Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Iau, 17eg Hydref, 2019 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  5100

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gofynnir am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M Day a J. Holt.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 170 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu - 2 Medi 2019 pdf icon PDF 93 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Penderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 183 KB

Derbyn Dalen Penderfyniadau Gweithredol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi Dalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.

 

7.

Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru - Blaenau Gwent a Thorfaen pdf icon PDF 625 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant yr adroddiad sy’n diweddaru Aelodau ar y gwaith parhaus i ymestyn Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru ym Mlaenau Gwent a blwyddyn gyntaf ei ymestyn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Canmolodd Aelodau yr adroddiad a theimlent fod yr Awdurdod yn helpu teuluoedd mewn gwaith gyda chymorth gofal plant a rhoi dechrau da i blant 3 i 4 oed dan oedran ysgol.

Holodd Aelod pam nad yw gwybodaeth ar rieni sydd wedi cynyddu eu horiau gwaith yn cael ei chyflwyno ar lefel leol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant y medrid rhoi’r oriau ychwanegol y mae rhieni yn eu gweithio ar lefel leol a gellid hysbysu rhieni sy’n gweithio 10 neu 12 awr y byddent yn gymwys am y Cynnig Gofal Plant pe byddent yn cynyddu eu horiau i 16.

 

Dywedodd Aelod fod angen mwy o fanylion ar grantiau ac y dylai gwaith gyda’r trydydd sector gael ei gydnabod a theimlai y dylid cynnwys dull adrodd yn yr adroddiad yng nghyswllt y bobl sy’n mynd yn ôl i’r gwaith. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu’r wybodaeth honno; fodd bynnag, gellid cynnal arolwg i ganfod faint o bobl oedd yn ailymuno â’r farchnad swyddi fel canlyniad i’r Cynnig Gofal Plant. Dywedodd yr Aelod y medrid rhoi’r wybodaeth hon i Cymunedau am Waith. Eglurodd y Swyddog efallai nad yw’r nifer o bobl sy’n dychwelyd i’r gwaith yn ganlyniad y Cynnig Gofal Plant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Pant, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant mai dim ond mewn rhai ardaloedd ac i’r teuluoedd mwyaf bregus yn y gymuned gyda phlant dan 2 flwydd oed y mae Dechrau Deg ar gael. Mae’r Cynnig Gofal Plant ar gael i rieni mewn gwaith gyda phlant 3 neu 4 oed. Holodd Aelod pryd y byddai’r cynllun Dechrau’n Deg yn cael ei ymestyn i gynnwys ardaloedd eraill gyda rhieni bregus sy’n cael problemau am ofal plant. Esboniodd y Swyddog fod Llywodraeth Cymru yn rhoi uchafswm ar y rhifau Dechrau’n Deg ac mai dim ond traean o blant 0/3 oed y Fwrdeistref sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun Dechrau’n Deg. Mae’r gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar yn gymhleth ac anodd i rieni fynd drwyddynt a gobeithid y byddai’r rhaglen Braenaru yn ei gwneud yn gliriach i rieni.

 

Awgrymodd y Cadeirydd bod Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi’r pryderon a godwyd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Holodd Aelod pwy fyddai’n gymwys am y Cynnig Gwasanaethau Plant. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant y bu’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Byd Gwaith am gymhwyster ac yn ceisio marchnata’r Cynnig i gyrraedd cynifer o bobl ag sydd modd, paratowyd fideo ar gyfer rhieni gyda chanllawiau cam wrth gam ar sut i wneud cais. I gynyddu marchnata, byddid hefyd yn anfon llythyrau a chardiau post at rieni yn eu hysbysu am y Cynnig.

 

CYTUNWYD YMHELLACH gan y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad ar y Bartneriaeth Ranbarthol pdf icon PDF 508 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad sy’n diweddaru Aelodau ar y gwaith a’r penderfyniadau a wnaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y 6 mis diwethaf, a ddatblygwyd dan ganllawiau statudol Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cyfeiriodd Aelod at oedi mewn cleifion yn dychwelyd adre o’r ysbyty. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Homefirst yn darparu gwasanaeth cyflym ac yn gweithredu mewn adrannau Argyfwng a Damweiniau. Roedd cydweithio yn rhoi asesiad cyflymach i ryddhau pobl yn ddiogel o ysbyty gyda llwybrau clir ar gyfer preswylwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol; fodd bynnag, yn nhermau rhyddhau o ysbyty mae’r pump awdurdod lleol yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol. Roedd yr Awdurdod yn gweithredu prosiect peilot ar ran awdurdodau lleol eraill sy’n lleoli staff pwrpasol ar wardiau ysbyty i weithredu’n uniongyrchol ar unrhyw resymau am oedi. Dywedodd staff fod y prosiect peilot yn llwyddiannus.

 

Cododd Aelod bryderon am leoedd gwag mewn cartrefi nyrsio a theimlai fod teuluoedd rhai cleifion yn teimlo dan bwysau  i ddewis cartref nyrsio yn gyflym. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod nifer o gartrefi gofal gyda lleoedd gwag.  Roedd swyddogion o’r Adran wedi cysylltu’n uniongyrchol â chartrefi gofal am yr wybodaeth ddiweddaraf yn wythnosol sy’n dynodi lleoedd gwag o fewn eu staff Gofal Cartref a gallai Gweithwyr Cymdeithasol yn gweithio mewn wardiau ysbyty helpu gyda’r wybodaeth yma. Mae gan y Bwrdd Iechyd bolisi rhyddhau clir fod teuluoedd yn dynodi tri lleoliad cartref gofal, mae’n rhaid i un fod â lle gwag a disgwylir i deuluoedd fod yn rhagweithiol wrth ddynodi’r lleoliadau hyn.

