Agenda and minutes

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) - Dydd Gwener, 21ain Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

Cynghorydd T. Sharrem

Cynghorydd D. Wilkshire

Cynghorydd G.L. Davies

Cynghorydd C. Meredith

Cynghorydd B. Summers

Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant

Pennaeth Gwasanaethau Plant

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 261 KB

Diogelu cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithas (Diogelu) a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 14 Gorffennaf 2021 pdf icon PDF 198 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021, a chodwyd y pwyntiau dilynol:

 

Nod Ansawdd Gwrth Fwlio

 

Roedd Aelod yn siomedig mai dim ond un ysgol oedd gan Nod Ansawdd Gwrth Fwlio a gofynnodd pam mai dim ond un ysgol oedd wedi ei gael.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg at yr esboniad a roddwyd a nododd mai dim ond un ysgol oedd wedi derbyn Nod Ansawdd Gwrth Fwlio, fodd bynnag mae nifer o ysgolion wedi mynd i’r afael â bwlio drwy agenda Ysgolion Parchu Hawliau. Ychwanegwyd fod y cynllun hwn yn cwmpasu nifer o faterion yn cynnwys llesiant disgyblion, gwasanaethau cymorth cwnsela yn ogystal â bwlio.

 

Gofynnodd yr Aelod am i nodyn gwybodaeth gael ei baratoi ar ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr agenda Ysgolion Parchu Hawliau a rhaglenni ehangach yn ymwneud â gwaith llesiant a chwnsela.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ddarparu nodyn gwybodaeth ar y gwaith ehangach sy’n mynd rhagddo ar draws pob ysgol yng nghyswllt asesiadau Ysgolion Parchu Hawliau.

 

Operation Encompass

 

Croesawodd Aelod fod yr wybodaeth berthnasol wedi bod ar gael i ysgolion yng nghyswllt digwyddiadau trais domestig. Fodd bynnag dywedodd yr Aelod ei bod hefyd yn bwysig fod digwyddiadau eraill y tu mewn ac o amgylch yr ysgolion hefyd yn cael eu hadrodd. Caiff llawer iawn o wybodaeth ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn nhermau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymgynnull, a dylid hysbysu’r ysgolion perthnasol os yw’r rhain yn effeithio ar bobl ifanc er mwyn cefnogi dysgwyr. Roedd yr Aelod yn bryderus mai ychydig iawn o wybodaeth a roddir i ysgolion gan yr Heddlu ar ddigwyddiadau heblaw trais domestig.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y pryderon a godwyd a dywedodd y rhoddir gwybodaeth i ysgolion erbyn 8.00am i gefnogi’r dysgwyr yr effeithwyr arnynt.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Diogelu Cyd-destunol pdf icon PDF 914 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn amlinellu cysyniad diogelu mewn cyd-destun a’r dull gweithredu ar draws Gwent a Chymru. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod cyfarfod blaenorol wedi gofyn am yr adroddiad ac wedyn rhoddodd drosolwg manwl o’r pwyntiau allweddol a fanylir yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt 2.6 yn yr adroddiad – “fel enghraifft, mae gorlenwi yn y cartref yn golygu fod y person ifanc yn treulio llawer o amser mewn mannau cyhoeddus. Mae’r person ifanc yn profi lladrad a thrais pan mae yn y lleoedd hynny. Mae’r digwyddiadau treisgar hyn yn effeithio ar ymddygiad y person ifanc a llawer o rai eraill yn yr ysgol. Mae anallu’r ysgol i ymateb yn effeithlon yn normaleiddio ymhellach drais ymysg grwpiau cyfoedion yn yr ysgol. Mae gan y grwpiau cyfoedion hyn fwy o ddylanwad ar ymddygiad y person ifanc na’u rhieni – ac yn effeithio ar allu’r rhieni i ddiogelu eu plentyn rhag y niwed a brofant (ac apêl) mannau cyhoeddus a chyfoedion. Rhaid i ni beidio anghofio ystyried yr amgylcheddau ar-lein. Gallai’r rhain fod yn gysylltiedig, er enghraifft, â gangiau yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ganfod neu feithrin perthynas amhriodol, ond byddant yn cael dylanwad ar blant a phobl ifanc. Mae pob sefyllfa a chyd-destun yn wahanol ond beth bynnag yw’r materion a’r problemau, mae diogelu mewn cyd-destun yn anelu i helpu darparu dull i helpu cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel”. Teimlai’r Aelod i’r paragraff gael ei eirio’n wael gan fod ysgolion yn hafan ddiogel i rai plant a phobl ifanc gan fod athrawon wedi eu hyfforddi i sylwi ar broblemau ac felly teimlai nad yw’r paragraff yn adlewyrchu gwaith da ysgolion yn yr achosion hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol nad oedd y geiriad yn feirniadaeth o ysgolion. Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu yn seiliedig ar y prosesau a ddefnyddiwyd ym mwrdeistrefi Llundain a dinasoedd mawr. Nid oes unrhyw enghreifftiau yng Nghymru a chytunodd fod athrawon yn cael eu hyfforddi i gadw llygad am ddysgwyr bregus. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Cymru yn gweithredu’n wahanol i ysgolion yn Llundain oedd wedi profi’r cysyniad hwn.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar eiriad y paragraff.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yn ymwneud â llwyddiant diogelu mewn cyd-destun, dywedwyd fod Prifysgol Bedfordshire wedi profi’r dulliau ym mwrdeistrefi Llundain a brofodd yn gadarnhaol iawn. Fodd bynnag, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r problemau yn Llundain a’r cylch yn fwy heriol na’r rhai ym Mlaenau Gwent, fodd bynnag mae’r cysyniad wedi bod yn gadarnhaol wrth gefnogi plant yn yr amgylcheddau heriol hyn a’u gwneud yn ddiogel.

 

Rhoddodd Swyddog enghraifft o sut mae diogelu mewn cyd-destun wedi ei sefydlu mewn prosesau ym Mlaenau Gwent a’r gwaith cadarnhaol a wnaed gyda Diogelwch y Gymuned.

 

Dilynodd trafodaethau pellach am gysyniad diogelu mewn cyd-destun a hyfforddiant a gaiff ei wneud. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, pe byddai’r dulliau hyn yn cael eu defnyddio’n llawn mewn ysgolion, y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg – 1 Ebrill i 30 Medi 2021 pdf icon PDF 627 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar y cyd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

Dywedwyd fod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth a dadansoddiad ar berfformiad diogelu gan Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021. Mae’r wybodaeth yn galluogi aelodau i ddynodi tueddiadau a meysydd diogelu o fewn yr Awdurdod sydd angen eu datblygu ymhellach i wella arferion diogelu er mwyn diwallu anghenion diogelu plant a phobl ifanc o fewn Blaenau Gwent.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth yr atgyfeiriadau i Gwasanaethau Cymdeithasol a nododd fod cynnydd, fodd bynnag mae’r rhain yn cael eu monitro yn fisol a dywedodd y gwelwyd materion tebyg mewn awdurdodau cyfagos. Amlinellodd y Swyddog y pwyntiau allweddol yng nghyswllt amddiffyn plant.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod os y cafodd nifer fawr o atgyfeiriadau eu derbyn gan yr Heddlu yr oedd yn rhaid eu hailatgyfeirio yn ôl i’r Heddlu ac nad oeddent yn fater i Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedwyd na chaiff unrhyw atgyfeiriadau eu dychwelyd yn ôl i’r Heddlu. Os nad yw atgyfeiriad yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cymorth statudol gan y gwasanaethau cymdeithasol, mae nifer o gynlluniau ym Mlaenau Gwent yn ymwneud â gwasanaethau ataliol, yn bennaf Teuluoedd yn Gyntaf, a chynigir pecyn cymorth haen isel gyda chaniatâd rhieni. Dywedodd y Swyddog bod gwaith yn mynd rhagddo gyda gweithwyr cymorth Addysg a Teuluoedd yn Gyntaf, yn edrych ar fodel a gafodd ei roi yn ei le gyda gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion, i werthuso os yw’r model yn gweithio, sy’n atal atgyfeiriadau diangen rhag cyrraedd y Gwasanaeth IAA.

 

Gadawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. Holt y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dilynodd trafodaeth am weithwyr cymdeithasol a dywedodd nad yw trosiant staff Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent yn ddim gwahanol i’r hyn yw yn genedlaethol neu mewn awdurdodau cyfagos. Mae trosiant mawr o staff ac yn yr achosion hyn gallai fod yn anodd i’r teulu feithrin perthynas hirsefydlog. Ychwanegodd fod yr Awdurdod yn ceisio sicrhau mai ychydig o darfu oedd pan oedd gweithwyr cymdeithasol yn gadael yr Awdurdod ac angen ailddyrannu achosion.

