Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Mercher, 17eg Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr

G. Collier, M. Moore and B. Summers.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 231 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb y unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Strategaeth Ddiwygiedig Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal 2020-2025 pdf icon PDF 725 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant oedd i gyflwyno strategaeth ddiwygiedig Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Yng nghyswllt cyllidebau, holodd Aelod os oedd y tanwariant ar gyfer 2019/20 yn ganlyniad uniongyrchol cyllid ychwanegol a dderbyniwyd neu lai o alw am y gwasanaeth. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y bu cynnydd yn y gyllideb i Gwasanaethau Plant oherwydd gorwariant dechreuol sylweddol yn 2016/17 ac roedd hyn wedi atal gorwariant parhaus a sefydlogi’r gyllideb.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 27, Ffigur 1: Poblogaeth Plant sy’n Derbyn Gofal wedi ei ddadansoddi yn fathau lleoliad a holodd am gartrefi heb eu rheoleiddio ar gyfer rhai 16/17 oed a sut y caiff lleoliadau byw annibynnol Blaenau Gwent eu monitro. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth Plant sicrwydd i’r Aelod na chaiff unrhyw blant ym Mlaenau Gwent eu rhoi mewn cartrefi heb eu rheoleiddio. Caiff yr holl blant eu gosod mewn cartrefi wedi eu rheoleiddio a oruchwylir gan yr Arolygiaeth Gofal Cymru a chynhelir archwiliadau arnynt, ac felly hefyd yng nghartrefi’r awdurdod lleol, ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio gyda gwahanol reoliadau a safonau gofal.

 

Cododd aelod bryderon am blant o Awdurdodau eraill yn dod i fyw mewn cartrefi gofal preifat bach ym Mlaenau Gwent a holodd os caiff y cartrefi hyn eu rheoleiddio gan Flaenau Gwent neu gan yr Awdurdod y deuai’r plant ohonynt. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y sefydlwyd nifer o gartrefi preifat i blant ym Mlaenau Gwent ac os nad oedd y cartref hwnnw â mwy na nifer penodol o blant, na fyddai angen caniatâd cynllunio ac ni fyddai’r Awdurdod Lleol yn gwybod amdano, ond byddai’n rhaid i’r darparydd preifat gofrestru’r cartref gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a chydymffurfio gyda’r holl wahanol a reoliadau a safonau cyfreithiol sydd eu hangen i agor cartref plant. Byddai’r Arolygiaeth yn archwilio’r cartref cyn ei agor i sicrhau fod yr holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol a gweithlu gyda chymwysterau addas yn eu lle. Nid yw Blaenau Gwent yn gyfrifol am ddim o’r cartrefi hynny; fodd bynnag, os oes pryderon am ddiogelu sy’n digwydd oherwydd fod y plentyn yn byw ym Mlaenau Gwent yna byddai’n gyfrifoldeb ar Gwasanaethau Plant i ymchwilio’r pryderon hynny am ddiogelu mewn partneriaeth gyda’r Awdurdod y caiff y plant ei leoli ohono. Eglurodd y byddai’r Awdurdod sy’n lleoli’r plentyn bob amser yn cadw’r prif gyfrifoldeb am ofal y plentyn dan sylw ac am fonitro lleoliad i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y plentyn.

 

Holodd Aelod os yr hysbysir Gwasanaethau Plant am unrhyw bryderon diogelu yn unrhyw rai o’r cartrefi hyn. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai Ofsted yw’r corff rheoleiddiol ar gyfer Lloegr ac Arolygiaeth Gofal Cymru yw’r corff rheoleiddiol ar gyfer Cymru. Roedd Gwasanaethau Plant wedi derbyn hysbysiadau gan Ofsted am wahanol gartrefi yn Lloegr lle mae pryderon, fodd bynnag nid oeddent erioed wedi cael unrhyw hysbysiadau gan Arolygiaeth Gofal Plant Cymru yng nghyswllt cartrefi plant ym Mlaenau Gwent.

