Agenda and minutes

Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) - Dydd Llun, 27ain Medi, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr S. Thomas, K. Hayden, C. Meredith, D. Wilkshire a Mr. T. Baxter.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:-

 

Eitem Rhif 6 – Monitro’r Gyllideb Refeniw – 2021/2022, Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2022 (fel ar 30 Mehefin 2021)

 

Y Cynghorwyr B. Summers a M.Cook (Silent Valley Waste Services)

 

4.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 255 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r C0ydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021.

 

Dywedwyd y cafodd enw’r Cynghorydd W. Hodgins ei adael allan o’r rhestr presenoldeb ar dudalen gyntaf y cofnodion.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r Cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 26 Gorffennaf 2021 pdf icon PDF 188 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021, yn cynnwys:

 

Parc yr ?yl

 

Gofynnodd Aelod os y gallai Cytundeb Lefel Gwasanaeth y Cyngor gyda’r cwmni newydd effeithio o bosibl ar gyllideb y Cyngor yn nhermau cynnydd yn y ffi rheolaeth yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb, esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y trefniant prydles gyda’r perchnogion newydd yr un fath â’r trefniant blaenorol. Cafodd y ffi rheolaeth ei gynnwys yn y brydles hirdymor bresennol, sy’n diogelu’r ddau barti, ac ni fedrid ei negodi. Dywedodd y bu’r trafodaethau gyda’r cwmni newydd yn gadarnhaol a gobeithir y caiff y safle ei wella yn y dyfodol.

 

Diweddariad ar y Truck Shop, Tredegar

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gwnaed cais i CADW i wneud gwaith, a rhagwelir canlyniad cadarnhaol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’n paratoi nodyn gwybodaeth i Aelodau.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ofynnodd Aelod am i ymatebion swyddogion i faterion a godwyd gan Aelodau yn y Pwyllgor gael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Monitro’r Gyllideb Refeniw – 2021/2022. Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2022 (fel ar 30 Mehefin 2021) pdf icon PDF 858 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi rhagolwg y sefyllfa ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Roedd y rhagolwg alldro cyffredinol ym Mehefin 2021 yn amrywiad ffafriol o £2.494m ar ôl gweithredu Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r tabl yn 5.1.2 yr adroddiad yn rhoi sylw i’r amrywiadau ar draws pob portffolio ac yn dangos gwariant ychwanegol yng nghyswllt yr ymateb i bandemig Covid a’r adferiad. Mae’r rhagolwg yn cynnwys cyllid gwirioneddol ac amcangyfrif o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru o £1.354. Mae paragraffau 5.16 a 5.17 yn manylu’r trosglwyddiadau cyllideb a weithredwyd i ailalinio cyllidebau yn ystod y flwyddyn. Mae nifer o amrywiadau niweidiol ar draws pob portffolio, a rhoddir manylion y mwyaf sylweddol yn nhabl 2 yn adran 5.1.12.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog y cafodd cynlluniau gweithredu i drin pwysau cost eu cynnwys yn yr adroddiad yn Atodiad 3 a bod paragraff 5.1.14 i 5.1.39 yn rhoi naratif am y prif amrywiadau ar draws pob portffolio. Mae paragraff 5.1.41 yn rhoi crynodeb safle gyda ffioedd a chostau am y flwyddyn, ac mae Atodiad 2 yn rhoi dadansoddiad o incwm a dderbyniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol ar gyllidebau unigol.

 

Mae Tabl 3 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r sefyllfa a ddisgwylir ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor ac, yn seiliedig ar y sefyllfa ffafriol bresennol, rhagwelir y byddai hyn yn cynyddu i £10m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Dywedodd y Swyddog y byddai Aelodau yn cofio yng Nghydbwyllgor Craffu (Cyllideb)  fod y drafft sefyllfa alldro ar gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi yn £20.7m oedd yn cynnwys balansau ysgol. Mae elfennau sylweddol o’r cronfeydd a glustnodwyd yn ymwneud â chyllid grant a gedwir yng nghyswllt prosiectau neu wasanaethau penodol, a disgwylir y cânt eu defnyddio yn y deilliannau gwasanaeth perthnasol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol a’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Gofynnodd Aelod pa waith a wneir i liniaru’r amrywiad anffafriol sylweddol o fewn y portffolio Amgylchedd i ddod ag ef i sefyllfa gytbwys.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr amrywiad anffafriol oherwydd casglu ailgylchu, costau gwaredu â gwastraff a gwaredu ag ailgylchu.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y Cyngor wedi casglu mwy o wastraff gweddilliol yn ystod y 18 mis diwethaf gyda’r pandemig Covid gan olygu costau gwaredu uwch. Fodd bynnag, cadarnhaodd y cafodd y Gwasanaeth Warden, a gafodd ei ohirio yn ystod pandemig Covid ei ailgyflwyno erbyn hyn i sicrhau ein bod yn dychwelyd i lefelau gwastraff gweddilliol fel yr oeddent cyn y pandemig.

