Agenda and minutes

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) - Dydd Mercher, 14eg Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Paulsen, T. Sharrem a D. Wilkshire.

 

Aelod Cyfetholedig

T. Baxter

 

Pennaeth Gwasanaethau Plant

Rheolwr Strategol Gwella Addysg

Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant (Diogelu)

Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes

 

Cyfeiriodd Aelod at ymddeoliad Alan Williams, Aelod Cyfetholedig oherwydd afiechyd. Mynegodd y Cadeirydd ac Aelodau eu gwerthfawrogiad am ei gyfraniad i’r Cyd-bwyllgor Craffu Diogelu a’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gofynnodd i lythyr gwerthfawrogiad gael ei anfon ato.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y bydd cyfarfodydd y dyfodol yn cychwyn am 10.00 a.m.

 

Cododd Aelod bryderon bod eitem agenda wedi eu diweddaru  wedi ei hanfon yn hwyr ac yn y dyfodol y dylid rhoi esboniad gyda’r eitem a ddosbarthwyd pan y’i cylchredir ar fyr rybudd i Aelodau fod yn gwybod am y diwygiadau. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg fod naratif yr adroddiad yn parhau’r un fath ond cafodd yr Atodiad ei ddiwygio i gynnwys y diweddariad Addysg yng nghyswllt graffiau.

 

5.

Cofnodion y Cydbwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 233 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cydbwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu – 26 Ebrill 2021 pdf icon PDF 199 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cyd-bwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

7.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 638 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi gwybodaeth am ddiogelu a dadansoddiad gan Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

 

Gwybodaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm Diogelu Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod mai’r heddlu yw’r atgyfeiriwr uchaf a chyfeiriodd at baragraff  6.3.2 yr adroddiad yng nghyswllt prosesau a ddatblygwyd rhwng Addysg a’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ysgolion a theimlai y gellid o bosibl ymestyn hyn rhwng ysgolion, yr heddlu a’r gymuned. Cyfeiriodd hefyd at baragraff 6.3.4 am y nifer o ddigwyddiadau bwlio a ddynodwyd gan blant a phobl ifanc fel problem sydd angen ei monitro’n agos a theimlai y gallai hyn fod yn lledaenu allan i’r gymuned gan achosi mwy o atgyfeiriadau gan yr heddlu.

 

Dywedodd Aelod arall fod y ffigurau ar gyfer atgyfeiriadau wedi cynyddu drwy gydol y flwyddyn, a allai fod oherwydd y pandemig, ond bod atgyfeiriadau gan Gwasanaethau Ieuenctid yn gostwng yn sylweddol.

 

Atebodd y Rheolwr Tîm Diogelu y byddai’n codi’r pwyntiau uchod gyda’r cydweithwyr priodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y bu gostyngiad bach yng nghyfanswm yr atgyfeiriadau gan Gwasanaethau Ieuenctid a theimlai fod hyn oherwydd llai o gyswllt wyneb i wyneb gyda phlant a phobl ifanc.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 19 – Ffigur 2.8: mae hyn yn cyfeirio at gynadleddau adolygu ac mae’r canran a gynhaliwyd o fewn yr amserlen yn dangos 100% ar gyfer Ch1 a Ch4, 84.4% ar gyfer Ch2 a 96.2% ar gyfer Ch3. Nid yw’r data a roddir yn achosi consyrn. Gofynnodd yr Aelod i’w frawddeg olaf “nid yw’r data a roddwyd yn achosi consyrn” gael ei hail-eirio. Cytunodd Rheolwr y Tîm Diogelu i newid y geiriad yn y frawddeg hon.

 

Yng nghyswllt nifer uchel atgyfeiriadau gan yr heddlu, teimlai Aelod nad oes angen i’r holl atgyfeiriadau gael eu cyfeirio at Gwasanaethau Cymunedol. Dywedodd y Rheolwr Tîm Diogelu fod hynny’n dibynnu ar natur yr atgyfeiriad.

