dyfodol i gael defnyddwyr gwasanaeth dros 25 oed yn ôl i’r gymuned allan o’u cartrefi lle buont ers dechrau’r pandemig.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol at y cyflwyniad a roddwyd mewn cyfarfod blaenorol yng nghyswllt y pwysau yn y system gofal cymdeithasol ac iechyd. Dywedwyd fod staff gofal dydd yn cefnogi gwasanaethau mewn meysydd eraill fel canlyniad i brinder staff mewn gwasanaethau rheng-flaen oherwydd y pandemig. Felly, nid yw rhai gwasanaethau yn gweithredu fel y byddent wedi bod cyn y pandemig a chafodd gwasanaeth dydd ei ddatblygu i fod yn gydnaws gydag anghenion unigolyn. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod angen sefydlu model ar gyfer cyfleusterau gofal dydd gan na allai’r Adran ddychwelyd i ffyrdd cyn-pandemig gan ei fod yn ddyletswydd ar Gwasanaethau Cymdeithasol i ddiogelu aelodau mwyaf bregus ein cymunedau ac mae angen cydymffufio gydag asesiad risg Llywodraeth Cymru i atal lledaeniad COVID-19 a fyddai’n cynnwys cyfyngiadau pellter cymdeithasol. Unwaith y cynhaliwyd yr adolygiad hwn, ychwanegwyd y caiff ei gyflwyno i Aelodau ei ystyried, fodd bynnag dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y pandemig yn parhau a bod angen cynnal asesiadau risg i gadw peth pellter cymdeithasol yn ein cyfleusterau.
Nodwyd y cafodd gwasanaethau eu cynnig yn rhithwir ac ar sail un-i-un yn ystod y pandemig a bod defnyddwyr gwasanaeth wedi croesawu’r cyswllt hwn, a gobeithir y gellid parhau â’r rhyngweithio hwn. Cynhelir ymgynghoriad gyda theuluoedd a defnyddwyr gwasanaeth i ddynodi eu hanghenion.
Croesawodd yr Aelod waith Gwasanaethau Cymdeithasol, fodd bynnag gofynnodd ymhellach os ceisir prosiectau gyda chlybiau cymunedol a sefydliadau i gael yr unigolion hyn allan i’r awyr agored. Dywedodd yr Aelod y bu’r bobl ifanc hyn dan do am 18 mis a bod teuluoedd yn awyddus i weld gweithgareddau awyr agored yn ailddechrau.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gwaith yn parhau gyda sectorau eraill lle gellid cynnig cymorth o fewn y gymuned. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i godi’r mater yn uniongyrchol gyda’r Aelodau perthnasol.
Cyfeiriodd Aelod at adran cwynion a chanmoliaeth y sector a theimlai y dylai fod nifer dda o negeseuon canmoliaeth sy’n cydnabod gwaith da Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi teuluoedd yn ystod y pandemig.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd bod cyfleusterau ar gael bod yr Adran yn methu casglu negeseuon canmoliaeth gan yr anfonir y rhan fwyf o ohebiaeth yn syth i adeiladau. Caiff y cwynion eu casglu drwy un system a gobeithid y gellid derbyn negeseuon canmol yn yr un ffordd â chwynion er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch.
Cododd Aelod bryder yng nghyswllt cleientiaid ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Grant Plant a Chymunedau PDF 671 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant drosolwg manwl o gynnydd y Grant Plant a Chymunedau ac amlinelloddy pwyntiau allweddol a fanylir yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yng nghyswllt cyllid grant, dywedwyd y cafodd dyraniadau cyllid grant eu cadarnhau fel rhan o setliadau cyllideb Llywodraeth Cymru a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol. Rhoddwyd y wybodaeth hon ym mis Rhagfyr ac roedd grantiau penodol ar wahân i setliad y gyllideb.
Gofynnodd Aelod arall os y gellid cyflwyno gwybodaeth ar brosiectau cyllid penodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr wybodaeth hon ar gael ynghyd â dangosyddion perfformiad a chytunodd ddarparu’r wybodaeth hon.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a’r cynnydd a wnaed hyd yma ar y grant Plant a Chymunedau. Mae Gr?p Llywio y Grant Plant a Chymunedau yn parhau i oruchwylio a gweithredu’r rhaglen cyflenwi ac yn rhoi adroddiad blynyddol ar y cynnydd i’r pwyllgor craffu, y pwyllgor gweithredol a’r trefniadau lleol newydd i olynu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Cynnig i ddatblygu Tîm Fy Nghefnogaeth (MyST) Blaenau Gwent PDF 646 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad sy’n amlinellu’r cynnig a’r achos busnes i ddatblygu Fy Nhîm Cefnogaeth (MyST) Blaenau Gwent yn lle’r MyST ar y cyd presennol gyda Sir Fynwy. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at gefndir sefydlu’r cyd MyST a nododd y dystiolaeth yn yr adroddiad ar y gwaith a wnaed yn y 2 flynedd ddiwethaf yng nghyswllt:-
1. Y nifer o blant Blaenau Gwent y mae MyST wedi eu cefnogi i symud allan o ofal preswyl. 2. Y nifer o blant Blaenau Gwent y mae MyST wedi eu hatal rhag gorfod mynd i ofal preswyl. 3. Y nifer o ymgynghoriadau ymarfer seicolegol Blaenau Gwent a gynhaliwyd gan MyST. 4. Y gwir arbedion cost a wnaed gan MyST. 5. Osgoi costau fel canlyniad i MyST.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at yr arbedion gwirioneddol ac osgoi costau a gyflawnodd MyST yn ystod 2019/2020 a 2020/2021 a nododd y costau a ragwelir ar gyfer tîm Blaenau Gwent yn seiliedig ar ragolwg gan Sir Fynwy. Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach am yr adroddiad a dywedodd y byddai sefydlu MyST Blaenau Gwent yn parhau â’r gwaith cadarnhaol a chynyddu capasiti ym Mlaenau Gwent i fynd i’r afael â’r ôl-groniad atgyfeiriadau.
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a theimlai Aelodau fod yr arbedion a wnaed yn ogystal â’r effaith ar nifer y plant sy’n derbyn gofal yn gadarnhaol. Roedd y Pwyllgor yn llwyr gefnogi’r adroddiad a diolchwyd i’r swyddog am drosolwg defnyddiol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chydnabod gwaith cadarnhaol MyST a chefnogi datblygiad MyST Blaenau Gwent i’r Pwyllgor Gweithredol (Opsiwn 1).
|
|
Blaenraglen Gwaith: 18 Tachwedd 2021 PDF 400 KB Ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion efallai na chaiff yr adroddiad ar fodel technoleg gynorthwyol/darpariaeth teleofal y dyfodol ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf gan fod y swyddog cyfrifol yn delio gyda’r ymateb parhaus i’r pandemig. Felly, cytunodd y Cadeirydd y caiff yr adroddiad ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad (Opsiwn 1) ac:
a) unrhyw ddiwygiadau i’r pynciau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod. b) awgrymu unrhyw un arall y dylid eu gwahodd y mae’r pwyllgor eu hangen i ystyried yr adroddiadau yn llawn; a c) gofyn i unrhyw wybodaeth ychwanegol gael ei chynnwys yng nghyswllt y pynciau i gael eu trafod.
|