Agenda and minutes

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) - Dydd Iau, 8fed Hydref, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, C. Meredith, M. Moore, G. Paulsen a T. Sharrem

 

Aelod a Gyfetholwyd

Alun Williams

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 238 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019.

 

(Dylid sylwi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 2 Rhagfyr 2019 pdf icon PDF 92 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cyd-bwyllgor Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019, yn cynnwys:

 

COVID-19

 

Mynegodd Aelod siom na fu unrhyw drafodaeth gyda’r Cadeirydd a Swyddogion Arweiniol yn yr Awdurdod yng nghyswllt sefyllfa COVID-19 a’r sgil effaith yng nghyswllt y Gyfarwyddiaeth Addysg a theimlai y dylai Aelodau gael gwybodaeth lawn am y sefyllfa.

 

Profion ac Ansawdd D?r

 

Dywedodd Aelod y cynhelir cyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu. Fel y Pwyllgor cynnal, dim ond Aelodau o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol fyddai â hawliau pleidleisio ond ni fyddai pleidlais gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu. Teimlai’n gryf fod profion ac ansawdd d?r yn fater diogelu ac y dylai gael ei ystyried yn y Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y penderfynwyd cyfarfod cyd-bwyllgor rhwng y ddau Bwyllgor Craffu gan fod gan Gwasanaethau Cymunedol gyfrifoldebau Landlord Corfforaethol.

 

Dywedodd Aelod arall ei bod yn bwysig fod Aelodau, fel Pwyllgor Diogelu, yn gwybod am y sefyllfa yng nghyswllt sut a phwy sy’n gwneud penderfyniadau a bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud a’u dilyn yn gywir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg fod y mater ansawdd d?r wedi oedi ailagor rhai ysgolion ac y cynhaliwyd ymchwiliad annibynnol i adolygu prosesu. Cyflwynir adroddiad i’r Cyd-bwyllgor Craffu yn rhoi sylw i nifer o feysydd i gael eu datblygu a’u gwella wrth symud ymlaen.

 

Ailadroddodd yr Aelod ei siom am hawliau pleidleisio ar gyfer Aelodau Craffu Addysg a Dysgu. Teimlai’r Cadeirydd hefyd y dylai Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu gael hawliau pleidleisio ar y mater hwn.

 

Dywedodd y Swyddog Democrataidd a Chraffu y byddai’n mynd â’r pwyntiau hyn yn ôl i’r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Teimlai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd y dylid trafod cyfarfod gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr ac Arweinyddiaeth y Cyngor i drafod y mater hwn.

 

Cododd Aelod arall bryderon pellach am adroddiad Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a ysgrifennwyd ym Mehefin 2020 yng nghyswllt cyfrifoldebau diogelu. Teimlai fod materion o fewn ysgolion tebyg i iechyd a diogelwch, ansawdd d?r a COVID-19 i gyd yn faterion diogelu ac yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu, ac o’r herwydd y dylai Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu gael rhan yn unrhyw benderfyniadau a wneir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim mai prif gyfrifoldeb y Cyd-bwyllgor Diogelu yw diogelu plant. Yng nghyswllt profion d?r, byddai’r gweithdrefnau hyn yn dod dan y rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac yn alinio gyda gwaith Gwasanaethau Technegol e.e. Legionella. Felly, bu angen trefnu Cyd-bwyllgor Craffu i ystyried trafodaethau gan Aelodau’r ddau Bwyllgor.

 

Teimlai’r Cadeirydd y dylid bod wedi trefnu Cyd-bwyllgor Craffu gyda hawliau pleidleisio llawn ar gyfer pob Aelod. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg y byddai’n mynd â’r sylwadau hyn yn ôl i Gwasanaethau Democrataidd cyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Craffu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.

 

Dywedodd Aelod na fu unrhyw blentyn mewn risg gan y bu system brofi drylwyr yn ei lle a  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y cynhelir cyfarfodydd y dyfodol am 10.00 a.m.

 

7.

Polisi Diogelwch Ar-lein 360 Gradd ar gyfer Ysgolion pdf icon PDF 420 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg sy’n cyflwyno Polisi Diogelwch Ar-lein 360 gradd Safe Cymru ar gyfer ysgolion a gofynnodd Aelodau am farn aelodau ar y templed polisi cyn mabwysiadu’r polisi enghreifftiol ar gyfer ysgolion.

 

Siaradodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Caiff y polisi ei ddarparu gan Southwest Grid for Learning sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r bwriad yw sicrhau y gall dysgwyr ddefnyddio’r rhyngrwyd a chyfathrebu cysylltiedig mewn modd addas ac yn ddiogel. Roedd y teimladau polisi yn gynhwysfawr iawn ac yn rhoi sylw i ystod llawn o ystyriaethau ar gyfer diogelwch ar-lein a chaniateir ddefnyddio’r polisi hwn fel y mynnant i fod yn addas i’w lleoliad neilltuol. Byddai polisïau eraill sy’n bodoli eisoes o fewn ysgolion yn cael eu disodli pan weithredir y polisi.

