Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 5ed Tachwedd, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, G.L. Davies a L. Elias.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Elias wedi gofyn i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol drosglwyddo ei ddiolch i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a’i thîm am eu help a’u hymateb gyflym i broblem ddiweddar.

 

3.

Datganiadau Buddiannau a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 259 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

5.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 395 KB

Ystyried y Flaenraglen Gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y cyfarfod ar 10 Rhagfyr 2020.

 

6.

Diweddariad ar y Strategaeth i Sicrhau Gostyngiad Diogel yn Nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal pdf icon PDF 855 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt gweithredu Strategaeth Gostyngiad Diogel yn Nifer y Plant sy’n Derbyn yn Gofal 2017-2020.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a dywedodd fod gan y strategaeth honno dair amcan:-

 

1.         Cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd.

2.         Rheoli risg mewn modd cyfrinachol a rhoi cymorth ar ymyl gofal

3.         Darparu lleoliadau ansawdd uchel a fforddiadwy.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ofalwyr maeth, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y bu’n gyfnod heriol i’r ymgyrch recriwtio yn ystod yr haf. Mae Penaethiaid Gwasanaeth ledled Cymru wedi datblygu dull cenedlaethol i awdurdodau lleol recriwtio gofalwyr maeth. Datblygwyd y brand ‘Maethu Cymru’ ac mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £300,000 i gefnogi’r 22 awdurdod lleol, a chaiff lansiad swyddogol ei gynnal  y flwyddyn nesaf. Mae nifer y gofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent wedi parhau’n gyson, fodd bynnag, roedd ymholiadau wedi cynyddu yn Ionawr/Chwefror 2020 ond wedi arafu ym mis Mawrth oherwydd y pandemig. Yr her i’r gwasanaeth oedd trosglwyddo ymholiadau yn ofalwyr maeth cymeradwy gan nad oedd pob cais yn llwyddiannus. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda gofalwyr maeth presennol am sut y cawsant eu cefnogi yn ystod yr haf a bu’r adborth yn gadarnhaol iawn.

 

Holodd Aelod am y gorwariant o £400,000 ar gostau cyfreithiol, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod llawer o wahanol elfennau i bob achos a gall fod angen nifer o asesiadau annibynnol drwy’r llys ar gyfer rhai tebyg i asesu rhieni neu gr?p siblingiaid. Rhan arall o’r gwariant hwnnw oedd y costau blwyddyn lawn yn gysylltiedig gyda gwasanaethau cyfreithiol allanol gan fod Cyfreithiwr Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi gadael yr Awdurdod. Aeth yr Adran Gyfreithiol drwy’r broses gaffael i holi os oedd gan awdurdodau cyfagos ddiddordeb mewn cymryd y gwaith cyfreithiol hwn, yr adeg honno ni fu ymateb i’r cynnig, fodd bynnag ers hynny mae awdurdod cyfagos wedi mynegi diddordeb ac mae’r Gyfarwyddiaeth yn awr yn ymchwilio’r opsiwn hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr arian Cronfa Gofal Integredig a sut mae’r Gyfarwyddiaeth yn cyflawni’r tair amcan, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cadarnhad llafar y byddai’r Gronfa Gofal Integredig yn parhau hyd at Ebrill/Mawrth 2022. Yng nghyswllt cyrraedd y tair amcan, dangoswyd hyn gan nifer is o blant yn dod i ofal ac mae’n dangos gwaith pwysig y tîm Cefnogi Newid wrth gefnogi teuluoedd a sut i drin risg yn hyderus. Gan fod mwy o waith i gael ei wneud, mae’r Gyfarwyddiaeth yn y broses o ddatblygu strategaeth bum mlynedd.

