Agenda and minutes

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) - Dydd Llun, 2ail Rhagfyr, 2019 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod o rybudd os dyunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau..

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

There were no declarations of interest or dispensations reported.

 

4.

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 178 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y Cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o'r Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau'r Cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu - 15 Gorffennaf 2019 pdf icon PDF 354 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019, yn cynnwys:

 

Eitem 6 - Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg

 

Awgrymodd Aelod y dylid cynnwys graffiau gyda'r data er mwyn dangos yr wybodaeth yn ymwneud â throsglwyddo o fewn y flwyddyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg nad oedd unrhyw wybodaeth fanwl ar gael ar ddisgyblion o'r tu allan i'r sir, er bod yr Awdurdod wedi ceisio cael yr wybodaeth hon gan ysgolion ac awdurdodau lleol eraill.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.

 

6.

Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 187 KB

Derbyn Dalen Penderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.

 

7.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg - 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019 pdf icon PDF 633 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant a'r Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a Rheolwr Strategol Gwella Addysg, a gyflwynwyd i roi gwybodaeth ar berfformiad diogelu gyda ffocws ar ddadansoddiad o Wasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Effaith ar y Gyllideb

 

Yng nghyswllt ceisiadau llys a chostau cyfreithiol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod nifer y ceisiadau llys yn sefydlog a bod y Tîm Diogelu yn awr yn gweithio ar gapasiti llawn a bod y ddau wedi cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb, er fod weithiau angen comisiynu ymgynghorydd allanol ar gyfer ymddangosiadau llys. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y cynhaliwyd profion o'r farchnad a bod gwaith yn mynd rhagddo i weld os gallai awdurdodau lleol eraill ddarparu'r gwasanaeth i Flaenau Gwent.

 

Gofynnodd i Aelod am gynnwys y graffiau yn ymyl y geiriad perthnasol er mwyn eglurdeb yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddid yn edrych ar fformat yr adroddiad ar gyfer dibenion eglurdeb.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gofynnodd Aelod os mai'r heddlu yw'r ffynhonnell fwyaf o atgyfeiriadau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y rôl Ditectif Ringyll yn y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) yn gwneud cyfraniadau cadarnhaol i'r broses ddiogelu. Nid yw atgyfeiriadau gan yr heddlu wedi gostwng ond mae safon yr wybodaeth a gafwyd wedi gwella sydd wedi arwain at wneud penderfyniadau gwell drwy wasanaethau ataliol tebyg i'r rhaglen Gweithredu'n Gynnar Gyda'n Gilydd. Holodd yr Aelod hefyd am atgyfeiriadau gan yr Ymddiriedolaeth Hamdden. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr holl staff wedi eu hyfforddi mewn Lefel 1 Diogelu i adnabod arwyddion camdriniaeth ac y gall rhai atgyfeiriadau gan yr heddlu fod wedi deillio oddi wrth staff yr Ymddiriedolaeth Hamdden. Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg fod gan yr Ymddiriedolaeth Hamdden swyddogion arweiniol ar gyer diogelu ond y gall atgyfeiriadau fod yn isel gan fod y rhan fwyaf o ddarpariaeth hamdden yn fynediad agored a rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod trefniadau cadarn ar waith.

 

Categorïau cam-driniaeth

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am brif gategori cam-driniaeth, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai esgeulustod yw'r prif gategori; hwn oedd uchaf oherwydd rhesymau megis rhianta, y cartref neu fregusrwydd oherwydd tlodi a diffyg arian. Cam-drin emosiynol yw'r ail uchaf, byddai cam-driniaeth iechyd meddwl yn cyflwyno fel cam-driniaeth emosiynol felly byddai'r categori eilaidd yn mynd law yn llaw. Defnyddir mesurau ataliol heriol drwy weithio partneriaeth, addysg a hysbysu rhieni am effaith camdriniaeth emosiynol y plentyn.

 

Tynnodd Aelod sylw am gamgymeriad ar dudalen 37, Ffigur 2.4 Dadansoddiad o blant ar y gofrestr diogelu plant, dylai'r wybodaeth a elwir yn Anhysbys ddarllen Gwryw.

 

Gadawodd y Cynghorwyr Martin Cook a Wayne Hodgins y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gwybodaeth am Addysg

 

Cyflwynodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg y wybodaeth am Addysg.