 

Holodd y Cadeirydd pa ddulliau diogelu sydd ar gael i rieni roi ar ddyfeisiau eu plant. Dywedodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg fod Llywodraeth Cymru yn diweddaru eu gwefan ‘Cadw’n Ddiogel Ar-lein’ yn rheolaidd ac y byddai’n cynnwys dolen i’r ddogfen o fewn eu datganiad polisi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwefan Bwrdd Diogelu Gwent hefyd yn rhoi cyngor ar ffurf syml ar fesurau rheoli rhieni yng nghyswllt dyfeisiau symudol a chyfrifiadur. Byddai’n cydlynu gyda’r Rheolwr Diogelu mewn Addysg i anfon y ddolen ar-lein i rieni.

 

Ategodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg sylwadau’r Cyfarwyddwr a dywedodd y datblygwyd protocol ar gyfer ffrydio addysgu ar-lein ac yn y blaen yn ystod pandemig COVID-19 i gefnogi rhieni a gellid trosglwyddo rhyw fath o gyfathrebiad gan ysgolion i rieni i’w cefnogi gyda’r mater hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

·         anfon dolen Llywodraeth Cymru ‘Cadw’n Ddiogel Ar-lein’ i rieni; ac

·         argymell fod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo’r polisi.

 

8.

Polisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol pdf icon PDF 493 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim a’r Rheolwr Diogelu mewn Addysg a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau  graffu ar Bolisi Diogelu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol yn dilyn ei adolygiad blynyddol.

 

Siaradodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg am yr adroddiad a thynnu sylw at y diweddariadau dilynol i’r polisi:-

 

·         Cyfeirio at Weithdrefnau Diogelu Cymru 2019, sy’n disodli cyfeiriad blaenorol at Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru 2008;

·         Cynnwys polisi diogelu Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn atodiad 3 y polisi;

·         Cynnwys y protocol casglu data diogelu; a

·         Chynnwys atodiad COVID-19 i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol a gadarnhau’r gweithdrefnau ar gyfer rhoi adroddiad am bryderon. Gellir diweddaru’r atodiad hwn yn rheolaidd wrth i’r sefyllfa argyfwng ddatblygu a newid.

 

Cododd Aelod bryderon am y pwysau ar fywyd cartref megis problemau ariannol, colledion swydd ac yn y blaen a’r newid mewn deinameg mewn cartrefi gyda llawer o rieni yn gweithio gartref. Holodd sut y gellid casglu adborth o’r sefyllfaoedd hyn gan y gallai hyn arwain at gynnydd yn y dyfodol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant sicrwydd yr ymatebir yn briodol i’r atgyfeiriadau hynny gyda phryderon am ddiogelu, h.y. amddiffyn plant, cam-drin neu esgeulustod, beth bynnag am bandemig COVID-19, ac ar gyfer y plant hynny oedd adref oherwydd diffyg darpariaeth ysgol, nid oedd dim wedi rhybuddio’r awdurdod leol am unrhyw bryderon diogelu.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at oblygiadau ehangach diogelu a sut y byddai straen y gweithle yn mynd i’r cartref teuluol yn effeithio ar fywydau plant yn gyffredinol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant y gwnaed cyllid ychwanegol drwy’r Gronfa Datblygu Plant ar gael ac mae wedi ei dargedu’n benodol at y plant hynny sydd wedi dioddef fel canlyniad i COVID-19, nail ai’n addysgol, yn emosiynol neu drwy lesiant holistig. Byddai’r Gyfarwyddiaeth yn edrych ar y carfannau hyn o blant mewn cysylltiad gyda Teuluoedd yn Cyntaf a Dechrau’n Deg. Byddai cyfle hefyd i edrych ar leoliadau statudol. Byddai’r cyllid ychwanegol yn helpu i ymchwilio pa gymorth arall fedrai fod ar gael ar gyfer y plant hynny a all fod wedi dioddef ar lefel is drwy beidio mynychu ysgol a thrwy’r ynysigrwydd cymdeithasol y gallant fod wedi eu brofi pan oedd yr ysgolion ar gau.

 

Cododd Aelod bryderon am gynnydd yng nghyfraddau COVID-19 ac amddiffyn staff ysgol. Mae rhai yn aros hyd at un wythnos ar gyfer canlyniadau, tra’u bod yn aros yn yr ysgol yn gofalu am ddisgyblion. Holodd os oedd ffordd i sicrhau fod staff ysgolion yn cael profion rheolaidd tebyg i staff mewn cartrefi gofal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol fod y gyfradd wedi gostwng i 83 fesul 100,000 yn yr wythnos ddiwethaf felly mae cynnydd wrth ostwng y gyfradd mewn cymunedau.  Yng nghyswllt porth y Deyrnas Unedig, efallai na all pobl gael mynediad i brofion yn lleol ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru i ganfod datrysiad. Mae labordy pellach yn ardal Casnewydd i alluogi cynnal 20,000 o brofion ychwanegol yn cael ei ddatblygu i ddod ar waith ym mis Tachwedd. Byddai angen i  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 598 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a gyflwynwyd i roi gwybodaeth a dadansoddiad perfformiad gan Gwasanaethau Cymdeithasol Plant o 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020.