 

Soniodd y Cadeirydd am  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Diweddariad ar Gynnydd Fy Nhîm Cefnogaeth (MyST) pdf icon PDF 678 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Plant a gyflwynwyd i roi diweddariad ar waith MyST am y cyfnod Ionawr 2020 – Ionawr 2021.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Soniodd Aelod am waith rhagorol y tîm ac mae’r ffigurau a roddir yn yr adroddiad yn arbediad sylweddol a fyddai’n helpu rhai o’r pwysau cost o fewn y gwasanaeth. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y sefydlwyd tîm MyST ar sail barhaol a, gyda chyfraniad cyllideb o ddim ond £300,000, ei fod yn rhoi gwerth da am arian.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd fod y rhain yn fesurau diogel sy’n gwella deilliannau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn sicrhau arbedion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am recriwtio gofalwyr maeth, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant er gwaethaf y pandemig y gwnaed llawer o waith yn genedlaethol, rhanbarthol ac yn lleol o amgylch recriwtio gofalwyr maeth awdurdodau lleol. Rhoddwyd cyflwyniad yn y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a’r bwriad yw lansio brand cenedlaethol awdurdodau lleol i farchnata gofalwyr maeth ar gyfer awdurdodau lleol ym mis Mai 2021. Gwnaed cryn dipyn o waith gyda Thîm Cyfathrebu y Cyngor a phenodwyd swydd Marchnata Rhanbarthol i gefnogi’r gwaith hwn megis cyhoeddusrwydd teledu, cyfryngau cymdeithasol a radio lleol ac yn y blaen i helpu cynyddu nifer gofalwyr maeth awdurdod lleol.

 

Llongyfarchodd Aelod tîm MyST a’u cymeradwyo am eu gwaith i gefnogi plant gydag anghenion cymhleth cyn ac yn ystod y pandemig gan roi anghenion plant yn gyntaf.

 

Holodd Aelod os yw gofalwyr maeth Blaenau Gwent yn maethu plant o’r tu allan i’r fwrdeistref. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Plant fod mwyafrif gofalwyr maeth Blaenau Gwent yn byw yn y fwrdeistref, gyda dim ond nifer fach yn byw tu allan i’r fwrdeistref ond maent i gyd yn gofalu am blant Blaenau Gwent. Weithiau mae Blaenau Gwent yn gofalu am blant o awdurdodau eraill yng Ngwent, er enghraifft gall Sir Fynwy fod angen lleoliad i faban ac efallai fod gan Blaenau Gwent le ar gael. Mae trefniant cilyddol ar waith yng Ngwent i gynnig gofalwyr maeth i’w gilydd. Byddai angen talu am y lleoliadau hynny tu allan i’r fwrdeistref, fodd bynnag byddai’n llai drud nag asiantaeth maethu annibynnol ac mae deilliannau ar gyfer y plant gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn llawer gwell na gyda gofalwyr maeth annibynnol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau Craffu yn cydnabod gwaith cadarnhaol MyST i ddangos deilliannau da ar gyfer ein plant sy’n derbyn gofal a’r effaith gadarnhaol a gafodd gwaith y tîm ar gyllideb Gwasanaethau Plant.

 

7.

Ymateb Gwasanaethau Plant i blant bregus yn ystod y pandemig COVID-19 pdf icon PDF 526 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi gwybodaeth i Aelodau ar sut mae Gwasanaethau Cymdeithasol Plant wedi cefnogi plant bregus ers dechrau pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod os oes adnoddau ar gael i ymdopi gydag unrhyw gynnydd mewn achosion yn dilyn llacio cyfyngiadau COVID. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant na neilltuwyd unrhyw arian ychwanegol gan fod y farn yn gymysg os y byddai cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau. Ni fu unrhyw gynnydd sylweddol ar ôl y cyfnod clo cyntaf ac roedd gwasanaethau ataliol fel Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg wedi parhau i weithio gyda theuluoedd ar draws Blaenau Gwent ar lefel ataliol i atal eu hanghenion rhag cynyddu. Teimlai fod y Gwasanaeth wedi paratoi gystal ag y medrai.

 

Holodd Aelod os bu cynnydd mewn atgyfeiriadau cam-drin domestig ac os oedd hyn wedi effeithio ar Gwasanaethau Plant. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant nad nifer cynyddol o achosion ond cymhlethdod sefyllfaoedd yr achosion a atgyfeirir sydd fwyaf anodd. Mae nifer cynyddol o achosion cam-drin domestig ond nid ydynt yn anghymesur o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y bu cynnydd rhanbarthol yn nifer yr atgyfeiriadau o achosion cam-drin domestig yn gyffredinol. Roedd yr atgyfeiriadau wedi cynyddu’n gyson yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf a byddai’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn cadw golwg agos ar y sefyllfa. Gyda llacio cyfyngiadau cyfnod clo, roedd pryderon y gallai fod cynnydd pellach mewn atgyfeiriadau gan y byddai pobl yn cael cyfle i ddod ymlaen i edrych am gymorth.