 

Holodd Aelod am y nifer uchel o ymyriadau corfforol cyfyngol yn ystod tymor yr Hydref. Esboniodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg mai tymor yr Hydref yw'r tymor hiraf fel arfer, fodd bynnag mae'r tueddiad yn gyson gydag adroddiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Diogelu Oedolion - 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019 pdf icon PDF 459 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a gyflwynwyd i roi gwybodaeth i Aelodau ar berfformiad diogelu yng nghyswllt Gwasanaethau Oedolion rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2019.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Chomisiynu am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y Gronfa Gofal Canolraddol (ICF), dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y sicrhawyd cyllid hyd at fis Mawrth 2021 a bod trafodaethau'n mynd rhagddynt i sicrhau cylld tu hwnt i hynny ond nad oedd unrhyw warant.

 

Cyfeiriodd Aelod at achosion o gam-driniaeth domestig ar gyfer y chwarter hwn a holodd os oeddent yr un problemau neu broblemau gwahanol i'r rhai a adroddwyd yn y chwarter diwethaf. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod rhai problemau yr un fath, fodd bynnag roedd yn anodd rhoi adroddiad gan fod rhai materion wedi gorgyffwrdd. Roedd mwyafrif yr achosion yn fewnol a chafodd llinellau amser eu cryfhau er enghraifft lle bu lladrad ac y byddai'r heddlu yn gysylltiedig, byddai hyn yn dod yn fater mewnol pe na fedrid canfod tystiolaeth.

 

Holodd Aelod os bu unrhyw erlyniadau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod un unigolyn mewn risg o gael ei reoli a'i gyflwyno i'r heddlu. Os oes honiadau yn erbyn gofalwr, byddai angen i'r Asiantaeth atal y gofalwr hwnnw dros dro a chael un arall yn ei le.

 

Cyfeiriodd Aelod at y nifer uchel o anhysbys ar y tabl personau a honnir yn gyfrifol. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod hyn oherwydd na ddynodwyd unrhyw unigolyn penodol, er enghraifft gall cymydog fod wedi rhoi adroddiad fod defnyddiwr gwasanaeth wedi syrthio neu gall gofalwr fod yn bryderus am aelod o'r teulu yn cymryd arian. Byddai proses sgrinio i gasglu tystiolaeth a mapio a monitro'n effeithlon, ond efallai na chanfuwyd unrhyw dystiolaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at ffynonellau atgyfeiriadau. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth y gallai fod nifer o atgyfeiriadau o wahanol ffynonellau yn ymwneud â'r un unigolyn, byddai hyn yn cael ei gyfrif fel un atgyfeiriad er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef derbyn yr adroddiad fel y'i darparwyd ac argymell cymeradwyaeth yn y Pwyllgor Gweithredol.

 

9.

Sicrwydd Ansawdd Diogelu mewn Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol pdf icon PDF 471 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Addysg a gyflwynwyd i gael barn Aelodau ar y protocol sicrwydd ansawdd diwygiedig ar gyfer trefniadau diogelu mewn Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol.

 

Siaradodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cododd Aelod bryderon am drosglwyddo disgyblion o un ysgol i un arall a throsglwyddiadau allan o'r sir a dywedodd ei bod yn ddyletswydd ar y cyngor i basio gwybodaeth trosglwyddo ymlaen a theimlai nad oedd ysgolion yn gweithredu'r Polisi Derbyn yn gywir h.y. cwblhau'r ffurflenni trosglwyddo yn llawn. Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg fod y Polisi Derbyn yn cael ei adnewyddu'n flynyddol ac yn cael ei gyflwyno i aelodau'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu i'w ystyried; fodd bynnag byddai'n gweithio i sicrhau y gweithredir y polisi'n fwy effeithlon. Cydnabu Aelodau y llwybr gweithredu hwn.

Cododd Aelod arall bryderon nad oedd gwybodaeth trosglwyddo yn cael ei rhoi i ysgolion. Dywedodd y gallai staff a disgyblion fod mewn risg o drais ac ymosodiad pe na rhoddir yr wybodaeth iddynt. Gofynnodd hefyd pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer staff ysgol y caiff honiadau eu gwneud yn eu herbyn. Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg y caiff gr?p gorchwyl a gorffen dan arweiniad y Prif Swyddog Masnachol ei drefnu i drafod trais ac ymosodiad yn erbyn staff a byddai staff mewn ysgoilion un un pwynt allweddol i gael ei drafod.

 

Dywedodd Aelod y dylid ystyried polisi os caiff rhiant ei wahardd o un ysgol yna dylent gael eu gwahardd o bob ysgol yn y fwrdeistref oherwydd materion diogelu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodolk ar yr uchod, i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Aelodau wedi craffu ar y protocol diwygiedig ac wedi cyfrannu at yr asesiad parhaus o effeithlonrwydd.