Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Llun, 13eg Ionawr, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, ac mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y cyd os gwneir cais am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Moore.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 233 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019, yn cynnwys:-

 

Eitem 6 – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/20 (Chwarter 1 & 2) 

 

Gwasanaethau Oedolion – cynigiodd Aelod ddiwygiad i’r ail baragraff:-

 

‘Dywedodd yr Aelod mai yng Nghaerdydd oedd yr unig welyau  seibiant ar gael ar gyfer oedolion gydag anableddau cyhoeddus a holodd am nifer y gwelyau seibiant sydd ar gael ym Mlaenau Gwent ar gyfer oedolion gydag anableddau corfforol sydd â rhieni oedrannus yn gofalu amdanynt. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion nad oes unrhyw welyau seibiant ym Mlaenau Gwent ar gyfer oedolion gydag anableddau corfforol. Yn yr achosion hyn byddai gwelyau seibiant yn cael eu comisiynu mewn Awdurdodau eraill ar sail achos unigol i ddiwallu anghenion arbenigol’. 

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r Cofnodion.

 

5.

Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 185 KB

Derbyn Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi Dalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.

 

6.

Adroddiad cynnydd - Darpariaeth Cludiant â Chymorth Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 657 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi diweddariad ar ganlyniad asesiadau a gynhaliwyd yn ystod 2019 ar gyfer cymhwyster ar gyfer cludiant â chymorth.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion am yr adroddiad a tynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

O’r 149 asesiad a gynhaliwyd, dywedodd y Cadeirydd fod un person wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Gwasanaeth Opsiynau Cymunedol a gallai fod eraill. Sicrhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yr Aelodau, drwy gyfathrebu parhaus, nad oedd unrhyw ddinasyddion eraill wedi mynegi dymuniad i roi’r gorau i ddefnyddio’r ddarpariaeth Opsiynau Cymunedol.

 

Cyfeiriodd Aelodau at gostau teithiau tacsi o Drefil a dywedodd y gellid dileu cerbydau symudedd ar unrhyw amser. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yr edrychir ar gostau teithiau tacsi o Drefil. Yng nghyswllt cerbydau symudedd, os yw amgylchiadau unigolyn yn newid, yna byddid yn gweithredu elfen amgylchiadau eithriadol y pholisi a byddai amgylchiadau’r dinesydd yn cael eu hadolygu.

 

Holodd Aelod am oriau gweithredu’r cerbydau ac os medrid canfod defnyddiau arall ar eu cyfer pan nad ydynt yn gweithredu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Darparwyr mai oriau gweithredu cerbydau oedd 8.00am i 10.30am ac yna’n ailddechrau am 3.00pm a chadarnhaodd fod cerbydau wedi parcio rhwng yr oriau hyn. Edrychwyd ar ddefnyddiau eraill ond byddai ganddynt oblygiadau cost oherwydd cynnydd yn oriau contract gyrwyr. Nid oedd cyllideb bresennol Opsiynau Cymunedol yn ddigonol i dalu am gynnydd yn oriau contract gyrwyr.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oes gan yr Awdurdod bolisi corfforaethol ar Gludiant. Gwnaeth y Pwyllgor Gweithredol benderfyniad i gadw cludiant rhwng y cartref a’r ysgol a theimlai fod polisi cludiant dwy haen yn gweithio gyda phobl fregus yn cael eu cosbi.

 

Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y cafodd y Gwasanaeth adborth cadarnhaol am y dull hyblyg i ddinasyddion yn defnyddio Opsiynau Cymunedol yn defnyddio eu cludiant eu hunain a pheidio dibynnu ar gludiant yr Awdurdod Lleol. Fe wnaethant hefyd gadarnhau y cafodd y polisïau cydraddoldeb perthnasol eu hystyried i sicrhau fod pobl yn cael eu trin yn deg.

 

Cododd Aelod arall hefyd bryderon fod yr Awdurdod yn rhedeg polisi cludiant dwy haen yng nghyswllt cludiant rhwng y cartref a’r ysgol a dywedodd fod yr Awdurdod yn awr mewn sefyllfa ariannol well ac y dylai’r gwasanaethau cludiant hyn gael eu darparu ar gyfer pobl fregus yn y gymuned.