 

Dywedodd hefyd fod lefel yr ailgylchu a gasglwyd wedi cynyddu, yn neilltuol gardfwrdd, fodd bynnag bu gostyngiad sylweddol ym mhris y farchnad ar gyfer cardfwrdd oedd wedi golygu derbyn llai o incwm. Cadarnhaodd y cynhelir adolygiad o gontractau’r Cyngor ar gyfer gwaredu â deunyddiau ailgylchu, gan edrych ar gontractau tymor byrrach i alluogi’r Cyngor i ymateb i brisiau’r farchnad. Cadarnhaodd hefyd yr ymchwilir pob cyfle i gyllido’r galw cyfredol  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Pontio’r Bwlch 2021/2022 – Diweddariad Cynnydd Ebrill i Fehefin 2021 pdf icon PDF 535 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd yr Adolygiadau Busnes Strategol yn ystod cyfnod Ebrill i Fehefin 2021, a’r asesiad diweddaraf o’r cyflawniad ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Rhoddodd y tabl yn adran 2.1 fanylion y bylchau cyllideb a ddynodwyd ar gyfer 2022/23 i 2025/26 yn unol â Strategaeth Ariannol Tymor Canol y Cyngor. Mae Tabl 2 yn adran 2.4 yn amcangyfrif fod Pontio’r Bwlch wedi cyflawni £4.29m dros y 5 mlynedd.

 

Mae Tabl 3 yn adran 2.5 yr adroddiad yn rhoi manylion y bylchau sydd ar ôl yn y gyllideb yr ydym yn ei asesu ar hyn o bryd ar gyfer blynyddoedd y dyfodol. Rydym yn rhagweld cyllideb warged yn 2021/22 a bylchau cyllideb yn y blynyddoedd dilynol.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol y Cyngor yn parhau i ddynodi a datblygu cynigion Pontio’r Bwlch i gau’r bylchau cyllideb ym y dyfodol ac yn adolygu tybiaethau’r Cyngor yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Rhoddir adroddiad i Aelodau yn nes ymlaen yn y flwyddyn am unrhyw newidiadau i’r tybiaethau hynny ynghyd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Daeth y Swyddog i ben drwy ddweud fod adran 5 yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar yr all-dro darpariaethol ar gyfer 2021/22 ac y rhagwelir y bydd y cyfanswm cyflawniad yn uwch na’r amcangyfrif gwreiddiol o £0.75k erbyn £0.1m ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd y Swyddog yng nghyswllt ffioedd a chostau am y blynyddoedd ariannol hynny ein bod wedi amcangyfrif derbyn tua £40k o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru. Ychydig iawn a ddyrannwyd o’r Gronfa Caledi i gynigion Pontio’r Bwlch am eleni.

 

Cyfeiriodd Aelod at dabl 4 yn adran 5.3, sef asedau ac eiddo a gofynnodd os yw hyn yn unol â’r polisi gwaredu eiddo, a hefyd os y gellid cyflawni hyn o gofio am yr adnoddau cyfyngedig o fewn yr Adran Gyfreithiol.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai unrhyw warediad asedau yn arwain at dderbyniadau cyfalaf ac y dylid ei gynnwys o fewn adroddiad Cyllideb Cyfalaf. O ran adnoddau, dywedodd na ddylai  hyn gael effaith sylweddol a rhagwelid amcangyfrif o £127k.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y cyflwynir adroddiad perfformiad Silent Valley i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol.