 

Holodd Aelod os cynigiwyd brechiad Covid i staff Gwasanaethau Plant. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y cafodd enwau’r holl staff gofal cymdeithasol eu cyflwyno am frechiadau. Mae’r mwyafrif wedi derbyn eu brechiad cyntaf, fodd bynnag cafodd y meini prawf eu gwneud yn fwy penodol a gall hynny fod wedi eithrio rhai o staff rheng flaen Gwasanaethau Cymdeithasol. Felly mae cohort bach ond sylweddol o staff o fewn Gwasanaethau Plant nad ydynt eisoes wedi cael eu brechiad cyntaf, fodd bynnag cafodd eu henwau eu cyflwyno ar gyfer y sesiynau ‘mopio lan’.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddefnydd technoleg rithiol a holodd os yw hyn yn awr yn cael ei ystyried fel arfer da yng nghyswllt plant sy’n derbyn gofal. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Plant fod gan yr holl dimau a gweithwyr cymdeithasol liniaduron a ffonau gwaith. Mae symud i ddefnyddio Microsoft Teams wedi arwain at gynnal cyfarfodydd rhithiol, er y bu’n anodd cael plant a theuluoedd i gymryd rhan yn y math hwnnw o gyfarfod. Dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ganfod beth sy’n gweithio’n dda yn ystod Covid a beth y medrid ei wella neu ddychwelyd ato. Peth o’r adborth o’r gwaith hwn yw bod angen i rieni y mae plant ar y Gofrestr Diogelu Plant i ddychwelyd i gyfarfodydd wyneb i wyneb er mwyn sicrhau bod rhieni’n cael eu cefnogi. Teimlai nad oedd hyn wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 398 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y Bil Cam-drin Domestig a ddisgwylir ym mis Ebrill. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y gellid cynnwys adroddiad ar y gwaith rhanbarthol ar draws Blaenau Gwent yn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer cylch nesaf y Pwyllgor hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y cyfarfod ar 22 Ebrill 2021.

 

9.

Diweddariad ar y Costau Cyfreithiol yn gysylltiedig gyda Gwasanaethau Plant

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Yng nghyswllt y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelid yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi gwybodaeth yng nghyswllt cyllideb gyfreithiol Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, y meysydd gweithgaredd y mae hyn yn ei gynnwys a natur gymhleth y gwaith sy’n effeithio ar y galw ar y gyllideb.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y cydweithio cyfreithiol gydag awdurdodau cyfagos, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y rhoddwyd ystyriaeth i sefydlu gwasanaeth cyfreithiol rhanbarthol ar gyfer awdurdodau lleol ond na fu cynnydd yn hynny. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt yn awr gydag awdurdodau cyfagos yn ymchwilio cydweithio ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, bu anawsterau wrth recriwtio cyfreithwyr i faes arbenigol amddiffyn plant.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyfreithwyr sy’n gweithio i gwmnïau preifat yn ennill cyflogau uwch. Rhoddwyd ystyriaeth i ychwanegu atodiad marchnad i annog cyfreithwyr i wneud cais am swyddi gwag, fodd bynnag gallai hyn arwain at gyfreithwyr yn symud o un ardal i un arall. Teimlai y byddai dull rhanbarthol yn fwy addas ar gyfer awdurdodau lleol ond gan na fu cynnydd ar hyn, byddai trafodaethau gydag awdurdodau cyfagos am wasanaethau cyfreithiol yn parhau.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod 22 Awdurdod yng Nghymru, pob un ohonynt yn amrywio llawer mewn maint a phoblogaeth a theimlai y dylai Llywodraeth Cymru edrych am ddatrysiadau i helpu mynd i’r afael a’r mater.

 

Holodd Aelod am fater sefydlu dull gweithredu rhanbarthol. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau plant fod eu tîm cyfreithiol eu hunain gan bob un o’r 4 Awdurdod yng Ngwent a bod hynny’n gweithio’n dda iddynt, a hysbysodd Aelodau fod Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd trafod.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn bwysig derbyn y cyngor cyfreithiol gorau er mwyn diogelu plant bregus, rhieni a’r Awdurdod.

 

Dilynodd trafodaeth fer, a

 

CHYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwasanaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a bod Aelodau yn cymeradwyo Opsiwn 1; ac yn argymell:-

 

·         bod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ddeall yr anawsterau yn canfod datrysiad i fater cymorth cyfreithiol, yn argymell bod y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi blaenoriaeth i drafodaethau gydag awdurdodau lleol cyfagos mewn ymdrech i ganfod datrysiad ehangach yng nghyswllt cydweithio wrth ddarparu gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer Gwasanaethau Plant, a hefyd bod gwleidyddion uwch yn parhau i roi sylw i’r sefyllfa ym Mlaenau Gwent gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyrff perthnasol eraill.