Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 28ain Tachwedd, 2019 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod o rybudd os dyunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Moore a G. Paulsen.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 231 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Cynnydd ar Weithredu Strategaeth Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy'n derbyn Gofal 2017-2020 pdf icon PDF 767 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt gweithredu Strategaeth Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal 2017-2020.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am warcheidwaid arbennig, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fel arfer mai aelodau teulu estynedig megis mam-guod a thad-cuod, modrabedd ac ewythrod oedd gwarcheidwaid arbennig fel arfer.

 

Holodd Aelod am yr anawsterau o recriwtio seicolegydd ymgynghorol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y cafodd y rôl seicolegydd ei hysbysu ar ddau achlysur gwahanol heb unrhyw ymgeiswyr. Roedd prinder seicolegwyr ac er fod yr Awdurdod yn gystadleuol gyda bandio, roedd cyllid grant yn dymor byr.

 

Yng nghyswllt strategaeth gostwng y nifer o blant sy’n derbyn gofal, dywedodd y Cadeirydd ei bod yn cael ei gwerthuso’n annibynnol gan Brifysgol Caerwrangon a holodd os oedd y Cyngor wedi gweithio gyda Chyngor Casnewydd wrth ddatblygu’r tîm Cefnogi Newid. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod yr Awdurdod wedi edrych ar fodelau Casnewydd a hefyd Gwynedd ac wedi dewis dilyn model Gwynedd.

 

Holodd Aelod am daliadau i warcheidwaid arbennig a lefel y gofal a roddir i dorri’r cylch i bobl ifanc i fyw bywyd da a pheidio dod yn ôl i ofal. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod lefel y gefnogaeth i Warcheidwaid Arbennig yn cynnwys:-

 

·        Yr awdurdod lleol yn datblygu cynllun yn amlinellu’r gefnogaeth a roddir i hyrwyddo lleoliad llwyddiannus.

·        Lwfansau i warcheidwaid arbennig – byddai’r awdurdod yn asesu sefyllfa ariannol y gwarcheidwad arbennig a rhoi cefnogaeth ariannol os oes angen. Byddai hyn wedyn yn cael ei adolygu’n flynyddol.

·        Os yw lleoliad yn torri lawr, byddai’r tîm yn edrych ar sefyllfa’r plentyn a cheisio aelod arall o’r teulu i ofalu amdanynt fel amgen i ddod i ofal.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gefnogaeth ariannol Gwasanaethau Plant, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y cynhaliwyd profion marchnad meddal gydag un cwmni cyfraith preifat a bod un awdurdod lleol wedi mynegi diddordeb mewn darparu gwasanaethau cyfreithiol i Gyngor Blaenau Gwent yn y dyfodol. Holodd Aelod os byddai manteision cost i gyflogi Cyfreithiwr Plant yn hytrach na defnyddio cyfreithwyr allanol costus. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant y cynhaliwyd y darn hwn o waith a bu anawsterau mewn recriwtio Cyfreithwyr Gofal Plant Awdurdod Lleol. Mae’n parhau i ymchwilio gweithio partner gydag awdurdodau lleol eraill ac yn disgwyl unrhyw ddiddordeb mewn cefnogi Blaenau Gwent gyda’r ddarpariaeth yma.

 

Holodd Aelod pam fod swydd gweithiwr cymorth cyfryngu yn un ran-amser. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai dim ond un swydd ran-amser y mae cyllid yn ei gefnogi, fodd bynnag mae hyn yn ychwanegol at y swydd lawn-amser sydd eisoes yn ei lle.

 

Yng nghyswllt ymyriad cynnar, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y sefydlwyd Gweithiwr Cymorth Addysg yn y tîm Cefnogi Newid i gynnig cymorth addysg ar gyfer plant a theuluoedd i blant sydd mewn risg o fynd i ofal. Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi gweithio’n agos gydag  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-20 (Chwarteri 1 a 2) pdf icon PDF 481 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu sylw at bwyntiau allweddol o chwarteri 1 a 2 Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/2020.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Gwasanaethau Plant

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant ar Wasanaethau Plant.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn dda nodi fod y cynllun Llesiant Emosiynol a Iechyd Meddwl Plant yn ei le ac yn symud ymlaen.

 

Gwasanaethau Oedolion

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y cwblhawyd strategaeth gomisiynu Eiriolaeth a gynhyrchwyd ar y cyd ar gyfer cefnogi oedolion bregus ac y lansiwyd llinell gymorth eiriolaeth newydd. Anfonir taflenni gwybodaeth at Aelodau maes o law.

 

Soniodd Aelod fod rhai aelodau bregus yn gofalu am blant a bod angen hyrwyddo’r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) i gyfleu’r neges i’r cyhoedd. Holodd am nifer y gwelyau sydd ar gael ar gyfer gofal seibiant ar gyfer oedolion gydag anableddau corfforol yn eu 70au sy’n gofalu am oedolion gydag anabledd corfforol Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Gofal Plant nad oedd unrhyw welyau seibiant ym Mlaenau Gwent ar gyfer oedolion gydag anableddau corfforol, yn yr achosion hyn caiff gwelyau eu comisiynu mewn Awdurdodau eraill ar sail unigol i ddiwallu anghenion arbenigol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr adroddiad fel y cafodd ei baratoi.

 

7.

Blaenraglen Gwaith - 13.1.2020 pdf icon PDF 483 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cadeirydd y caiff y Model Ataliol o Wasanaeth i ateb y galw am ofal cymdeithasol yn y dyfodol ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Mawrth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y cyfarfod ar 13 Ionawr 2020.