 

Cododd Aelod arall bryderon am atgyfeiriadau gan yr heddlu a holodd os oes proses dilyn lan gyda Thîm Diogelwch y Gymuned a’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol gan y teimlai fod peth ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei achosi gan droseddwyr mynych. Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Diogelu fod yr heddlu yn ymweld â throseddwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych i geisio rhoi sicrwydd i gymunedau. Mae Tîm Diogelwch y Gymuned yn rhagweithiol wrth geisio gweithio gyda chymunedau a gweithwyr proffesiynol eraill i ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pe byddai gweithiwr cymdeithasol yn dod i wybod am ymddygiad neilltuol gan blentyn drwy atgyfeiriad gan yr heddlu, yna byddai cymorth yn cael ei roi yn ei le i ostwng yr ymddygiad hwnnw. Teimlai’r Aelod y dylai fod mwy o gydweithredu rhwng asiantaethau gan fod mwy a mwy o deuluoedd angen cymorth.

 

Os oes oedolion bregus yn gysylltiedig, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai Gwasanaethau Plant yn cysylltu gyda Gwasanaethau Oedolion ac y byddai Gwasanaethau Oedolion wedyn yn ymweld â’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Polisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol pdf icon PDF 423 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Rheolwr Diogelu mewn Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau Craffu i graffu ar Bolisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol yn dilyn ei adolygiad blynyddol.

 

Siaradodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.1 yr adroddiad a dywedodd am bwynt bwled 5 – Gofynion hyfforddiant sylfaenol ar gyfer yr holl staff a gwirfoddolwyr – a theimlai y dylai hyn fod yn hyfforddiant estynedig ac nid sylfaenol. Cytunodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg nad oedd y gair sylfaenol yn cyfleu’r lefel o hyfforddiant sy’n gysylltiedig ac eglurodd ei bod yn lefel a gytunwyd y dylai pob aelod mewn lleoliad addysg ei chael. Mae’n lefel gynhwysfawr ac mae’r holl ymarferwyr yn llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau am ddiogelu a beth sydd angen iddynt wneud os oes consyrn a sut i adrodd y consyrn hwnnw.

 

Cefnogodd Aelod arall y farn y dylid newid y gair ‘sylfaenol’ yng nghyswllt gofynion hyfforddiant.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol wrth yr Aelodau eu bod yn edrych ar hyfforddiant corfforaethol h.y. hyfforddiant tair haen. Byddai lefel sylfaenol, lefel ganolig a lefel uwch o hyfforddiant. Maent wrthi’n asesu lefel ymgyfraniad staff ac Aelodau a pha lefel o hyfforddiant fyddai ei hangen ac yn gobeithio cyflwyno rhaglen hyfforddiant yn y dyfodol agos.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am amseriad dileu’r atodiad ar gyfer ymateb i Covid o bolisi eleni, esboniodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg y cafodd atodiad ei roi y llynedd i amlinellu sut y byddai diogelu yn gweithredu yn ystod cyfnodau cynnar y pandemig Covid. Mae’n atodiad atodol i’r polisi i lywio ysgolion ar yr hyn sydd angen iddynt wneud i gadw cysylltiad gyda dysgwyr bregus gan fod ysgolion mewn sefyllfa newydd yng nghyswllt cau ysgolion. Gan fod y gweithdrefnau hyn yn adlewyrchu cynnwys y polisi diogelu, teimlid y gellid yn awr ddileu’r atodiad ond pe byddai sefyllfaoedd yn codi yn y dyfodol yng nghyswllt Covid, byddai’r Rheolwr Addysg yn rhoi cyngor amserol ar gyfer trefniadau diogelu.

 

Holodd Aelod os oedd yn briodol i benaethiaid ysgol hefyd fod yr Uwch Berson Dynodedig (DSP) gyda chyfrifoldeb am ddiogelu. Dywedodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg fod penaethiaid ysgol yn aml yn DSP ac yn cael eu cefnogi gan ddirprwy a theimlai eu bod mewn lle dai i gydlynu’r trefniadau diogelu yn eu hysgolion. Ychwanegodd fod gan benaethiaid ysgolion Blaenau Gwent berthynas dda gyda’u staff ac wedi creu diwylliant agored ymysg eu gr?p staffio a theimlai nad oedd unrhyw rwystr i deimlo’n gysurus yn siarad gyda phenaethiaid ysgol. Gallai unrhyw un sy’n codi consyrn gael sicrwydd drwy siarad gyda rhywun gyda lefel dda o brofiad diogelu. Y neges a gadarnhawyd drwy hyfforddiant oedd bob amser i hysbysu’r DSP os oedd pryderon.

