Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 22ain Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr  K. Rowson a G.A. Davies.

 

Pennaeth Gwasanaethau Plant

Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

 

3.

Datganiadau Buddiannau a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Wayne Hodgins ddiddordeb yn y cyfarfod gan y gall rhai o’i gleientiaid hefyd fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y dylid cynnal cyfarfodydd y dyfodol am 10.00 a.m.

 

5.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 246 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2021-22 y Pwyllgor Craffu pdf icon PDF 386 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynodd y Flaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2021-22 (Atodiad 1) a cheisio cymeradwyaeth gan y Pwyllgor.

 

Nodwyd y dylai’r dyddiadau y cyfeirir atynt ar dudalennau 20 a 21 yn y golofn ddiwethaf o’r Flaenraglen Gwaith i gyd ddarllen 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cytuno ar Flaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-22.

 

ADSS CYMRU – TEYRNGED I BOB GWEITHIWR GOFAL

 

Fel y cytunwyd gyda’r Cadeirydd, cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ffilm fer a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru mewn teyrnged i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru sydd ar gost fawr i’w hunain wedi cyflwyno gofal a chymorth i bobl fregus drwy gydol y pandemig.

 

Byddid yn rhoi dolen i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol i Aelodau weld y fideo ar-lein.

 

7.

Gwiriad Sicrwydd 2021 Arolygiaeth Gofal Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 415 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn cyflwyno crynodeb gwirio sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru fel y’i dynodir yn y llythyr dyddiedig 11 Mehefin 2021 (Atodiad 1). Diben y gwiriad sicrwydd oedd adolygu pa mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant gyda ffocws ar ddiogelwch a llesiant. Mae’r llythyr yn crynhoi canfyddiadau gwiriad sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru ar 17 Mai i 21 Mai 2021.

 

Rhoddodd yr Arolygydd Arweiniol (Arolygiaeth Gofal Cymru) drosolwg o wiriad sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn eu llythyr dyddiedig 11 Mehefin 2021, sy’n crynhoi pa mor dda mae Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod yn parhau i gefnogi oedolion a phlant bregus drwy gydol y pandemig.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn adroddiad gwych yn dangos pa mor dda yr oedd Blaenau Gwent wedi perfformio yn ystod y pandemig. Dywedodd Aelod eraill fod hynny’n gryn glod gan y gallai Awdurdodau eraill edrych i Flaenau Gwent i weld pa mor dda yr oeddent wedi perfformio a gobeithiai y byddai’r wasg yn rhoi adroddiad ar y neges gadarnhaol.

 

Yng nghyswllt paragraff 6.6 yr adroddiad – ‘roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr a ymatebodd i’n harolwg yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr a rheolwyr ac yn ystyried bod eu llwyth gwaith yn hylaw’, gofynnodd Aelod am y geiriau ‘rhan fwyaf’. Esboniodd yr Arolygydd Arweiniol ei bod fel arfer yn wir y gallai rhai materion godi yng nghyswllt newid gan nad oedd pob ymarferydd yn hapus i groesawu newid. Roedd yr Arolygydd wedi siarad gyda’r rheolwyr am y mater a theimlai nad oedd o bwys mawr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am broblemau gyda System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS), dywedodd yr Arolygydd fod problemau mawr gyda’r system. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol mai WCCIS oedd y system gyfrifiadurol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a hyrwyddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob un o’r 22 Awdurdod Lleol a 7 Bwrdd Iechyd i gofrestru a gweithredu. Roedd rhai Awdurdodau a Byrddau Iechyd wedi gweithredu’r system ond roedd problemau mawr am ddibynadwyedd a gweithrediad y system. Mae’r Cyfarwyddwr yn gwybod am gynlluniau i uwchraddio a gwneud gwelliannau i’r system a gobeithiai y byddid yn symud ymlaen â hyn yn yr ychydig fisoedd nesaf.

 

Soniodd Aelod am yr adroddiad ardderchog a chanmolodd staff ar sut yr oeddent wedi delio gyda chyfnod anodd y pandemig a’r mesurau a roddodd yr Awdurdod ar waith i alluogi lleoliadau i aros gyda’i gilydd ac i alluogi plant i weld eu teuluoedd a’u brodyr a’u chwiorydd ar gyfnod mor anodd a hefyd y gefnogaeth oedd ar gael i weithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth a phawb arall oedd yn gysylltiedig. Teimlai fod hyn yn newyddion rhagorol i’r Awdurdod.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn adroddiad rhagorol gan asiantaeth allanol a theimlai ei fod yn dangos fod staff mewn cysylltiad gyda’r cleientiaid a gefnogant ac yn dangos fod yr holl Gyngor yn cymryd eu rôl Rhiant Corfforaethol o ddifrif.

 

Adleisiodd Aelodau eraill sylwadau eu cydweithwyr ar yr  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/20 pdf icon PDF 419 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2019/2020 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Atodiad 1).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ym mharagraff 6.4 Gwasanaethau Oedolion. Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal sylw at y prif bwyntiau ym mharagraff 6.3 Gwasanaethau Plant.

 

Yng nghyswllt atgyfeiriadau, holodd Aelod os oedd gweithiwr cymdeithasol hefyd yn mynd gyda’r heddlu pan oeddent yn ymweld â theulu ac os oedd swyddog heddlu penodol i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant yn Derbyn Gofal ei fod yn dibynnu ar natur yr atgyfeiriad, os oes pryderon am amddiffyn plant ac os oes elfen ymchwiliad troseddol yn gysylltiedig â’r pryderon hynny, yna byddai swyddog heddlu yn mynychu’r atgyfeiriad. Mae tîm penodol o swyddogion heddlu drwy uned diogelu’r cyhoedd a gellid cynnal ymchwiliadau ar y cyd dan Adran 47 o’r Ddeddf Plant lle gallai Gwasanaethau Cymdeithasol wneud ymchwiliadau yng nghyswllt lles y plant a gallai’r heddlu ymchwilio unrhyw elfen droseddol i’r pryderon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef derbyn yr adroddiad fel y cafodd ei ddarparu.

 

9.

Diweddariad ar Strategaeth i Ostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal pdf icon PDF 995 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt gweithredu Strategaeth i Ostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal 2020-2025.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod na fu unrhyw gynnydd yn nifer y plant sy’n dod i ofal a holodd os oedd hynny oherwydd y cyfnod clo. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd effaith hirdymor y pandemig i’w weld eto, mae’r Tîm Cefnogi Newid wedi parhau i ymweld â phlant y bernid eu bod mewn risg. Roedd staff wedi gweithio’n galed i atal plant rhag dod i ofal a hefyd wedi llwyddo i helpu plant i adael gofal drwy orchmynion rhyddhau gofal.

                                   

Cyfeiriodd Aelod at y nifer o ofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent a holodd am gynnydd wrth recriwtio gofalwyr maeth. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y rhan o’r asesiadau a gynhelir ar hyn o bryd yn ofal gan berthynas. Yng nghyswllt recriwtio, cafodd brand Maethu Cymru ei lansio’n swyddogol ac maent yn edrych sut i gydweithio a chydweithredu i gryfhau safle Blaenau Gwent yn y farchnad ar gyfer recriwtio gofalwyr maeth  i’w wneud yn fwy o ddull Cymru-gyfan yn hytrach nag awdurdodau lleol yn gweithio ar ben eu hunain yn erbyn y darparwyr annibynnol.

 

Yng nghyswllt recriwtio gofalwyr maeth o ddarparwyr annibynnol, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth yn nhermau gwahaniaeth gwariant, pan gynhwyswyd gorbenion mai ychydig o arbedion fyddai a theimlai y byddai gwell rheolaeth a chefnogaeth i ofalwyr maeth yr Awdurdod ei hun.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am nifer y plant presennol a phlant newydd sy’n dod i ofal yn Ffigurau 2, 3, 4 a 5, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r cyfanswm poblogaeth yn cynnwys plant a fu mewn gofal ers peth amser ac y byddai’n ffigur treigl, plant yn dod i mewn i ofal ac yn gadael ofal yn unigryw ar gyfer y mis hwnnw.

 

Yng nghyswllt oedran y plant sy’n dod i ofal, byddai’r Tîm yn mynd ati i asesu’r holl opsiynau posibl ar gyfer y plentyn dan sylw a allai gynnwys adsefydlu ar gyfer rhieni os gallai’r rhieni wneud newidiadau, neu gellid ystyried lleoliad gyda theulu estynedig neu fabwysiadu. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod dulliau yn eu lle i sicrhau nad yw cynlluniau a roddwyd ar waith i gefnogi’r plant yn crwydro a bod plant yn symud allan o’r system mor ddiogel ac mor gyflym ag sydd modd faint bynnag eu hoed.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd sefyllfa Blaenau Gwent yng nghyswllt swyddi gwag o fewn y gwasanaeth o gymharu gydag Awdurdodau eraill. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y sefyllfa gyda swyddi gwag yn debyg i awdurdodau eraill yng Ngwent, yn neilltuol ar gyfer Gwasanaethau Plant a theimlai ei bod yn broblem genedlaethol a bod angen i gynnig Blaenau Gwent i weithwyr cymdeithasol fod yn debyg i gynnig Awdurdodau eraill a dangos yr hyn mae Blaenau Gwent yn dda amdano. Teimlai fod  ...  view the full Cofnodion text for item 9.