Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 22ain Ebrill, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr S. Thomas (Cadeirydd), G. Collier,G.L. Davies, M. Moore, G. Paulsen a T. Sharrem.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 257 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Strategaeth Byw’n Annibynnol yn y 21ain Ganrif – Adroddiad cynnydd blynyddol 2020/21 pdf icon PDF 515 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaetha Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi trosolwg i Aelodau ar strategaeth ‘Byw’n Annibynnol ym Mlaenau Gwent yn y 21ain ganrif’.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion am yr adroddiad a rhoi trosolwg o bob un o’r 8 maes blaenoriaeth fel rhan o ddull gweithredu cynhwysfawr at ddatblygu gwasanaeth.

 

Blaenoriaeth 1 – Gofal hirdymor

 

Gofynnodd Aelod pa feysydd o arfer da y gellid mynd â nhw ymlaen yn dilyn Covid a chyfeiriodd hefyd at y gostyngiad yn y nifer o breswylwyr mewn cartrefi gofal. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod nifer o feysydd arfer da ym mhob un o’r 8 blaenoriaeth. Yn benodol yng nghyswllt cartrefi gofal, maent yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddatblygu gwell prosesau rheoli haint ac yn mynd â’r hyn a ddysgwyd o hynny i ddatblygu gwasanaeth newydd wrth symud ymlaen, fel bod gan ddarparwyr cartrefi gofal fynediad cadarn a rhwydd i arweinwyr rheoli haint ac yn y blaen. Yng nghyswllt y nifer is o breswylwyr mewn cartrefi gofal, mae’n rhy gynnar dweud os yw hyn oherwydd hyder ac os y byddai’r tueddiad hyn yn newid. Gall pobl fod wedi penderfynu aros yn eu cartrefi eu hunain oherwydd bod y pandemig wedi effeithio’n neilltuol ar gartrefi gofal neu efallai eu bod yn meddwl yn wahanol am eu hanghenion gofal ar gyfer y dyfodol.

 

Holodd Aelod am y nifer o farwolaethau cysylltiedig â Covid mewn cartrefi gofal. Atebodd y Swyddog y gellid rhoi’r wybodaeth hon ond gyda nodyn o rybudd, gan y byddai rhai pobl a all fod wedi dal yr haint mewn ysbyty ac nid yn y cartref gofal.

 

Gyda llai o alw nag o leoedd ar gael mewn rhai cartrefi gofal ar hyn o bryd, holodd Aelod pa effaith y byddai agor cartref gofal newydd yn ei gael ar y ddarpariaeth bresennol yn y dyfodol. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau oedolion fod cartrefi gofal yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac y gallai unrhyw un agor cartref. Roedd y cartref gofal newydd yn Nhredegar wedi agor yn gynnar yn y pandemig ac eisoes wedi datblygu’r ddarpariaeth cyn y pandemig. Esboniodd y gallai rhai o’r preswylwyr ddod o Gaerffili, Cwm Rhwymi a Phowys ac nid Blaenau Gwent yn unig.

 

Dywedodd Aelod fod yr adroddiad yn dangos fod y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymateb yn gyflym ac yn broffesiynol yn ystod y pandemig, wedi cysylltu gyda nifer o bartneriaid ac wedi parhau i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel sy’n effeithio ar aelodau bregus o gymdeithas. Diolchodd i holl aelodau staff y Gyfarwyddiaeth am eu gwaith da a theimlai fod yr adroddiad yn rhoi sicrwydd i Gynghorwyr a’r cyhoedd a all fod â pherthnasau yn ein gosodiadau gofal. Roedd holl Aelodau’r Pwyllgor Craffu yn cefnogi’r sylwadau hyn a theimlent fod staff Gwasanaethau Cymdeithasol wedi perfformio’n dda tu hwnt mewn blwyddyn heriol iawn.

 

Gyda llai o bobl yn mynd i gartrefi gofal, holodd Aelod sut oedd pobl yn ymdopi yn eu cartrefi eu hunain. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol mai un  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol pdf icon PDF 451 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar y gwaith a’r penderfyniadau a gymerwyd dros y 5 mis diwethaf gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad manwl yng nghyswllt y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cefnogi penderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

7.