 

Mynegodd Aelod gonsyrn am waredu asedau y Cyngor a olygai fod y gwasanaethau yn gweithredu o eiddo ar rent. Teimlai y byddai’r Cyngor yn dibynnu gormod ar eiddo ar rent yn y dyfodol a’r risgiau sy’n gysylltiedig gyda chynnydd mewn costau ac ati. Gofynnodd am wybodaeth ar y costau sy’n gysylltiedig gyda Llys Einion a’r canran o eiddo sydd ar brydles gan y Cyngor.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y brydles ar Lys Einion tan 2025 ac y byddid yn ystyried opsiynau ar gyfer negodiadau dros y ddwy flynedd nesaf. Deallai sylwadau’r Aelod ond rhoddodd sicrwydd fod Swyddogion yn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Monitro Cyllideb Cyfalaf, Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2021/2022 (fel ar 30 Mehefin 2021) pdf icon PDF 512 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob Portffolio o gymharu â’r cyllid a gymeradwywyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, fel ar 30 Mehefin 2021. Mae’r sefyllfa ariannol gyffredinol yn dangos amrywiad anffafriol o ychydig dros £287,017k o gymharu â chyfanswm cyllideb gyfalaf yn y flwyddyn o £15.3m.

 

Mae’r adroddiad yn dynodi gorwariant sylweddol ar ddau brosiect a adroddwyd yn flaenorol, sef HWRC (£42,725) yn gysylltiedig â chynnydd mewn costau oherwydd pandemig Covid a sicrhau fod y safle yn barod ar gyfer y dyfodol, a pharc busnes Rhodfa Calch (£234,710k) oherwydd y golled a hawliau traul am eitemau am faterion nas rhagwelwyd a achoswyd gan bandemig Covid. Cadarnhaodd y Swyddog bod y Cyngor mewn trafodaethau ar hyn o bryd gyda’r cyrff cyllido ar gyfer y ddau gynllun ac er fod trafodaethau yn gadarnhaol, nid yw’r canlyniad terfynol yn hysbys ar hyn o bryd. Fodd bynnag, pe na fyddai cyllid ychwanegol ar gael, byddai’n rhaid adeiladu’r cynlluniau i’r gronfa cyfalaf wrth gefn os na fedrid dynodi cyllid arall.

 

Cododd Aelodau gwestiynau ar y cyllidebau dilynol:

 

328340 LTF Metro Plus £220k

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y tynnwyd yr arian hwn i lawr i wneud gwaith ar orsaf reilffordd Abertyleri ac roedd yn gysylltiedig â chostau caffael tir ac ymgynghoriaeth.

 

Gofynnodd yr Aelod os gwnaed y costau am gaffael tir i’r adroddiad a dderbyniwyd gan Aelodau ar y benthyciad ar gyfer rheilffordd Cwm Ebwy.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu gwaith yn mynd rhagddo am nifer o flynyddoedd ar y bwriad i gaffael tir ar gyfer y rheilffordd. Deallai y cafodd caffael tir ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond dywedodd y byddai’n gwirio i weld os yw hyn yn gywir.

 

Gofynnodd yr Aelod am eglurhad y cafodd y penderfyniad i gaffael tir ei gymryd dan gwerau dirprwyedig ac nad oedd yn rhan o gytundeb y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na roddwyd adroddiad i’r Cyngor ar gaffael tir, a gofynnodd yr Aelod am anfon manylion y caffaeliad tir i bob Aelod.

 

Holodd Aelod am y ffigurau ar gyfer y gyllideb ac mae’n debygol y derbyniwyd incwm o £186,209 sydd wedi cynyddu’r gyllideb i £406,209 a rydym yn rhagweld y byddent yn gwario £220k yn y flwyddyn. Dywedodd y Swyddog y byddai’n rhoi manylion i Aelodau.

 

Wedyn gofynnodd yr Aelod am ddadansoddiad o’r gwariant ar y cyllidebau dilynol:

·         332368 Cynlluniau Ardal Chwarae ar draws y Fwrdeistref

·         327061 Trosglwyddiad Asedau Cymunedol

·         327103 Dadgomisiynu’r Ganolfan Ddinesig

·         327140 Hyb Democrataidd (Swyddfeydd Cyffredinol)

 

 327090 CCTV Tipio Anghyfreithlon

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth y sicrhawyd £14k o gyllid grant drwy Cadw Cymru’n Daclus ar gyfer prynu offer i’w ddefnyddio fel rhan o’r Gwasanaeth Gorfodaeth ar y Cyd newydd ac y byddai Aelodau’n gweld ymagwedd fwy rhagweithiol at dipio anghyfreithlon yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a:

 

·         Rhoi her briodol i’r deilliannau ariannol yn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.