 

Rhoddodd Rheolwr Strategol Gwella Addysg drosolwg i Aelodau am y rhesymau pam na fedrodd y Gyfarwyddiaeth Addysg roi gwybodaeth perfformiad i gael ei chynnwys yn yr adroddiad ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Cadeirydd y deallai’r angen i benaethiaid a staff ysgolion i ganolbwyntio ar yr heriau gweithredol o fewn ysgolion yn ystod y pandemig a derbyniodd y rhesymau pam nad oedd casgliad arferol data perfformiad ar gael ar hyn o bryd. Gofynnodd am i’r nodyn gwybodaeth gael ei gylchredeg i Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor gyda’r llwybr gweithredu hwn.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. Oherwydd y pandemig, esboniodd fod yr wybodaeth yn yr adroddiad perfformiad yn wybodaeth hanesyddol. Dywedwyd y bu cysondeb drwy gydol y pedwar chwarter yng nghyswllt atgyfeiriadau a rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth sicrwydd i Aelodau fod diogelu’n parhau’n flaenoriaeth i Gwasanaethau Plant a bod cyfrifoldebau diogelu yn parhau ar gyfer y plant hynny y barnwyd eu bod mewn risg.

 

Dywedodd Aelod y bu diogelu yn un o nifer o argymhellion gan Estyn pan fu Gwasanaethau Addysg Blaenau Gwent mewn mesurau arbennig a holodd pryd y tro diwethaf i Estyn adolygu diogelu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg, ers i’r Cyngor gael ei dynnu o fesurau arbennig, y cynhelir cyfarfodydd unwaith y tymor gyda’r Awdurdod Lleol ac Arolygwyr Cyswllt Estyn ac roedd diogelu’n ymddangos ar yr agenda yn gyfnodol lle hysbysid Arolygwyr Cyswllt am unrhyw ddatblygiadau tebyg i ddiweddariadau polisi. Yn ymweliad monitro diwethaf Estyn roeddent wedi cydnabod y gwnaed cynnydd da ar yr argymhelliad a gafodd ei roi ar waith ar weithdrefnau diogelu. Mae Estyn bellach yn rheoleiddio awdurdodau lleola r safbwynt addysg ehangach fel rhan o fframwaith Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol.

 

Yng nghyswllt fframwaith Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol, dywedodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg fod y Gyfarwyddiaeth wedi cwblhau eu hunanarfarniad gyda diogelu yn elfen allweddol dan agwedd arweinyddiaeth a rheolaeth y fframwaith. Holodd os yw Aelodau eisiau adroddiad yn y dyfodol yn nhermau’r detholiad o’r hunan-arfarniad i gael ei baratoi ar gyfer   cyfarfod yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef:

 

·         derbyn y nodyn gwybodaeth ar resymau pam na fedrodd y Gyfarwyddiaeth Addysg roi gwybodaeth perfformiad yn yr adroddiad hwn ar hyn o bryd; a

·         pharatoi adroddiad ar y detholiad ar ddiogelu o’r hunanarfarniad ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

10.

Adroddiad Diogelu Oedolion pdf icon PDF 482 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i roi gwybodaeth i’r Pwyllgor Craffu ar Berfformiad Diogelu yng nghyswllt Gwasanaethau Oedolion o 1 Ionawr 2020 i 31 Mawrth 202 am 4ydd chwarter y flwyddyn ariannol a hefyd wybodaeth am flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Chomisiynu am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Roedd sefyllfa debyg ar gyfer Gwasanaethau Plant. Yn hanesyddol mae’r tueddiadau’n parhau’n sefydlog ac mae’r Adran yn dal i weithio’n agos gyda phartneriaid allweddol. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau, gyda’r gwahanol ffyrdd o weithio y cedwir cyfathrebu gyda chartrefi gofal ac asiantaethau partner yn rheolaidd, gan weithio gyda darparwyr, cynnig cymorth ariannol o ran atgyfeiriadau a thrafodaethau am brofion. Mewn gofal yn y cartref, mae asiantaethau yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau wrth gefn, gan weithio drwy’r broses rheoli risg yng nghyswllt cynnydd yn yr ail don. Mae’r Adran yn parhau i gefnogi cartrefi gofal ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr iechyd a phartneriaid. Ar hyn o bryd mae gweithlu sefydlog sy’n parhau i gefnogi darparwyr mewn amgylchiadau heriol iawn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod Aelodau’n derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd.