Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Dydd Iau, 15fed Ebrill, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd M. Moore a’r Cynghorydd G. Paulsen fuddiant yn eitem 6 – Rhaglen Cymunedau Cefnogol i Bobl H?n – Diweddariad cynnydd.

 

4.

Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 234 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 25 Chwefror 2021 pdf icon PDF 246 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r Ddalen Weithredu.

           

6.

Diweddariad cynnydd rhaglen Cymunedau Cefnogol i Bobl Hŷn pdf icon PDF 422 KB

Ystyried adroddiad Prif Swyddog Gweithredol, GAVO.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr M. Moore a G. Paulsen fuddiant yn yr eitem ddilynol ac aros yn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Prif Swyddog Gweithredol GAVO.

 

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol GAVO fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad cynnydd ar raglen Cymunedau Cefnogol i Bobl H?n y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn rhoi sylw i’r gwaith a wneir gyda Thîm Ymgysylltu y Cyngor i ddatblygu’r rhaglen. Dywedodd y bu oedi oherwydd effaith Covid ar gymunedau, fodd bynnag mae gwaith yn awr yn dechrau symud ymlaen. Mae Gr?p Llywio yn weithredol ac mae Rheolwr Datblygu Cymunedol GAVO yn cefnogi’r Fforwm 50+ i ddiwygio a chryfhau eu dogfennau llywodraethiant. Penodwyd Swyddog Ymgysylltu â’r Trydydd Sector a gaiff ei rannu rhwng Cynghorau Blaenau Gwent a Chaerffili i roi staffio ychwanegol i gefnogi’r gwaith yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod mai’r un agwedd gadarnhaol o Covid oedd iddo ddod â chymunedau ynghyd i gefnogi ei gilydd. Bu tenantiaid a phreswylwyr yn Nhredegar ac ardaloedd eraill yn helpu i ddosbarthu parseli bwyd mewn cysylltiad gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac maent wedi sefydlu cysylltiadau gyda grwpiau anodd eu cyrraedd tebyg i’r henoed a’r bobl fwyaf fregus a gobeithiai y byddai’r cysylltiadau hyn yn parhau ar ôl Covid. Cytunodd y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol y bu ymateb gwych gan y gymuned ledled Gwent. Bu ystod ehangach o grwpiau oedran yn cefnogi’r gymuned ac mae’r sefydliad yn ystyried gwaith rhyng-genhedlaeth gyda’r bobl iau yma oedd wedi profi gwirfoddoli, efallai am y tro cyntaf ar lefel gymunedol, i gadw’r rôl wirfoddoli i barhau gyda’r ysbryd cymunedol. Teimlai y byddai hyn yn cefnogi gwaith cymunedau cefnogol i bobl h?n a’r ddealltwriaeth rhwng cenedlaethau.

 

Dywedodd y Swyddog Polisi y gellid dod â’r holl wybodaeth a gasglwyd drwy’r grwpiau cymunedol sy ‘n darparu gwasanaethau mewn ymateb i’r pandemig, timau ymateb ardal y Cyngor, y gwirfoddolwyr y gweithiant gyda nhw a’r rhaglen Rhwydweithiau Llesiant Integredig, ynghyd a’u cynnwys yn y rhaglen Cymunedau Cefnogol i Bobl H?n.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 2.4 digwyddiadau a gweithgareddau rhithiol. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol y byddai dull gweithredu cyfunol er mwyn cadw rhai gweithgareddau rhithiol, er enghraifft byddai’n ehangu’r cyfleoedd i gymryd rhan os gellid rhoi cymorth i’r bobl hynny sy’n gaeth i’w cartrefi i ddysgu technolegau newydd. Nid yw canolfannau cymunedol wedi agor yn llawn gan fod cyfyngiadau yn dal i fod ac felly mae angen edrych ar ffyrdd gwahanol i ddarparu gwasanaethau tra’n cydnabod bod unigolion sy’n dal heb fod â chysylltiadau gyda technolegau digidol.

 