Gwasanaethau Cymorth Gartref – Tendr a Pherfformiad Marchnad ar gyfer gwasanaethau a gomisiynwyd gan ddarparwyr annibynnol pdf icon PDF 454 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i roi gwybodaeth ar gontractau a chomisiynu yng nghyswllt gofal a chymorth dinasyddion Blaenau Gwent o fewn eu cartrefi.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod sut y  caiff ansawdd a safon gofal gan y sector preifat ei fonitro. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Chomisiynu y bu hyn yn her ar hyd y pandemig, fodd bynnag gellid gael rhybudd cynnar drwy nyrsys ardal, galwadau ffôn a’r gwasanaeth monitro galwadau a oedd yn system electronig lle gallai gofalwyr fewngofnodi i’r system, lle gallai hyd galwadau gael ei fonitro, os oes unrhyw gwynion neu broblemau . Mae hyn yn llif cyfathrebu dwy-ffordd, ddwywaith yr wythnos gyda darparwyr i sicrhau y caiff y gwasanaeth ei hysbysu am unrhyw bryderon ac yn y blaen ac mae gwybodaeth monitro i ddilysu rhai o’r galwadau hyn. Mae hefyd gopïau o adroddiadau gan ddarparwyr a’u gwiriadau sicrwydd ansawdd eu hunain. Byddid yn ymchwilio unrhyw faterion a adroddir tebyg i ddiffyg cydymffurfiaeth PPE neu ddau ofalwr yn teithio gyda’i gilydd yn nhu blaen car a’u hysbysu i’r darparydd gwasanaeth.

 

Yng nghyswllt hapwiriadau, byddai’r RI yn cynnal hapwiriadau ar eu staff eu hunain ac yn paratoi adroddiadau dyddiol. Os oes nifer o ofalwyr yn torri rheoliadau mewn ardal neilltuol, gallai hynny arwain at ymchwiliad ac o bosibl weithredu disgyblaeth. Cafodd llawer o wybodaeth ei lledaenu i asiantaethau gofal yn y cartref, gan wneud yn si?r eu bod yn dilyn protocolau. Roedd gweithio’n agos gyda chydweithwyr Iechyd yr Amgylchedd wedi rhoi ffynhonnell dda o wybodaeth i’r Tîm Comisiynu fedru ymateb i broblemau ar gam cynnar.

 

Cododd Aelod bryderon am drosiant uchel y staff ymysg rhai darparwyr annibynnol, gyda rhai cleientiaid â gofalwyr newydd yn gyson. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod parhad gofal yn hanfodol a’i fod yn un o’r rhesymau pam eu bod wedi cyflwyno tendr newydd a heb gomisiynu pecynnau presennol gan fod pryderon am recriwtio a thwf. Mae angen i ddarparwyr ddangos y medrent recriwtio gweithlu gan ei bod yn bwysig fod gan ddefnyddwyr gwasanaeth barhad. Yn y gorffennol bu pryderon am drosiant uchel o staff ymhlith darparwyr a gwnaed gwelliannau ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu ac fel rhan o’r trefniadau contract newydd mae angen i ddarparwyr gadarnhau y gallent recriwtio cronfa o ofalwyr neilltuol.

 

Teimlai’r Ardal y dylai’r maes hwn gael ei reoleiddio gan Lywodraeth Cymru ac y dylid gwneud swydd gofalwr yn fwy deniadol gyda chynnydd mewn cyflog ar gyfer eu gwaith pwysig yn y gymuned.

 

Holodd Aelod os y dylid ystyried dod â’r gwasanaeth yn ôl i fod yn un mewnol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y cyhoeddwyd Papur Gwyn newydd yng nghyswllt gwaith cymdeithasol a bod cynaliadwyedd yn sefyllfa’r farchnad yn rhan o’r gwaith hwnnw. Teimlai ei bod yn fanteisiol cael economi cymysg gyda gwasanaethau mewnol a hefyd allanol i hyrwyddo amrywiaeth ar draws y sector. Byddai cost dod â’r gwasanaeth hwn yn fewnol, ar y lefel hon, yn uchel  ...  view the full Cofnodion text for item 7.