Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 13eg Chwefror, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G.A. Davies, L. Elias a G. Paulsen.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 246 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r Cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 90 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2020, yn cynnwys:-

 

Eitem 7 – Adroddiad Cynnydd Rhianta Corfforaethol

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant ddiweddariad llafar ar y rhaglen Hyfforddiaethau Corfforaethol ar yr hyn y mae’r 8 o bobl ifanc a adawodd y rhaglen yn ei wneud yn awr

 

           3 – wedi gorffen ac wedi cael prentisiaeth a/neu gyflogaeth.

           1 – yn dal mewn hyfforddiant

           1 – wedi penderfynu canfod ei lwybr ei hun i gyflogaeth

           1 – methu parhau oherwydd problemau iechyd

           1 – ar fin dechrau

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Strategaeth Byw’n Annibynnol yn y 21ain Ganrif – Diweddariad Cynnydd Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 877 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi trosolwg ar strategaeth ‘Byw’n Annibynnol ym Mlaenau Gwent yn y 21ain Ganrif’.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion am yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad cynnydd manwl ar 8 blaenoriaeth y Strategaeth dros y 12 mis blaenorol.

 

Blaenoriaeth 1 Gofal Hirdymor:

 

Soniodd Aelod am y 24 gwely gwag mewn cartrefi gofal a gomisiynwyd gan yr Awdurdod a holodd am y cartref gofal newydd sy’n gweithredu yn Nhredegar. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion wrth Aelodau nad oedd hyn yn gartref nyrsio cofrestredig ond yn safle byw â chymorth.

 

Cododd Aelod bryderon am gau cartrefi gofal oherwydd nifer y gwelyau gwag. Sicrhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yr Aelodau, er bod nifer o welyau gwag, nad oes unrhyw gartref gofal ar fin cau, fodd bynnag cedwir golwg ar y sefyllfa. Yng nghyswllt cau cartrefi gofal preifat, mae gan yr Awdurdod gontract gyda chyfnod hysbysu chwe mis am unrhyw gau a pe byddai digwyddiad megis methdaliad, byddai preswylwyr yn dal i gael eu cefnogi. Eglurodd y Swyddog fod gan yr Awdurdod gontract gyda'r Bwrdd Iechyd ac nid y cartref gofal ar gyfer dinasyddion gydag anghenion mwy cymhleth.

 

Blaenoriaeth 2 Gwasanaethau Ailalluogi/Galluogi:

 

Ni chododd Aelodau unrhyw sylwadau ar Flaenoriaeth 2.

 

Blaenoriaeth 3 Cyfleoedd dydd/Opsiynau Cymunedol:

 

Yng nghyswllt prosiect Green Shoots Opsiynau Cymunedol ym Mharc Bryn Bach, dywedodd Aelodau nad oedd rhai aelodau o’r cyhoedd wedi medru prynu eitemau e.e. basgedi blodau ac yn y blaen gan nad oedd unrhyw aelod o staff ar y safle. Awgrymodd Aelod hyrwyddo’r prosiect drwy farchnadoedd stryd yng nghanol trefi. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod staff yn gweithio rhwng 9.00am a 5.00pm a dim ar benwythnosau. Yng nghyswllt gwerthu cynnyrch teimlai’r Swyddog efallai y gellid sefydlu prosiect menter gymdeithasol.

 

Soniodd Aelod am y bartneriaeth gyda Growing Space, gr?p iechyd meddwl yn y trydydd sector, a holodd os y gellid trefnu ymweliadau ysgol i ddatblygu prosiect ystafell ddosbarth awyr agored. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion fod Growing Space yn awyddus i weithio gydag ysgolion a byddai’n rhoi dolen cyswllt ar gyfer yr Aelod i gydlynu gyda Phennaeth Growing Space.

 

Blaenoriaeth 4 Technoleg Gynorthwyol: 

 

Holodd Aelod am gost technoleg gynorthwyol ar gyfer preswylwyr. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod cost cyfradd safonol o tua £5.20 ar gyfer pendant.

 

Yng nghyswllt therapi dementia a defnyddio doliau, cathod a ch?n, nid oedd cost gan eu bod yn cael eu benthyg i breswylwyr, fodd bynnag efallai y caiff adroddiad ar systemau codi tâl ei baratoi’r flwyddyn nesaf. Mae rhai technolegau cyffredin megis Amazon Echo a Google Home Hub yn gweithredu o linellau daear ffôn felly nid oes angen bob amser cael cysylltiad rhyngrwyd drud. Dywedodd Aelod y gofynnwyd am gysylltiad rhyngrwyd yn Nh? Parc ar gyfer defnydd preswylwyr a theimlai y gallai hyn gael ei ystyried a’i gynnwys mewn rhenti ac ati.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wrth Aelodau y bu erthygl yn The Guardian am ddefnydd therapi dementia pâr: doliau, cathod a ch?n ac y byddai’n anfon y ddolen  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad ar Gynnydd Fy Nhîm Cefnogaeth pdf icon PDF 523 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi diweddariad ar waith Fy Nhîm Cefnogaeth ers iddo ddechrau gweithredu ym mis Mai 2019.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi ystyriaeth i sefydlu cartref gofal plant. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant ei bod yn debyg nad yw hyn yn opsiwn i gael ei ystyried; mae cartrefi gofal plant yn anodd eu rheoli oherwydd y problemau cymhleth sy’n effeithio ar rai plant a phobl ifanc. Mae pedwar cartref gofal preswyl preifat ar gyfer plant a phobl ifanc ym Mlaenau Gwent a dim ond dau o blant sydd wedi eu gosod yn y cartrefi yma ar hyn o bryd. Weithiau mae angen i rai plant gael eu lleoli tu allan i’r ardal oherwydd materion diogelu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef cydnabod gwaith cadarnhaol Fy Nhîm Cefnogaeth wrth arddangos deilliannau da ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r effaith gadarnhaol a gafodd gwaith y tîm ar gyllideb Gwasanaethau Plant.

 

8.

Blaenraglen Gwaith - 2.4.2020 pdf icon PDF 481 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol na fyddai’r adroddiad ar fodel ataliol o wasanaeth i ateb galw’r dyfodol am ofal cymdeithasol ar gael tan y cylch newydd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y cyfarfod ar 2 Ebrill 2020.