 

Yng nghyswllt ffioedd cyfreithiol, teimlai Aelod y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ffioedd cyfreithiol gyda golwg ar roi cefnogaeth i awdurdodau lleol. Holodd hefyd os y byddai cydweithredu gydag awdurdodau eraill i leddfu rhan o’r costau. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod yn rhaid i bob awdurdod reoli eu cyllidebau eu hunain yng nghyswllt pob agwedd, yn cynnwys costau cyfreithiol. Yng nghyswllt cydweithio gydag awdurdod cyfagos, mae gwaith i gasglu gwybodaeth ar  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol pdf icon PDF 449 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i Aelodau ar waith a phenderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y 9 mis diwethaf dan gyfarwyddyd statudol Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif feysydd a aeth ag amser y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol:

           Achosion coronafeirws ar draws asiantaethau partner a’r effaith ar wasanaethau.

           Parhad y Cynnig Trawsnewidiol ar ôl 2021.

           Ailddyrannu tanwariant ar gyfer 2019/20.

           Parhad cyllid refeniw a chyfalaf Gofal Integredig.

           Cynllun integredig ar gyfer Gaeaf 2020/21.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr effaith ar wasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bu’n anodd darparu’r gwasanaeth yn yr un ffordd â chyn y pandemig gan y bu llai o gyswllt wyneb i wyneb. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf bu cynnydd mewn problemau iechyd meddwl ar gyfer oedolion a phlant a theimlai y byddai peth pwysau ychwanegol ar y system fel canlyniad i hyn. Mae’n bwysig parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn y dyfodol a pharhau i gysylltu wyneb yn wyneb a drwy ddulliau cyfryngau cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cytundeb llafar ar gyfer cyllid Trawsnewidiol hyd 2022 a gofynnodd pa effaith y byddai’r etholiadau i Senedd Cymru y flwyddyn nesaf yn ei gael ar y cyllid hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, oherwydd yr etholiadau i Senedd Cymru fis Mai nesaf, y bu hwn yn gyfnod o drawsnewid i alluogi unrhyw weinyddiaeth i fedru gwneud penderfyniadau p’un ai i barhau â chyllid yn y dyfodol. Bu’r Gyfarwyddiaeth yn gwerthuso rhaglenni i ddangos manteision clir pob un a’r hyn y gallent ei gyflawni ar gyfer teuluoedd a chymunedau yn ardal Gwent. Teimlai’r Cyfarwyddwr yn hyderus y byddai cyllid tebyg yn parhau ar gyfer y flwyddyn drawsnewidiol ac y byddai hyn yn diogelu rhai gwasanaethau.

 

Ar bwynt eglurdeb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cynnig yng Ngwent yn ymwneud â phedair ardal yn deillio o’r ardaloedd blaenoriaeth o fewn y Cynllun Ardal. Mae’r pumed pwynt bwled ar baragraff 2.9 yn cyfeirio at ddatblygu cynllunio gweithlu a datblygu sefydliadol i fod yn sylfaen i weithgaredd trawsnewid ac i gefnogi’r pedair thema.

 

Holodd y Cadeirydd am y berthynas rhwng yr Awdurdod a gosodiadau preswyl y sector preifat ac os oedd cyfnewid gwybodaeth wedi gwella yng nghyswllt achosion posibl o Covid-19 yn y cartrefi gofal hynny. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod perthynas ragorol wedi datblygu gyda chartrefi gofal y sector preifat gydag adborth cyson gan gomisiynwyr. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd hefyd mewn cysylltiad gyda chartrefi gofal y sector preifat i roi cyngor ac arweiniad. Cesglir gwybodaeth am staff a phreswylwyr o fewn cartrefi gofal ac os oedd unrhyw achosion positif, cynhelir trefn brofi estynedig yn y cartrefi gofal hynny. Yng nghyswllt cyfleusterau byw â chymorth a gofal ychwanegol, mae hefyd rannu gwybodaeth da ond llai felly gyda thai gwarchod gan nad oeddent yn derbyn cymaint o gefnogaeth. Pe byddai adroddiad am achos mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.