Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Dydd Iau, 25ain Chwefror, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Nodyn: Please Note: Owing to technical difficulties, the start of the meeting recording was delayed. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan:-

 

Cynghorydd S. Thomas

Cynghorydd H. Trollope

Cynghorydd C. Meredith

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

4.

Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 243 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2020.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2019/20 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent pdf icon PDF 422 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau fod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar yr ail adroddiad cynnydd blynyddol ar gynllun llesiant ‘Y Blaenau Gwent a Garem’.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth am yr adroddiad a dywedodd fod ‘Y Blaenau Gwent a Garem’ yn cwmpasu cyfnod 2018 i 2023 a bod angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi adroddiad bob blwyddyn drwy adroddiad cynnydd ar y camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodir yn y Cynllun Llesiant. Dywedodd y cafodd Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2019/20 ei oedi oherwydd pandemig Covid-19, felly mae’r adroddiad yn rhoi manylion cynnydd a wnaed yn yr ail flwyddyn o  fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020.

 

Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi parhau i gwrdd yn ystod y pandemig ac ystyried yr effaith a gafodd Covid-19 ar ein cymunedau a chanolbwyntio ar raglen waith y Bwrdd.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr wybodaeth a roddir yn yr adroddiad cynnydd cyn y pandemig, fodd bynnag mae rhai manylion am ymateb uniongyrchol partneriaid i’r pandemig rhwng mis Mawrth 2020 a mis Awst 2020. Fodd bynnag rhoddir manylion llawn ymateb partneriaid i’r pandemig yn yr adroddiad cynnydd blynyddol nesaf sydd i’w gyhoeddi yn nes ymlaen eleni.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth amlinelliad pellach o gynnwys Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus  2019/20 fel y’i manylir yn yr Atodiad sy’n amlinellu’r cynnydd a wnaed yn ail flwyddyn rhaglen y Bwrdd ar gyfer cyflawni ar y Cynllun Llesiant dan bum adran allweddol.

 

Cyfeiriodd Aelod at gynllun peilot a gynhaliwyd ar y cydweithredu rhwng  yr Heddlu a’r Gwasanaethau Ambiwlans a Thân yn Abertyleri a gofynnodd os gellid cael canlyniad y cynllun peilot hwn.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth roi diweddariad yn uniongyrchol i’r Aelod gan, er y cynhaliwyd cynllun peilot yn Abertyleri, byddai angen iddo ofyn am eglurhad os cafodd y peilot hwn ei ymestyn ymhellach gan bartneriaid a gymerodd ran.

 

 

Nododd Aelod arall y cais a theimlai y byddai o fudd i bob Aelod fod yn gwybod am ganlyniad y cynllun peilot a gofynnodd am iddo gael ei gofnodi fel cam gweithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Codwyd pryderon am y diffyg cydnabyddiaeth yn yr Adroddiad Blynyddol i gyfraniad gwirfoddolwyr a’r trydydd sector yn ystod y pandemig . Nododd Aelod fod cymorth yn cynnwys dosbarthu prydau ysgol am ddim, dosbarthu parseli bwyd, cefnogaeth i’r bregus a phreswylwyr ar y rhestr warchod. Mae felly yn bwysig fod sôn am yr unigolion hyn gan fod eu cefnogaeth yn hollbwysig.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau fod yr astudiaethau achos a chanfyddiadau yn yr Adroddiad Blynyddol hwn hyd at fis Mawrth 2020, fodd bynnag roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi penderfynu cynnwys naratif byr am y gwaith ar ddechrau pandemig Covid-19. Byddai Adroddiad Blynyddol eleni yn sôn am ymateb gwych gwirfoddolwyr a’r trydydd sector. Nid yw’r darn byr yn yr adroddiad cyfredol yn adlewyrchu’n llawn rôl bwysig gwirfoddolwyr. Dywedwyd y byddai adroddiad blynyddol eleni yn canolbwyntio mwy ar waith partneriaid drwy gydol y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynnig Gofal Plant Cynllun Peilot Rhaglen Trawsnewid Integreiddio Llywodraeth Cymru – Cynllun Peilot Cydweithio – Braenaru Blaenau Gwent pdf icon PDF 721 KB

Ystyried adroddiad Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar y cyd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r Rheolwr Gwasanaeth – Blynyddoedd Cynnar.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar drosolwg cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaed hyd yma ar gynllun peilot Trawsnewid Blynyddoedd Cynnar newydd Llywodraeth Cymru yn ardal Braenaru  Blaenau Gwent. Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth yn fanwl am yr adroddiad ac amlinellu’r cefndir, y cynnydd hyd yma, y goblygiadau i’r gyllideb a’r risg yn gysylltiedig gyda’r opsiynau i gael eu hystyried.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am ei throsolwg defnyddiol o’r adroddiad a gwahoddodd gwestiynau a sylwadau gan Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod os y darperir offer i deuluoedd sydd angen technoleg ar gyfer cynnal ymweliadau cartref rhithiol.