 

Cytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i siarad gydag Aelod tu allan i’r cyfarfod am achosion unigol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol mai’r strategaeth Byw’n Annibynnol fu ethos yr Awdurdod am flynyddoedd lawer. Y llwybr gorau i gleifion yw dychwelyd adref, fodd bynnag byddai angen gwneud penderfyniadau hirdymor yn nhermau lleoliadau Gofal Cartref.

 

Gadawodd y Cynghorydd Jonathan Millard y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Hysbysodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yr Aelodau am y data presennol yng nghyswllt lleoedd gwag mewn cartrefi gofal h.y. 12 lle gwag mewn cartrefi gofal ar draws y Fwrdeistref, 21 lle gwag mewn cartrefi dementia a 7 mewn cartrefi nyrsio EMI.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am ysbyty newydd y Grange, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bu peth trafodaeth ond bod diffyg gwybodaeth ar gael am ba wasanaethau fydd yn cael eu darparu ond teimlai cydweithwyr o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y byddai gwybodaeth ar wasanaethau yn y cyfleuster newydd ar gael. Roedd pryder am gysylltiadau teithio i’r ysbyty newydd, h.y. gall fod yn rhaid i bobl gymryd hyd at dri bws i fynychu’r ysbyty, ond byddai hyn yn gonsyrn ar draws Gwent.

 

Dywedodd Aelod iddo gael gohebiaeth am y cysylltiadau teithio i’r ysbyty sy’n sôn am welliannau i orsaf reilffordd Cwmbrân ond roedd gan yr Aelod bryderon gan fod hyn yn rheilffordd gwahanol.

 

Yng nghyswllt gwasanaethau Iechyd Meddwl, dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r cynnydd a wnaed gyda’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Diweddariad ar y Gronfa Gofal Integredig pdf icon PDF 828 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg i Aelodau ar ddyraniad presennol cyllid ar gyfer prosiectau a gaiff eu monitro gan Gwasanaethau Oedolion a’u cyllido drwy Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru fel ym mis Medi 2019.

 

Holodd Aelod am yr effaith i bobl pe byddid yn dileu cyllid. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, os caiff cyllid ei dynnu bant y byddai’r cyfleuster gofal gwely integredig, sy’n galluogi cleifion i adael yr ysbyty’n gyflym, yn cael ei ddileu a byddai’n arwain at oedi wrth i bobl adael yr ysbyty tra bod eu cartrefi’n cael eu haddasu. Trefnir sesiwn wybodaeth Aelodau Cymunedau Trugarog i edrych ar sut i gefnogi pobl a meddygon teulu yn well fel nad oedd pobl wedi eu hynysu’n gymdeithasol. Os tynnir cyllid yn ôl, byddai hyn yn effeithio ar y cyllid a wnaed a byddai gwasanaethau ataliol yn dod i ben.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r dystiolaeth a roddwyd i gefnogi’r ffordd y cyrchir cyllid grant Cronfa Gofal Integredig sydd ar gael i gefnogi blaenoriaethau strategol y Cyngor a’r gwasanaeth i barhau i ddarparu diweddariadau cynnydd i’r Pwyllgor Craffu yn 2020/21 fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

10.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cenedlaethol Mabwysiadu 2018/19 pdf icon PDF 453 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Rheolwr Gwasanaeth SEWAS.

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth SEWAS yr adroddiad ar berfformiad Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru (SEWAS) a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) ar gyfer 2018/19.

 

Yng nghyswllt y galw am leoliadau mabwysiadu a recriwtio mabwysiadwyr, dywedodd Aelod fod yr ymgyrch recriwtio yn dda iawn a theimlai y gellid defnyddio hysbysebion ar gylchfannau a byrddau hysbysebu ar gyfer dibenion recriwtio’n fwy effeithlon.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant i 70 o blant gael eu lleoli gyda rhieni mabwysiadu a chadarnhaodd fod nifer y mabwysiadwyr wedi gostwng.

 

Holodd Aelod am yr oedi gyda phlant yn derbyn eu deunyddiau taith bywyd. Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth SEWAS y penodwyd Cydlynydd newydd i helpu gwella’r amserlenni ar gyfer derbyn deunyddiau taith bywyd gyda chyllid buddsoddi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i wella perfformiad o hyn ymlaen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr wybodaeth fel y cafodd ei hadrodd.

 

Gadawodd y Cynghorydd Greg Paulsen y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

11.

Blaenraglen Gwaith - 28.11.2019 pdf icon PDF 485 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.+.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gynnwys adroddiad ar y Gwasanaeth Prydau Cymunedol yn y Flaenraglen Gwaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod trafodaethau’n mynd rhagddynt gydag Adran yr Amgylchedd i edrych ar fodel i gynyddu nifer y prydau cymunedol a byddai’n cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor maes o law.

 

Cododd y Cadeirydd bryderon am yr wybodaeth Perfformiad Cenedlaethol Blynyddol a gynhwysir yn y pecyn gwybodaeth a gofynnodd am gynnal cydgyfarfod craffu i’w ystyried.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

CYTUNWYD YMHELLACH gan y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith Craffu y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y cyfarfod ar 28 Tachwedd 2019.