 

Holodd Aelod arall ar oblygiadau cost cludiant â chymorth. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y gost o ddarparu cludiant â chymorth tua £321,000 ar hyn o bryd. Soniodd hefyd am yr anghydraddoldeb posibl a allai ddigwydd pe byddai’r Cyngor yn penderfynu peidio codi tâl am ddarpariaeth ar gyfer y rhai sy’n parhau i ddefnyddio cludiant yr Awdurdod Lleol pan oedd y rhai oedd eisoes wedi dewis gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer cludiant mewn tacsis yn talu i fynychu yn dilyn eu hadolygiad gofal cymdeithasol.

 

Soniodd Aelod nad yw llawer o dacsis yn medru darparu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddatblygu polisi corfforaethol ar gyfer adolygu costau prydlesau cerbydau, dywedodd y Pennaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Cynnydd Rhianta Corfforaethol pdf icon PDF 549 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am gynnydd Bwrdd Rhianta Corfforaethol Blaenau Gwent drwy gydol 2019 i wella deilliannau a gwasanaethau ar gyfer ein plant sy’n derbyn gofal.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddefnydd cyfleusterau gofal heb gofrestru, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mai dim ond ar sail dros dro nes y gellid canfod cyfleusterau gofal cofrestredig addas y mae’r Awdurdod yn defnyddio cyfleusterau gofal heb gofrestru.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad am gapasiti yn y tîm 14+. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant fod y Rheolwr Diogelu yn awr yn y swydd a bod y tîm ar gapasiti llawn ac yn medru symud ymlaen gyda materion oedd yn dal ar ôl.

 

Holodd Aelod gwestiwn am y 10 o bobl ifanc ar Raglen Hyfforddeiaeth Gorfforaethol Blaenau Gwent a sefydlwyd yn 2017. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod 2 o bobl ifanc yn dal ar y Rhaglen, 1 mewn Datrysiadau Tai ac 1 yn Tai Calon a bod yr 8 arall naill ai wedi symud ymlaen i gyflogaeth daledig neu wedi dilyn hyfforddiant pellach. Byddai’r Rheolwr Gwasanaeth yn rhoi manylion pellach i Aelodau ar eu statws bresennol.

 

Holodd Aelod am gymorth iechyd meddwl a llesiant ar gyfer pobl ifanc. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth na lwyddwyd i recriwtio Seicolegydd yn y Tîm Lleoliad gan fod ymgeiswyr yn amharod i dderbyn contract tymor byr, fodd bynnag mae opsiynau eraill ar gyfer mynediad i seicoleg yn cael eu hymchwilio. Mae’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys partneriaid allweddol tebyg i raglen Anelu’n Uchel sy’n dal i edrych ar y maes gwaith hwn er nad oes seicolegydd yn ei le.

 

Yng nghyswllt nad yw’r cyfeiriad at blant sy’n derbyn gofal yn cael ei ddefnyddio mwyach, gofynnodd i Aelod am i gyfeiriad at blant sy’n derbyn gofal gael ei ddefnyddio’n gyson mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau yn cydnabod y cynnydd a wnaed drwy gydol 2019 ac yn teimlo’n hyderus fod yr Awdurdod Lleol a’i bartneriaid yn gwneud yn dda i wella deiliannau ar gyfer ein plant sy’n derbyn gofal fel rhan o’n cyfrifoldebau rhianta corfforaethol.

 

Gadawodd y Cynghorydd Jonathan Millard y cyfarfod ar y pwynt hwn.

8.

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol pdf icon PDF 498 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar y gwaith a’r penderfyniadau a wnaed dros y 6 mis diwethaf gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a ddatblygwyd dan ganllawiau statudol Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cododd Aelod bryderon difrifol fod asesiadau cartref i ryddhau pobl o’r ysbyty yn ddiogel yn cael eu cynnal ar ôl i gleifion gael eu rhyddhau. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai unigolyn wedi cael eu datgan yn feddygol ffit cyn cael eu rhyddhau o ysbyty ac y byddai angen paratoi model wedi’i gynllunio o ryddhau i ddychwelyd adref. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod cleifion weithiau’n cytuno cael eu rhyddhau o ysbyty cyn bod y Gwasanaeth Cartref yn gwybod am hynny ac y gallai hyn arwain at oedi mewn asesiadau cartref.

