Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 18fed Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, K. Rowson a T. Sharrem.

 

Pennaeth Gwasanaethau Plant

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Wayne Hodgins fuddiant yn y cyfarfod gan y gall rhai o’i gleientiaid hefyd fod yn ddefnyddwyr gwasanaethau y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 220 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 7 Hydref 2021 pdf icon PDF 90 KB

Nodi’r Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol pdf icon PDF 446 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am waith a phenderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y 6 mis diwethaf, a ddatblygwyd dan gyfarwyddyd statudol Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar 22 Ebrill 2021.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo ac esboniodd mai corff ymgynghori yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac y disgwylir iddo roi cyfeiriad ar gyfer unrhyw feysydd o weithio integredig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am ddatblygiad cartref preswyl i blant yn Fferm Windmill, Casnewydd, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y caiff cyllid ar gyfer y cartref breswyl i blant ei ddarparu gan gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ynghyd â ffrwd cyllid refeniw y Gronfa i ddarparu’r model integredig arfaethedig ar draws Gwent. Dywedodd Aelod ei bod yn dda nodi mai’r nod hirdymor yw cael gofal yn nes gartref.

 

Holodd Aelod am flociadau mewn ysbytai a chododd bryderon fod pobl wedi marw oherwydd iddynt fethu cael mynediad i’r triniaeth a’r gofal roeddent eu hangen. Yng nghyswllt y gwasanaeth iechyd ac ambiwlans, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod ganddynt yn awr 40 o staff milwrol ychwanegol ar draws De Cymru i yrru’r ambiwlansau, sy’n rhyddhau parafeddygon ychwanegol. Gweithredwyd hyn tua 3-4 wythnos yn ôl a gobeithir y byddai’n cael effaith ar fedru mynychu mwy o ddigwyddiadau. Dros yr 8-9 wythnos ddiwethaf buont yn edrych ar fesurau i wella’r sefyllfa ac wedi gweithio gyda WAST parthed gweithwyr cymdeithasol yn eu canolfan alw i roi cyngor os oes angen i berson fynd i ysbyty neu gael eu cefnogi gartref gyda darpariaeth gofal yn y cartref.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sicrwydd i Aelodau ar yr hyn a wneir o safbwynt gofal cymdeithasol i sicrhau y gallent ryddhau cynifer o gleifion ag sydd modd yn ddiogel o’r ysbyty. Maent yn cwrdd yn rheolaidd gyda uwch reolwyr yn y Bwrdd Iechyd ac yn cynnal trafodaethau i roi sylw ychwanegol i unrhyw glaf a gafodd eu hatal rhag cael eu rhyddhau o ysbyty i edrych ar ddatrysiadau. Maent wedi cynyddu capasiti i gynnal asesiadau drwy gynnig goramser ychwanegol, gwaith penwythnos a gyda’r nos i staff gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Cododd Aelod bryderon am brinder staff yn Ysbyty’r Faenor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol iddo ofyn am Sesiwn Wybodaeth i Aelodau gyda’r Bwrdd Iechyd a fyddai’n rhoi cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau addas. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi cytuno cynnal sesiwn yn ystod mis Chwefror 2022 ar ôl i bwysau’r gaeaf lacio.

 

Yng nghyswllt recriwtio gweithwyr Gofal Cymdeithasol, holodd Aelod os yw strwythur cyflogau’r Cyngor yn debyg i awdurdodau eraill. Atebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y strwythur tâl yn debyg yn gyffredinol, fodd bynnag mae rhai swyddi ychydig yn wahanol yng nghyswllt darparu gwasanaethau ar draws ardal Gwent. Mae recriwtio yn broblem genedlaethol gyda staff gofal cymdeithasol yn cael eu talu am y cyflog  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Blynyddol 2020/21 Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol pdf icon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi adroddiad ar berfformiad Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru (SEWAS) a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) ar gyfer 2020/21.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru am yr adroddiad a thynnodd sylw at y tri phrif faes o fewn yr adroddiad:-

           Recriwtio

           Lleoli Plant

           Cymorth Mabwysiadu

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am Gwaith Taith Bywyd, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth (SEWAS) bod pob plentyn a fabwysiedir yn cael Gwaith Tai Bywyd. Mae’n dod mewn gwahanol ddulliau ac aiff gyda nhw fel y byddai mabwysiadwyr yn cael dealltwriaeth o hanes y plentyn, mewn ffordd sy’n canoli ar y plentyn, ac mae’n cynnwys yr holl wybodaeth am deulu geni y plentyn.

 

Yng nghyswllt recriwtio ar gyfer lleoliadau holodd Aelod os y gellid ymestyn y fformat ar gyfer hysbysebu, tebyg i ymgysylltu lleol h.y. sioe ffordd pan fydd cyfyngiadau COVID yn caniatáu hynny. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod rhanbarthau eraill wedi buddsoddi £6,000 mewn hysbysfyrddau yn lleol ac mai ychydig o ymateb a gafwyd o’r buddsoddiad hwnnw. Mae Swyddog Marchnata yn ei swydd erbyn hyn ac wedi edrych yn agos ble i fuddsoddi arian i gael yr ymateb gorau, a drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mae hynny. Hysbysodd Aelodau fod recriwtio ar gyfer eleni wedi dyblu a’u bod uwchben y targed ar gyfer eu nodau recriwtio.

 

Gyda demograffeg Blaenau Gwent, teimlai’r Aelod fod pobl yn hoffi cysylltiad wyneb i wyneb i ofyn cwestiynau anodd. Teimlai’r Rheolwr Gwasanaeth eu bod hefyd yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd eu mynychu.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol eu bod wedi symud i lwyfan mwy digidol ar gyfer hysbysebu gyda pheth llwyddiant. Roeddent wedi methu cynnal rhai digwyddiadau cyhoeddus tebyg i sioeau ffordd mewn archfarchnadoedd oherwydd cyfyngiadau pandemig a phan fydd cyfyngiadau COVID yn llacio, gallent ystyried ailedrych ar hyn yn lleol gan y gallai weithio’n well i Flaenau Gwent na rhannau eraill o Went.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn dda nodi fod recriwtio wedi dyblu eleni a holodd os oes unrhyw ddata ar farchnata ar gael i Aelodau gymharu pa fath o hysbysebu oedd mwyaf effeithol. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod gwybodaeth ar gael ac y byddai’n ei anfon i Aelodau er gwybodaeth.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd y gallent o bosibl edrych ar hysbysebu yn yr hybiau ardaloedd y mae pobl yn ymweld yn rheolaidd â nhw.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr wybodaeth fel y’i hadroddwyd.

 

8.

Blaenraglen Gwaith: 20 Ionawr 2022 pdf icon PDF 397 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau am rai newidiadau i’r Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfarfod nesaf yn Ionawr 2022 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Caiff adroddiad Model y Dyfodol o Dechnoleg Gynorthwyol/Darpariaeth Teleofal ei symud i’r cylch nesaf, caiff y Strategaeth Gostyngiad Diogel yn Nifer y Plant sy’n derbyn Cymorth a’r adroddiad ar y Cyllid Gofal Integredig eu symud i’r cyfarfod craffu ym mis Mawrth ac y caiff Cynigion ar gyfer Darparu Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer Gwasanaethau Plant i’r cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef diwygio’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 20 Ionawr 2022 a chyflwyno’r adroddiadau dilynol:

 

           Cynigion ar gyfer darparu gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer Gwasanaethau Plant

           Adroddiad Cynnydd Rhianta Corfforaethol

           Diweddariad Chwarter a 1 2 Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

           Tâl a Chymhellion Gweithiwr Cymdeithasol