 

Dywedwyd y cysylltir yn rhithiol yn y rhan fwyaf o achosion drwy What’s App gan fod gan ffôn symudol gan y rhan fwyaf o rieni a bod hyn yn galluogi galwadau fideo yn ogystal â galwadau llais. Os oes angen ymweliad ffisegol i’r cartref, byddai angen PPE llawn a chydymffurfio â canllawiau llym a gwneir galwad cyn y digwyddiad i drafod diogelwch.

 

Gofynnodd yr Aelod ymhellach a fyddai unrhyw deuluoedd o gonsyrn tu allan i Bryn Farm, Brynmawr yn cael eu hystyried os oes angen.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar y dynodwyd mai ardal Bryn Farm oedd â’r angen mwyaf ym Mrynmawr yn nhermau amddifadedd ac os oes angen mynd tu allan i’r ardal hon disgwylid y byddai ymwelwyr iechyd cyffredinol yn cefnogi’r teuluoedd ac os oedd angen gellid atgyfeirio’r teulu at yr elfen allgymorth am gefnogaeth fwy dwys. Byddai hyn yn galluogi darparu’r gwasanaeth fel sydd angen.

 

Cododd Aelod bryderon am yr ardaloedd cyfyng ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg lle gallai un ochr o stryd dderbyn y gwasanaeth ac na fyddai gan yr ochr arall yr un buddion. Gobeithid y bydd y rhaglen newydd yn cynnwys y Ward gyfan ac nid adrannau neilltuol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar at yr holl waith a wnaed i sicrhau bod cynllun Dechrau’n Deg ar gael i deuluoedd ym Mlaenau Gwent.

 

Dywedwyd fod y Tîm yn angerddol am y rhaglen newydd ac y gobeithir y byddai cyllid yn dal i fod ar gael i sicrhau y caiff ei hymestyn yn llawn gan fod Blaenau Gwent yn un o’r ardaloedd mwyaf amddifadus yng Nghymru.

 

Gofynnodd yr Aelod am i’r Pwyllgor Craffu gael gwybod am y cynnydd i sicrhau y gellid ymestyn y rhaglen ar draws Blaenau Gwent.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i hysbysu Aelodau am y cynnydd.

 

Gofynnodd Aelod am wybodaeth faint o gyllid a gafodd Blaenau Gwent o’r Gronfa Datblygu Plant a beth oedd y galw gan deuluoedd.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ganfod swm y cyllid a rhoi adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am hyd y cyfnod peilot, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd dyddiad gorffen ac na dderbyniwyd unrhyw gadarnhad os bydd y cynllun peilot yn parhau yn 2021/2022. Mae’r parhad yn dibynnu ar lwyddiant y cynllun peilot ac adborth Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Grŵp Llywio Lliniaru Hinsawdd Blaenau Gwent pdf icon PDF 528 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau yr adroddiad sy’n rhoi manylion Gr?p Llywio Lliniaru Hinsawdd Blaenau Gwent a sefydlwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth fod lliniaru hinsawdd yn cymryd camau a fyddai’n gostwng newid hinsawdd o waith dyn. Mae hyn yn cynnwys gweithredu i ostwng allyriadau nwyon t? gwydr ac i amsugno nwyon t? gwydr yn yr atmosffer. Rôl y Gr?p Llywio yw datblygu cynllun lliniaru i’r fwrdeistref cyfan a’r nodau a gytunwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf yw gosod cyllideb carbon seiliedig ar wyddoniaeth ar gyfer Blaenau Gwent, cytuno ar weledigaeth/cyfeiriad teithio, dynodi ac amlinellu materion allweddol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yng nghyswllt datgarboneiddio ym Mlaenau Gwent.

 

Fodd bynnag, cafodd y gwaith ei oedi oherwydd pandemig Covid-19 a dim ond teirgwaith y cyfarfu’r gr?p llywio hyd yma. Cytunwyd bellach bod y gr?p yn cytuno bob 2 fis o hyn ymlaen.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at ymgynghori ac esboniodd, er ei bod yn anodd cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd, y byddai’r math yma o ymarferion yn ailddechrau yn y dyfodol. Mae’n bwysig fod yr ymgynghoriad yn cynnwys y cyhoedd a chyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent a gynhelir ym mis Mawrth 2021.