 

Soniodd Aelod am gyfarfod blaenorol gydag Estyn lle mae pennaeth yr ysgol oedd y DSP a’r dirprwy bennaeth yr ail DSP. Awgrymwyd y gallai fod yn addas i ddynodi  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Deilliannau Hunanarfarniad Diogelu pdf icon PDF 402 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau’r Cyd-bwyllgor Craffu Diogelu i graffu ar ganfyddiadau prosesau presennol hunanarfarnu a chynllunio busnes a gynhelir o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allweddol.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Teimlai’r Cadeirydd y dylai’r polisi bwysleisio llais y disgybl gan fod disgyblion yn codi pryderon am ddiogelu gydag athrawon drwy’r system hon.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.1.1 pwynt bwled 3 – Mae gwaith diweddar i ymateb i broblemau diogelwch y gymuned, gwrthderfysgaeth ac ymddygiad eithafol wedi datblygu’n dda, er enghraifft y Bartneriaeth Ysgolion Diogelach a Chynllun Gweithredu Parch a Chydnerthedd, a theimlai fod ymddygiad eithafol i’w weld mewn cymunedau. Rhoddodd enghraifft beiciau modur oddi ar y ffordd yn cael eu gyrru at geir a phobl yn teimlo dan warchae. Awgrymodd y dylai’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant godi’r materion hyn yn ei chyfarfodydd gyda chydweithwyr.

 

Cyfeiriodd Aelod at y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a dywedodd fod hwn yn newid enfawr i ysgolion yn sut maent yn gweithio yn y maes hwn a gofynnodd os oedd y polisïau, gweithedrefnau a hyfforddiant addas ar gyfer ysgolion yn ei le yn barod ar gyfer gweithredu’r Ddeddf. Dywedodd y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant fod y tîm Cynhwysiant wedi gweithio’n galed, yn neilltuol gyda Chydlynwyr ADY, felly maent yn deall beth sydd ei angen yng nghyswllt y gofynion ADY newydd, yn arbennig o amgylch y Cynlluniau Datblygu Unigol. Mae’r Cydlynwyr ADY yn gyfrifol am hyfforddi ysgol a chomisiynwyd Ysgol Gyfun Tredegar i gefnogi penaethiaid ac uwch dimau arweinyddiaeth ysgolion yng nghyswllt prosesau ac yn y blaen dros y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r Tîm Cynhwysiant a gweithwyr cymorth ADY i gyd wedi cael hyfforddiant llawn ar ofynion y Ddeddf ac yn medru cefnogi ysgolion Blaenau Gwent. Mae EAS wedi hyfforddi eu holl Gynghorwyr Her a fyddai’n Bartneriaid Gwella Ysgolion o fis Medi a byddent hefyd yn medru cefnogi athrawon ac uwch arweinwyr.

 

Yng nghyswllt diwygio ADY, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cafodd adroddiad ei gyflwyno’n flaenorol i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu am barodrwydd ADY o safbwynt Blaenau Gwent. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ymagwedd bragmatig o fis Medi am weithredu ADY a theimlai y byddai’r sector yn croesawu hynny. Yng nghyswllt capasiti o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg, byddai’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant yn gweithio’n llawn-amser i’r Cyngor o 1 Medi 2021 a theimlai fod digon o gapasiti o fewn y tîm i ymestyn diwygio ADY. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau y bwriedir recriwtio i swydd wag Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant yn nhymor yr hydref.

 

Holodd y Cadeirydd os byddai’n fanteisiol i EAS ychwanegu eitem safonol ar ADY a’r diwygiadau newydd ar agenda cyfarfodydd cyrff llywodraethu. Byddai Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant yn trafod hyn gyda Gwasanaethau Llywodraethwyr.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd.