Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 21ain Ionawr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 238 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2020, yn cynnwys:-

 

DIWEDDARIAD CRONFA GOFAL INTEGREDIG 2019/20

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y Gronfa Gofal Integredig, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau y bydd y cyllid yn parhau am y flwyddyn nesaf a, hyd yn oed er y byddai ychydig yn llai o gyllid na’r disgwyl, roedd y Cyfarwyddwr yn teimlo’n gysurus yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar y sail honno.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Adroddiad Cynnydd Rhianta Corfforaethol 2020-21 pdf icon PDF 555 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am gynnydd Bwrdd Rhianta Corfforaethol Blaenau Gwent drwy gydol 2020 i wella deilliannau a gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo a hysbysodd Aelodau y cafodd y cynllun gweithredu ei ddatblygu ym mis Chwefror 2020, cyn y pandemig Covid, a chafodd rhai mesurau eraill eu rhoi ar waith a all fod wedi disodli rhai o’r camau gweithredu oherwydd blaenoriaethau.

 

Yng nghyswllt Blaenoriaeth Allweddol 2, holodd y Cadeirydd os cafodd y cyfarfodydd Aml-asiantaeth ar Gamfanteisio ar Blant (MACE) eu cynnal yn chwarterol drwy gydol y pandemig. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod cyfarfodydd MACE wedi parhau gan eu bod yn rhan o’r strwythurau diogelu sydd yn eu lle o fewn Gwent. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cymryd cyfrifoldebau diogelu yn ddifrifol iawn, yn neilltuol drwy’r pandemig, gan na fyddai plant yn cael eu gweld mor rheolaidd ag a fyddent drwy’r system Addysg. Mae strwythurau a systemau presennol yn parhau i fod ar waith.

Holodd Aelod am gefnogaeth ar gyfer gofalwyr ifanc. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai plant sy’n derbyn gofal yw ffocws yr adroddiad hwn ond hysbysodd yr Aelod fod yr Awdurdod yn ystyried gofalwyr ifanc fel dysgwyr bregus a chafodd pob un ohonynt gynnig lle mewn hybiau ysgol drwy gydol y pandemig Covid. Mae’r Tîm Teuluoedd yn Gyntaf yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i ofalwyr ifanc ac maent wedi cymryd rhan weithgar mewn cysylltu gyda’r cohort hwnnw. Lle roedd angen, cynhaliwyd ymweliadau wyneb i wyneb i sicrhau y cefnogid y cohort o blant. Gwnaed ymdrechion hefyd i ddod â’r cohort hwn o blant ynghyd, yn rhithiol, fel gr?p, fel y gallent gefnogi ei gilydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddarparu gliniaduron i blant sy’n derbyn gofal, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y gynhaliwyd archwiliad gyda rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr plant sy’n derbyn gofal i ganfod os oedd angen gliniaduron neu gysylltiad Wi-Fi. Prynwyd gliniadur ar gyfer pob plentyn mewn aelwydydd oedd angen hynny yn ystod Mawrth ac Ebrill 2020 fel eu bod yn barod i fynd ar-lein gyda’u hysgolion. Mae’r Tîm wedi gweithio’n agos gydag ysgolion a gweithwyr cymdeithasol i sicrhau y gallai’r plant hyn wneud dysgu ar-lein.

 

Cyfeiriodd Aelod ar Flaenoriaeth Allweddol 3, Pwynt 3 – Hyrwyddo ‘Ysgolion Cyfeillgar i Blant sy’n Derbyn Gofal’ a theimlai y dylid newid y geiriad yn y pwynt gweithredu hwn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Ysgolion Cyfeillgar i Blant sy’n Derbyn Gofal yn ddogfen bolisi, fodd bynnag gellid newid y gair ‘hyrwyddo’ i ‘sicrhau fod ysgolion yn yn cydymffurfio â’r polisi’. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant ei bod yn ddyletswydd ar ysgolion i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion plant sy’n derbyn gofal. Mae Pwynt Gweithredu 3 yn cyfeirio at ganllawiau Blaenau Gwent, a gafodd eu creu ar yr hyn sy’n arfer gorau, ar gyfer pob ysgol sy’n cefnogi plant sy’n derbyn gofal. Cafodd y canllawiau eu mabwysiadu ac maent yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Prydau Cymunedol pdf icon PDF 449 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi gwybodaeth ar y symud o’r gwasanaeth Prydau Cymunedol a’r cynnydd a wnaed ers symud o’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol i’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod am eglurdeb ar union nifer y gyrwyr a’r faniau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod dau yrrwr yn mynd mas yr un pryd mewn un fan ac yn ddilynol cafodd y swydd cyfnod sefydlog ei gostwng a chaniatawyd i dri gyrrwr orffen. Drwy adleoli, defnyddiwyd gyrrwr ychwanegol i gefnogi’r gwasanaeth o hyn ymlaen.

 

Gofynnodd Aelod, gyda chynnydd galw sylweddol o 36% ar gyfer y gwasanaeth, a oedd capasiti yn y gwasanaeth i fynd ag ef ymlaen i ble mae’r Gyfarwyddiaeth angen iddo fod i wrthbwyso unrhyw bwysau cyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mai’r weledigaeth yw datblygu model i wneud iddo weithio o fewn yr gwasanaeth Opsiynau Cymunedol, lle byddai pobl gydag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl yn mynd mas gyda’r gyrwyr a dysgu sgiliau newydd yn nhermau dosbarthu’r prydau. Er mwyn parhau i ddatblygu’r model a’r gwasanaeth mae angen deall cost sylfaenol darparu’r gwasanaeth i edrych ar gyflogi staff ychwanegol os yw’r galw am y gwasanaeth yn cynyddu ymhellach. Cyflwynir adroddiad cyllideb llawn i’r Pwyllgor Craffu pan ddaw’r wybodaeth ar gael.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am brydau twym a phrydau wedi rhewi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwasanaeth yn darparu prydau twym a hefyd brydau wedi’u rhewi, yn aml brydau twym yn ystod yr wythnos a phrydau wedi rhewi ar benwythnosau. Efallai y gellid cyflwyno gwasanaeth ychwanegol tebyg i frechdanau yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod os cysylltwyd ag ysbytai i hyrwyddo’r gwasanaeth i gleifion sy’n cael eu rhyddhau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwasanaeth yn cael ei ailfrandio a’i farchnata ar hyn o bryd, fodd bynnag mae’r pandemig wedi arafu’r broses hon ond mae gweithwyr cymdeithasol yn hyrwyddo darpariaeth gwasanaeth mewnol. Pan gaiff cleifion eu rhyddhau o ysbyty maent yn cael cynnig prydau cymunedol yn hytrach na chael prydau o’r sector preifat.

 

Teimlai Aelod fod ailfrandio yn syniad da i’w wneud yn fwy masnachol a gallai annog y bobl hynny a allai fforddio talu i ddefnyddio’r gwasanaeth a chodi refeniw. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod angen bod yn gystadleuol gyda’r sector preifat ond mai ar hyn o bryd y ffocws yw dynodi’r costau llawn i redeg y gwasanaeth ac edrych ar gyfleoedd i ddatblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol a bod yn llawer mwy masnachol o’r farchnad i fod yn llwyddiannus.

 

Yng nghyswllt monitro cadarn ar y gyllideb, holodd Aelod os yr ymchwiliwyd defnydd cerbydau trydan gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y cynhaliwyd trafodaethau ac y byddent yn cael eu hymchwilio ymhellach pan mae cyfle yn codi i newid y cerbydau, ond byddai hyn yn dibynnu ar gostau gan fod y gwasanaeth mewn diffyg.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn dda gweld cynnydd yn y gwasanaeth a chyfeiriodd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Defnyddio Ymgynghorwyr pdf icon PDF 485 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i Aelodau, yn ymwneud â gwariant yn ystod 2018/2019 a 2019/2020 ar ddefnydd ymgynghorwyr i gefnogi, atodi ac ategu gwaith Swyddogion ar draws y Cyngor.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo, sy’n cynnwys manteision cyflogi ymgynghorwyr ar gyfer cyfnodau byr a allai fod yn ddefnydd effeithlon o adnoddau’r Cyngor.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn dda gweld mai dim ond lle roedd angen hynny y defnyddid ymgynghorwyr, a theimlai y dylai’r Cyngor edrych ar ei staff ei hun cyn cyflogi ymgynghorwyr. Yng nghyswllt ymgynghorwyr ar gyfer cwynion, teimlai na ddylai’r ffigurau hyn gael eu cynnwys yn yr Atodiad gan eu bod yn ofyniad gan Lywodraeth Cymru.

 

Yng nghyswllt cwynion cam dau, holodd Aelod os y gellid eu cynnal drwy ddull gweithredu partneriaeth gydag awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y gwnaed hynny weithiau ond yr anhawster yw y gallai cwynion ail gam olygu llawer iawn o waith a phan gysylltir â hwy weithiau ni allai awdurdodau lleol wneud y gwaith oherwydd problemau capasiti ar y pryd.

 

Yng nghyswllt cwynion yn erbyn y Gyfarwyddiaeth, dywedodd Aelod ei bod yn hanfodol ymchwilio cwynion yn iawn i sicrhau canlyniad addas ar gyfer yr achwynydd a’r Gyfarwyddiaeth gan y gallai cwyn arwain at achos llys hirfaith lle gallai’r costau i’r Awdurdod fod yn fwy na chostau defnydd dechreuol ymgynghorwyr. Mae’r cyngor arbenigol a roddir gan ymgynghorwyr mewn meysydd fel Mabwysiadu yn werthfawr tu hwnt a theimlai fod y cyngor cyfreithiol a roddir yn y rhan fwyaf o achosion yn ddefnydd da o arian i ddiogelu’r Awdurdod.

 

Adleisiodd y Cadeirydd y sylwadau hyn a dywedodd ei fod yn adroddiad tryloyw ac y bernid bod y ffioedd ymgynghorwyr yn angenrheidiol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r defnydd o ymgynghorwyr.

 

8.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 395 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Hysbysodd y Cadeirydd am newid arfaethedig i’r eitemau agenda, ac ar ôl trafodaeth fer

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef gohirio’r adroddiad ar Strategaeth Byw’n Annibynnol yn y 21ain Ganrif a chyflwyno adroddiad ar Ostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal i’r cyfarfod ar 11 Mawrth 2021.