 

Hwn oedd y Cynulliad Hinsawdd cyntaf o’i fath yng Nghymru a chaiff ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r Cynulliad Hinsawdd yn rhoi cyfle da i ddechrau’r broses o gasglu’r math hwn o farn gyhoeddus am weithredu hinsawdd ym Mlaenau Gwent.

 

Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau sylw yr Aelodau at yr opsiynau ar gyfer argymhellion fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad ac roedd yn falch i nodi fod y gr?p llywio yn awr wedi dechrau ar ei waith. Dywedodd bod llawer o bethau cadarnhaol y gellid eu gwneud i liniaru newid hinsawdd yn cynnwys plannu coed a gofynnodd os oes cynlluniau tebyg ar y gweill.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod llawer iawn o waith y gellid ei wneud yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a rhoddir adroddiad ar hyn i’r Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth i waith y gr?p fynd rhagddo.

 

Croesawodd Aelod arall sefydlu’r gr?p llywio a theimlai y gallai pawb gyfrannu at liniaru newid hinsawdd a bod Cymru yn arwain yn y gwaith hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar Opsiwn 1, sef bod Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn derbyn yr adroddiad trosolwg a’r atodiad cefnogi ar sefydlu’r Gr?p Llywio.

 

8.

Diweddariad cynnydd Rhaglen Bwyd Cynaliadwy y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 418 KB

Ystyried adroddiad Prif Weithredwr Tai Calon.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Prif Weithredwr Tai Calon.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y cynnydd ar Raglen Bwyd Cynaliadwy y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a dywedwyd mai Cartrefi Cymunedol Tai Calon yw prif noddwr y Bwrdd ar gyfer y rhaglen.

 

Bu oedi gyda’r rhaglen oherwydd Covid-19 gan fod ffocws gwaith partneriaid ar y pandemig ac er bod y gwaith hwn wedi parhau, mae partneriaid yn awr yn cydweithio i fynd â’r rhaglen ymlaen fel partneriaeth bwyd cynaliadwy.

 

Nodwyd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ym mis Ionawr 2020 y byddai’r gr?p partneriaeth bwyd cynaliadwy yn goruchwylio’r gwariant cyfalaf o £23,147 a ddyfarnwyd i Gyngor Blaenau Gwent drwy Grant Tlodi Bwyd Cronfa Trosiant Undeb Ewropeaidd Llywodraeth Cymru. Byddai cyllid cyfalaf y Grant Tlodi Bwyd yn cefnogi sefydliadau i gael mynediad, storio a dosbarthu cyflenwadau ychwanegol o fwyd ansawdd da, yn cynnwys gwarged o fwyd da, yn neilltuol fwy o fwyd ffres, gan hybu gallu sefydliadau i ddarparu bwyd ansawdd da a maethlon i’w cwsmeriaid. Ychwanegwyd ymhellach bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dyfarnu cyllid i Tai Calon a phartneriaid ar gyfer penodi cydlynydd bwyd cynaliadwy rhan-amser i oruchwylio datblygiad y Rhaglen Bwyd Cynaliadwy yn 2021.

 

Ychwanegwyd y cafwyd dechrau cadarnhaol erbyn hyn er i waith gael ei oedi. Sefydlwyd partneriaeth bwyd da a datblygwyd cynllun gweithredu.

 

Nododd Aelod fod y Cyngor wedi derbyn Grant Tlodi Bwyd EUTF ar gyfer 2020/2021 sydd angen ei wario erbyn 31 Mawrth 2021 a gofynnwyd faint o gynnydd a wnaed ar y gwariant hwn.

 

Dywedwyd fod grant Cyfoeth Naturiol Cymru ar wahân i’r Grant Tlodi Bwyd y mae’r Cyngor yn ei dderbyn. Gobeithir y byddai’r cyllid hwn yn parhau i’r flwyddyn ariannol nesaf, fodd bynnag disgwylir cadarnhad. Cafodd mwyafrif y grant bwyd ei wario ac er mai’r Cyngor sy’n dal y grant, caiff ceisiadau cymunedol am y grant eu hystyried gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau fod y Cyngor wedi gweithio’n galed i sicrhau fod y gymuned yn gwybod am y grant sydd ar gael a’i bod yn ansicr os y gellir ymestyn unrhyw arian dros ben i’r flwyddyn nesaf. Gobeithir y byddai’r arian yn cael ei ymrwymo erbyn 31 Mawrth, fodd bynnag os nad felly, byddai’r Cyngor yn ceisio ei ymestyn dros y flwyddyn ariannol nesaf.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar Opsiwn 1; sef bod y Bwrdd Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn derbyn yr adroddiad a’r atodiadau fel y’u darparwyd cyn eu cyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.