Cyfeiriodd Aelod at CHAD, gr?p anableddau sy’n adnewyddu cyfrifiaduron yn bwrpasol at anableddu unigolion. Gwyddai’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol am y gr?p hwn a grwpiau tebyg eraill tebyg i Digital Cymru, cynllun Canolfan Cydweithredol Cymru sy’n benthyg offer a chynlluniau eraill lle caiff dyfeisiau llechen a gliniaduron eu rhoi i gartrefi gofal i breswylwyr gyfathrebu gyda’u teuluoedd a byddent yn edrych ar sut i adeiladu ar y cynlluniau hyn yn y dyfodol agos.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1,  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Cyllideb Gyfranogol Blaenau Gwent ‘Llais y Gymuned, Dewis y Gymuned’ pdf icon PDF 418 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth: Polisi a Phartneriaethau.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y cynnydd ar raglen Cyllideb Gyfranogol Blaenau Gwent a oruchwylir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yng nghyswllt y Gyllideb Gyfranogol, dynodwyd £100,000 i fynd â’r broses hon ymlaen yn 2021/22 a hysbysodd Aelodau y gallai cyllid pellach fod ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am ddefnydd ymgynghorwyr, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y gofynnwyd am gyllid ychwanegol gan sefydliadau partner i ostwng faint o amser a wariwyd ar ddull ymgynghoriaeth. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Gr?p Llywio Cyllideb Gyfranogol ar y dull mwyaf addas ar gyfer y dyfodol ac roeddent wedi argymell gwasanaethau ymgynghorydd sy’n arbenigo mewn cyflwyno rhaglenni rhithiol Cyllideb Gyfranogol i oruchwylio darparu’r rhaglen. Byddai hyn yn sicrhau fod y Gyllideb Gyfranogol yn cael ei gweithredu’n effeithlon gyda chyngor ac arweiniad priodol a bod y gymuned yn cael y cyfle gorau i symud ymlaen gyda threfniadau grant. Teimlai’r Aelod y byddai’n fwy addas cyfeirio at ymgynghorwyr fel contractwyr arbenigol yng nghyswllt y rhaglen Cyllideb Gyfranogol.

 

Cododd Aelod bryderon am gynnydd yn y dyfodol i ffioedd contractwyr arbenigol a thanlinellodd hefyd yr angen i ystod eang o bobl o’r gymuned i gymryd rhan ar y Gr?p Llywio Cyllideb Cyfranogol i sicrhau y rhoddir mwy o sylw i sgiliau ac awgrymodd y gellid gwahodd Panel Dinasyddion y Cyngor i gymryd rhan fel rhan o’r rhaglen. Sicrhaodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodau bod trefniant cap ar ffi yn ei le ar gyfer y contractwr arbenigol i sicrhau gwerth am arian. Yng nghyswllt ymgyfraniad y gymuned wrth nodi’r trefniadau Llywio, rhoddodd sicrwydd eto i Aelodau mai’r bwriad oedd sicrhau fod pob cymuned yn cymryd rhan i gynrychioli’r cyhoedd a sicrhau ei bod yn broses effeithlon. Gydag ymgyfraniad y contractwr arbenigol, teimlai y byddai ganddynt y profiad i gyrraedd y bobl gywir a rhoi cyngor ar yr hyn a weithiodd yn dda mewn ardaloedd eraill. Byddai’n ystyried sylwadau’r Aelodau fel rhan o’r broses lywio.

 

Holodd Aelod am union gost y contractwr arbenigol a chyfraniad partneriaid eraill at y gost honno. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y gellid barnu fod 10% o’r £100,000 ar gyfer ffioedd gweinyddol. Yr adborth gan gontractwr arbenigol penodol oedd y gallai’r ffi fod yn £14,000 i £18,000 yn dibynnu ar nifer y cyfarfodydd a gynhelid. Cafodd hyn ei adrodd yn ôl i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddynodi cyllid ychwanegol tu hwnt i’r grant i gefnogi’r broses honno, ac mae nifer o bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dynodi cyllid ychwanegol i gefnogi eu trefniant, er nad oes ffigur penodol ar y cam hwn. O safbwynt craffu, byddai eglurdeb ar yr union wariant a byddai hyn yn cael ei fonitro gan Bwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i adrodd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn unol â’r trefniadau monitro a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y byddai’r Gr?p Llywio yn gosod y trefniadau o amgylch yr hyn y gellid cynnig amdano  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Asesiad Llesiant Rhanbarthol Gwent pdf icon PDF 381 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau drosolwg o’r adroddiad a dywedodd y darparwyd yr Adroddiad i amlinellu’r gofynion statudol ar gyfer ymgynghori ar asesu llesiant lleol a rhoi sylw i opsiynau sut y gall Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyflawni eu rôl fel ymgynghorai statudol.

 

Yng nghyswllt cyllid grant rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru, holodd y Cadeirydd pryd y bydd canlyniad y cais yn hysbys. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod £78,000 ar gael i’r rhanbarth, bod y cais a gyflwynwyd yn cydymffurfio’n llwyr gyda’r telerau ac amodau a nodir yn y meini prawf a gobeithiai glywed am y canlyniad yn y dyfodol agos.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn ddarn sylweddol o waith sydd angen cwmpasu grwpiau anodd eu cyrraedd yn y gymuned tebyg i’r henoed, y mwyaf ynysig, yr anabl a phobl ifanc yn arbennig ddisgyblion oedran ysgol gyfun a myfyrwyr coleg, a gafodd flwyddyn anodd a heriol, yn arbennig gydag arholiadau oherwydd y pandemig. Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion bellach athro neu diwtor llesiant a llywodraethwr cyswllt i gefnogi pobl ifanc a theimlai y dylai’r adroddiad adlewyrchu pobl ifanc yn benodol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod hwn yn asesiad llesiant seiliedig ar boblogaeth ac yn cwmpasu ein holl gymunedau ac y byddai’n ystyried rhannau gwahanol o’r gymuned i edrych ar y gwahaniaethau a chanlyniadau a symud ymlaen â hyn drwy bileri llesiant oedd yn economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Byddai plant a phobl ifanc yn cael effaith fawr ar draws y meysydd hyn yn benodol o safbwynt addysg a chysylltu gydag ysgolion. Dywedodd fod un o’r egwyddorion ym mharagraff 6.1 yn darllen ‘ystyried llesiant yng Ngwent yng ngoleuni newid mewn amgylchiadau cyd-destun a deall goblygiadau heriau sy’n dod i’r amlwg (e.e. pandemig COVID-19, adferiad gwyrdd, gadael yr Undeb Ewropeaidd)’. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau y byddid yn ymchwilio pob maes llesiant ac y byddai’n sicrhau bod cyswllt gydag ysgolion drwy’r Hyrwyddwyr Llesiant yn mynd rhagddo drwy’r Tîm Ymgysylltu ac is-grwpiau. Bu llawer o gynnydd yng nghyswllt llesiant mewn ysgolion ac mae’r cwricwlwm newydd yn dymuno rhoi ffocws cryf ar lesiant. Gwyddai fod disgyblion Blaenau Gwent yn y gorffennol wedi cymryd rhan mewn arolygon cenedlaethol ar lesiant ac y byddai’n edrych am yr wybodaeth a data hwnnw i ymchwilio’r materion a godwyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at bensiynwyr a thanlinellodd na fu ganddynt unrhyw gyswllt o gwbl gyda’r gymuned yn ystod y pandemig a theimlai y dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys y gr?p yma o bobl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Aelodau wedi dynodi dau gr?p pwysig iawn o boblogaethau ac, fel dull gweithredu poblogaeth gyfan, mae gofyniad i edrych ar draws y fwrdeistref ar bob gr?p. Ychwanegodd fod gwaith hefyd yn cael ei wneud ar Asesiadau Effaith ar y Gymuned yn y ddwy ardal hon ar lefel Awdurdod Lleol a hefyd gyda phartneriaid, a rhoddodd enghraifft am y papur cynharach oedd yn ystyried cymuned gyfeillgar i bobl h?n. Roedd y tîm yn gweithio’n agos  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhwydwaith Llesiant Integredig Blaenau Gwent pdf icon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgl Aneurin Bevan ac Arweinydd Gwasanaeth Rhwydweithiau Llesiant Integredig.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Arweinydd Gwasanaeth Rhwydweithiau Llesiant Integredig.

 

Dywedodd Arweinydd Gwasanaeth Rhwydweithiau Llesiant Integredig fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed ar weithredu rhaglen trawsnewid Rhwydwaith Llesiant Integredig rhanbarthol ym Mlaenau Gwent. Hysbysodd Aelodau fod Covid wedi cael effaith fawr ar y cynllun hwn ac y bu’n rhaid felly gwyro o’r amcanion gwreiddiol. Yng nghyswllt iechyd a llesiant, cafodd ymdrechion eu hailgyflunio gyda’r gymuned i gefnogi cyrchu gwasanaethau ar draws y fwrdeistref i gynnal llesiant cadarnhaol gartref yn ystod cyfnodau clo.

 

Dywedodd Aelod fod canol tref Tredegar bellach yn ganolfan wi-fi am ddim gan y sicrhawyd cyllid ar gyfer y tair blynedd nesaf a theimlid ei bod yn bwysig sicrhau bod y gymuned yn gwybod am hyn. Cytunodd yr Arweinydd Gwasanaeth hysbysebu’r wi-fi am ddim yng nghanol tref Tredegar drwy grwpiau rhwydwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am fynediad i wasanaethau cyfeillio, dywedodd yr Arweinydd Gwasanaeth fod hwn yn wasanaeth cyfeillio penodol a bod cyfeillio wedi ei ddynodi fel blaenoriaeth allweddol cyn Covid. Dymunai mudiad gwirfoddol yn y Fenni ehangu eu gwasanaeth cyfeillio i ardal Brynmawr ac ar ôl ymgynghori, cafodd rhai gwirfoddolwyr eu recriwtio i’r gwasanaeth hwnnw ac fel y datblygodd Covid cafodd y gwasanaeth cyfeillio ei ymestyn i Flaenau Gwent i gyd ac ymhellach. Mae’r mudiad gwirfoddol yn llawn ar hyn o bryd ond mae wedi sicrhau cyllid ychwanegol i fedru cynyddu capasiti ar draws Blaenau Gwent.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Bwrdd Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn derbyn yr adroddiad a’r atodiadau fel y’u darparwyd cyn ei gyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.