Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 7fed Hydref, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Collier.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Codwyd y datganiad buddiant dilynol:-

 

Cynghorydd G. Paulsen

Eitem Rhif 6 – Grant Plant a Chymunedau

 

Cododd y Cynghorydd Wayne Hodgins hefyd ddiddordeb buddiant yn y cyfarfod gan y gall rhai o’i gleientiaid fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 235 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021, yn cynnwys:-

 

Cyfeiriodd Aelod at yr awgrym a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gellid cyflwyno adroddiad i’w ystyried yng nghyswllt tâl gwaith cymdeithasol a’r cymhellion a gynigir gan awdurdodau eraill. Nododd yr Aelod nad oedd hyn ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd a gofynnodd pryd y gellid disgwyl adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y gellid cyflwyno’r adroddiad i’r cyfarfod nesaf.

 

CYTUNODD y Pwyllgor y dylai’r adroddiad gael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

 

CYTUNODD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, y dylid cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/2021 pdf icon PDF 407 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol at Adroddiad Blynyddol 2020/2021 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a fanylir yn Atodiad 1 a gwahoddodd gwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y flaenoriaeth ‘i ddatblygu modelau amgen o gefnogaeth sy’n hyrwyddo annibyniaeth ac yn cefnogi deilliannau llesiant’ ac yn neilltuol unigolion 25 oed a throsodd. Dywedodd yr Aelod fod llawer o’r bobl ifanc hyn yn awyddus i ddychwelyd i normalrwydd a gofynnodd pa gynlluniau sydd yn eu lle ar gyfer y dyfodol i gael defnyddwyr gwasanaeth dros 25 oed yn ôl i’r gymuned allan o’u cartrefi lle buont ers dechrau’r pandemig.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol at y cyflwyniad a roddwyd mewn cyfarfod blaenorol yng nghyswllt y pwysau yn y system gofal cymdeithasol ac iechyd. Dywedwyd fod staff gofal dydd yn cefnogi gwasanaethau mewn meysydd eraill fel canlyniad i brinder staff mewn gwasanaethau rheng-flaen oherwydd y pandemig. Felly, nid yw rhai gwasanaethau yn gweithredu fel y byddent wedi bod cyn y pandemig a chafodd gwasanaeth dydd ei ddatblygu i fod yn gydnaws gydag anghenion unigolyn. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod angen sefydlu model ar gyfer cyfleusterau gofal dydd gan na allai’r Adran ddychwelyd i ffyrdd cyn-pandemig gan ei fod yn ddyletswydd ar Gwasanaethau Cymdeithasol i ddiogelu aelodau mwyaf bregus ein cymunedau ac mae angen cydymffufio gydag asesiad risg Llywodraeth Cymru i atal lledaeniad COVID-19 a fyddai’n cynnwys cyfyngiadau pellter cymdeithasol. Unwaith y cynhaliwyd yr adolygiad hwn, ychwanegwyd y caiff ei gyflwyno i Aelodau ei ystyried, fodd bynnag dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y pandemig yn parhau a bod angen cynnal asesiadau risg i gadw peth pellter cymdeithasol yn ein cyfleusterau.

 

Nodwyd y cafodd gwasanaethau eu cynnig yn rhithwir ac ar sail un-i-un yn ystod y pandemig a bod defnyddwyr gwasanaeth wedi croesawu’r cyswllt hwn, a gobeithir y gellid parhau â’r rhyngweithio hwn. Cynhelir ymgynghoriad gyda theuluoedd a defnyddwyr gwasanaeth i ddynodi eu hanghenion.

 

Croesawodd yr Aelod waith Gwasanaethau Cymdeithasol, fodd bynnag gofynnodd ymhellach os ceisir prosiectau gyda chlybiau cymunedol a sefydliadau i gael yr unigolion hyn allan i’r awyr agored. Dywedodd yr Aelod y bu’r bobl ifanc hyn dan do am 18 mis a bod teuluoedd yn awyddus i weld gweithgareddau awyr agored yn ailddechrau.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gwaith yn parhau gyda sectorau eraill lle gellid cynnig cymorth o fewn y gymuned. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i godi’r mater yn uniongyrchol gyda’r Aelodau perthnasol.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran cwynion a chanmoliaeth y sector a theimlai y dylai fod nifer dda o negeseuon canmoliaeth sy’n cydnabod gwaith da Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi teuluoedd yn ystod y pandemig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd bod cyfleusterau ar gael bod yr Adran yn methu casglu negeseuon canmoliaeth gan yr anfonir y rhan fwyf o ohebiaeth yn syth i adeiladau. Caiff y cwynion eu casglu drwy un system a gobeithid y gellid derbyn negeseuon canmol yn yr un ffordd â chwynion er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch.

 

Cododd Aelod bryder yng nghyswllt cleientiaid  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Grant Plant a Chymunedau pdf icon PDF 671 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant drosolwg manwl o gynnydd y Grant Plant a Chymunedau ac amlinelloddy  pwyntiau allweddol a fanylir yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yng nghyswllt cyllid grant, dywedwyd y cafodd dyraniadau cyllid grant eu cadarnhau fel rhan o setliadau cyllideb Llywodraeth Cymru a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol. Rhoddwyd y wybodaeth hon ym mis Rhagfyr ac roedd grantiau penodol ar wahân i setliad y gyllideb.

 

Gofynnodd Aelod arall os y gellid cyflwyno gwybodaeth ar brosiectau cyllid penodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr wybodaeth hon ar gael ynghyd â dangosyddion perfformiad a chytunodd ddarparu’r wybodaeth hon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a’r cynnydd a wnaed hyd yma ar y grant Plant a Chymunedau. Mae Gr?p Llywio y Grant Plant a Chymunedau yn parhau i oruchwylio a gweithredu’r rhaglen cyflenwi ac yn rhoi adroddiad blynyddol ar y cynnydd i’r pwyllgor craffu, y pwyllgor gweithredol a’r trefniadau lleol newydd i olynu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

7.

Cynnig i ddatblygu Tîm Fy Nghefnogaeth (MyST) Blaenau Gwent pdf icon PDF 646 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad sy’n amlinellu’r cynnig a’r achos busnes i ddatblygu Fy Nhîm Cefnogaeth (MyST) Blaenau Gwent yn lle’r MyST ar y cyd presennol gyda Sir Fynwy. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at gefndir sefydlu’r cyd MyST a nododd y dystiolaeth yn yr adroddiad ar y gwaith a wnaed yn y 2 flynedd ddiwethaf yng nghyswllt:-

 

1.    Y nifer o blant Blaenau Gwent y mae MyST wedi eu cefnogi i symud allan o ofal preswyl.

2.    Y nifer o blant Blaenau Gwent y mae MyST wedi eu hatal rhag gorfod mynd i ofal preswyl.

3.    Y nifer o ymgynghoriadau ymarfer seicolegol Blaenau Gwent a gynhaliwyd gan MyST.

4.    Y gwir arbedion cost a wnaed gan MyST.

5.    Osgoi costau fel canlyniad i MyST.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at yr arbedion gwirioneddol ac osgoi costau a gyflawnodd MyST yn ystod 2019/2020 a 2020/2021 a nododd y costau a ragwelir ar gyfer tîm Blaenau Gwent yn seiliedig ar ragolwg gan Sir Fynwy. Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach am yr adroddiad a dywedodd y byddai sefydlu MyST Blaenau Gwent yn parhau â’r gwaith cadarnhaol a chynyddu capasiti ym Mlaenau Gwent i fynd i’r afael â’r ôl-groniad atgyfeiriadau.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a theimlai Aelodau fod yr arbedion a wnaed yn ogystal â’r effaith ar nifer y plant sy’n derbyn gofal yn gadarnhaol. Roedd y Pwyllgor yn llwyr gefnogi’r adroddiad a diolchwyd i’r swyddog am drosolwg defnyddiol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chydnabod gwaith cadarnhaol MyST a chefnogi datblygiad MyST Blaenau Gwent i’r Pwyllgor Gweithredol (Opsiwn 1).

 

8.

Blaenraglen Gwaith: 18 Tachwedd 2021 pdf icon PDF 400 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion efallai na chaiff yr adroddiad ar fodel technoleg gynorthwyol/darpariaeth teleofal y dyfodol ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf gan fod y swyddog cyfrifol yn delio gyda’r ymateb parhaus i’r pandemig. Felly, cytunodd y Cadeirydd y caiff yr adroddiad ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad (Opsiwn 1) ac:

 

a)    unrhyw ddiwygiadau i’r pynciau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod.

b)    awgrymu unrhyw un arall y dylid eu gwahodd y mae’r pwyllgor eu hangen i ystyried yr adroddiadau yn llawn; a

c)    gofyn i unrhyw wybodaeth ychwanegol gael ei chynnwys yng nghyswllt y pynciau i gael eu trafod.