 

Rhoddodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg drosolwg o’r wybodaeth addysg yn cyfeirio at Ebrill 2021 i Orffennaf 2021. Dywedwyd y cafodd y canfyddiadau eu hadrodd yn ystod y pandemig, felly nid yw’n bosibl gwneud cymariaethau gan y bu tarfu mewn ysgolion. Amlinellodd y Swyddog ymhellach y nifer o ymyriadau corfforol cyfyngol, niferoedd digwyddiadau bwlio a arweiniodd at waharddiadau. cyfarfodydd Sicrwydd Ansawdd, dyfarniadau Estyn, Operation Encompass, adrodd ar gydymffurfiaeth ac addysg ddewisol yn y cartref. Yng nghyswllt addysg ddewisol yn y cartref, dywedodd y Swyddog fod prosesau priodol yn eu lle i fonitro gydag ymweliadau ffurfiol i wirio os yw’r addysg yn addas. Fodd bynnag, er bod y nifer y disgyblion a addysgir yn y cartref wedi cynyddu, mae hyn yn debyg i weddill Cymru a theimlid fod hyn oherwydd y pandemig. I gloi, rhoddwyd trosolwg pellach yng nghyswllt esgyniadau DBS a VAWDASV.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Diogelu Oedolion 1 Ebrill i 30 Medi 2021 pdf icon PDF 479 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Oedolion fod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am berfformiad diogelu yn gysylltiedig â Gwasanaethau Oedolion o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021. Mae’r adroddiad hefyd yn dynodi meysydd diogelu o fewn yr Awdurdod sydd angen eu datblygu ymhellach i wella arferion a gweithdrefnau diogelu ar gyfer Gwasanaethau Oedolion. Cyfeiriodd y Swyddog yr Aelodau at y data perfformiad a rhoi trosolwg o’r sefyllfa bresennol fel y’i manylir yn yr adroddiad.

 

Dilynodd trafodaeth yng nghyswllt y data a gyflwynwyd ar gyfer cartrefi gofal a dywedodd y cafodd cartrefi gofal eu taro’n ddifrifol gan y pandemig gan mai preswylwyr oedd y rhai mwyaf bregus. Mae’r system ymweld yn cael ei rheoli gan y cartref gofal unigol a chyflwynwyd gwahanol ffyrdd i alluogi anwyliaid i siarad gyda’u perthnasau. Gwnaed llawer iawn o waith ynghylch cartrefi gofal a bu adroddiadau o bob rhan o’r wlad am sut yr effeithiodd y pandemig arnynt.

 

Cyfeiriodd Aelod at y data a adroddwyd am gamdriniaeth honedig a gofynnodd os gellid rhoi camerâu mewn cartrefi gofal i fonitro’r materion hyn. Dywedodd y Swyddog fod llawer iawn o ddeddfwriaeth a llywodraethiant am osod camerâu. Mae nifer o gartrefi wedi gosod CCTV wrth y fynedfa. Er bod adroddiadau am gamerâu yn cael eu gosod mewn ystafelloedd, mae’n fater cymhleth i fynd ymlaen ag ef. Mae pob mater o gam-driniaeth neu ladrad yn cael eu hymchwilio’n llawn.

 

Gofynnodd Aelod os yw’r prosesau diogelu yn eu lle mewn llety gwarchod. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw pob llety gwarchod yn cael ei reoli ar sail lawn-amser felly mae llai o ddiogeliad yn y safleedd hyn. Os oedd unrhyw un yn gwybod am broblemau o fewn safleoedd tai, mae’n bwysig y rhoddir adroddiad amdanynt er mwyn i’r mater gael ei ymchwilio gan fod prosesau ar gael i’w dilyn gan weithwyr cymdeithasol a fyddai’n ymweld â’r unigolyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

9.

Diogelu – Dysgwyr Bregus pdf icon PDF 550 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Diogelu mewn Addysg a Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

Siaradodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg am yr adroddiad sy’n rhoi manylion y strategaethau a ddefnyddir i ddiogelu dysgwyr bregus gyda chydweithwyr yn y sector Addysg a swyddogion perthnasol yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyfeiriodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg yr Aelodau at y data perfformiad perthnasol a thynnu sylw at y pwyntiau allweddol a fanylir yn yr adroddiad.

 

Dilynodd trafodaeth am daliadau uniongyrchol prydau ysgol am ddim a gofynnwyd os y gellid cyflwyno nodyn gwybodaeth ar y defnydd o brydau ysgol am ddim ym mhob ysgol i ganfod lle nad oedd rhieni oedd â hawl wedi derbyn y cymorth. Mae’n hanfodol fod pob rhiant yn cael eu hannog i ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg fod gwaith hyrwyddo yn mynd rhagddo am brydau ysgol am ddim a grantiau i helpu gyda gwisg ysgol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i baratoi papur gwybodaeth i’w ystyried ar y defnydd o brydau ysgol am ddim.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).