 

Holodd Aelod am lesiant meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc. Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod yn cydnabod pryderon yr Aelod gan yn aml fod pobl ifanc yn ymweld â’u meddyg teulu ac yna mai’r cam nesaf fyddai iddynt gael eu hatgyfeirio at ymyriad arbenigol a ddarperir gan CAMHS. Mae’r Awdurdod yn gobeithio datblygu rhywbeth yn y canol i weithio ym Mlaenau Gwent ac ar draws Gwent.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac i gymeradwyo Opsiwn 1, sef craffu ar yr adroddiad a chefnogi penderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

9.

Perfformiad Absenoldeb Salwch y Gweithlu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau pwyllgorau craffu penodol  graffu ar a herio perfformiad absenoldeb salwch Cyfarwyddiaeth perthnasol a’r camau gweithredu a gynigir ar gyfer gwelliannau.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Croesawodd Aelodau yr adroddiad ond codwyd pryderon am lefelau salwch uchel yn y Gyfarwyddiaeth a hyfforddiant gloywi ar gyfer rheolwyr ar system iTrent. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod gostwng lefelau absenoldeb salwch yn parhau yn flaenoriaeth i’r Cyngor a bod y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol yn gweithio i ddatblygu cynllun gweithredu i ostwng lefelau salwch. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ddyletswydd gofal at staff a diogelu pobl fregus sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Byddai gan wasanaethau darparwyr bob amser lefel absenoldeb salwch uwch ar gyfartaledd na’r Cyngor yn gyffredinol oherwydd natur y gwasanaethau a ddarparant, e.e. byddai angen i staff gyda’r ffliw fod yn absennol am gyfnod o 48 awr cyn ymweld â defnyddwyr gwasanaeth i atal heintiau rhag lledaenu.

 

Cododd Aelod bryderon am nifer y staff ar absenoldeb salwch oherwydd problemau iechyd meddwl. Atebodd y Cyfarwyddwr fod nifer y staff ar absenoldeb salwch oherwydd straen a phryder wedi cynyddu yn y 5-10 mlynedd diwethaf, ond roedd yn bwysig nodi fod staff yn ffurfio perthynas gyda defnyddwyr gwasanaeth ac y gall profedigaethau effeithio arnynt. Mae cyrsiau llesiant yn cael eu treialu i wneud staff a rheolwyr yn fwy cydnerth.

 

Gofynnodd Aelod os yw’r Cyngor yn darparu gofal iechyd meddwl ar gyfer ei staff. Esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai staff yn dioddef o straen a phryder yn cael eu cyfeirio at Iechyd Galwedigaethol i geisio ymyrryd yn gynnar i atal absenoldeb salwch rhag digwydd.

 

Cododd Aelod arall bryderon mai dim ond 45% o gyfweliadau dychwelyd i’r gwaith oedd yn cael eu cynnal a’u cofnodi. Tanlinellodd y Cyfarwyddwr fod cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith yn bwysig i ganfod pam fod staff ar absenoldeb salwch. Fodd bynnag, mae rhai anawsterau oherwydd patrymau shifft aelodau staff, lle nad yw rhai aelodau staff yn gweld eu rheolwr llinell am hyd at 2 ddiwrnod. Mae gan y Cyngor bolisi corfforaethol ar Absenoldeb Salwch sy’n gweithio’n dda i staff sy’n gweithio rhwng 9-5 ac yn seiliedig mewn swyddfa, fodd bynnag mae rhai anomaleddau h.y. staff darparwyr sy’n gweithio patrymau shifft.

 

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo’r adroddiad a’r trefniadau a gynigir i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb.

 

10.

Blaenraglen Gwaith - 13 Chwefror 2020 pdf icon PDF 481 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y cyfarfod ar 13 Chwefror 2020.