Agenda and minutes

Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) - Dydd Llun, 15fed Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Cynghorydd S. Healy

Cynghorydd M. Cross

Cynghorydd T. Sharrem

Cynghorydd G. Collier

Cynghorydd G. Paulsen

Mr. T. Baxter (Aelod Cyfetholedig)

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Codwyd y datganiadau buddiant a goddefebau dilynol:-

 

Cynghorydd B. Summers – Eitem 6 – Monitro Cyllideb Refeniw Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2021 (fel ar 31 Rhagfyr 2020) (Silent Valley)

 

Cynghorydd M. Cook  - Eitem 6 – Monitro Cyllideb Refeniw Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2021 (fel ar 31 Rhagfyr 2020) (Silent Valley)

 

Cynghorydd P. Edwards - Eitem 6 – Monitro Cyllideb Refeniw Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2021 (fel ar 31 Rhagfyr 2020) (Silent Valley)

 

Cynghorydd J.C. Morgan - Eitem 6 – Monitro Cyllideb Refeniw Rhagolwg Alldro am Flwyddyn Ariannol 2020/21 (fel ar 31 Rhagfyr 2020) (THi Tredegar)

 

4.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 322 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2021.

 

(Dylid sylw y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 23 Chwefror 2021 pdf icon PDF 91 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2021.

 

Adolygiad o’r Unedau Diwydiannol

 

Cododd Aelod bryderon am y diffyg parhaus a adroddwyd ar gyfer y maes hwn a bod yr un materion yn cael eu codi o hyd. Nododd yr Aelod fod bob amser adolygiad ‘arfaethedig’ i edrych ar brydlesau ac annog defnydd. Credai’r Aelod y dylai’r Awdurdod feithrin perthynas gyda defnyddwyr i sicrhau fod unedau lan i’r safon ac yn barod i gael eu prydlesu. Byddai hefyd yn fanteisiol pe byddai’r stadau diwydiannol yn ddeniadol i ddarpar gwsmeriaid.

 

Dywedodd Aelodau bod angen buddsoddiad i sicrhau bod unedau diwydiannol yr Awdurdod yn addas i’r diben er mwyn creu a chynnal cyflogaeth ym Mlaenau Gwent.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod gan yr Awdurdod gyfraddau defnydd uchel ar gyfer unedau diwydiannol. Roedd y Pwyllgor Craffu Adfywio hefyd wedi ystyried rhaglen o waith oedd wedi canolbwyntio i ddechrau ar Stad Ddiwydiannol Roseheyworth oedd yn golygu nad oedd unedau yn cael eu defnyddio oherwydd eu cyflwr gwael, fodd bynnag mae’r unedau hyn yn llawn. Felly, teimlai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gwaith buddsoddi yn dangos buddion lle cafodd ei wneud.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr Awdurdod wedi edrych ar ar ôl busnesau presennol ym Mlaenau Gwent yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod hynny’n iawn a phriodol yn ystod cyfnod ansicr y pandemig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymhellach y cafodd swydd wag ei llenwi o fewn y Tîm ar gyfer swyddog i ddelio gydag unedau. Mae 180 uned ar draws Blaenau Gwent ac mae’r tîm yn gweithio eu ffordd drwy’r unedau hyn wrth iddynt ddod yn wag neu gyda phrydleswyr presennol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol mai dim ond un adolygiad a fu ac y datblygwyd cynllun gweithredu. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol gyda rhwystredigaeth y bu cynnydd yn araf yn y flwyddyn ddiwethaf, fodd bynnag nifer fach o unedau sy’n wag ac mae defnydd uchel ar unedau. Mae’n bwysig fod unedau diwydiannol Blaenau Gwent yn parhau i dderbyn buddsoddiad er mwyn denu tenantiaid ac y caiff yr holl amcanion hyn eu cynnwys yn y cynllun gweithredu.

 

Y Gronfa Llyfrau

 

Ailadroddodd Aelod y cwestiwn a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cydbwyllgor Craffu yng nghyswllt y gwariant o £50,000 ar lyfrau yn 2019/20 a gynyddodd eleni. Mae tua £82,000 wedi ei neilltuo ar gyfer y gronfa llyfrau a gofynnodd yr Aelod lle cafodd gweddill yr arian ei wario.

 

Nododd yr Aelod y caiff adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu cyn rhoi’r nodyn gwybodaeth; fodd bynnag teimlai’r Aelod y dylid hefyd gyflwyno’r adroddiad i’r Cydbwyllgor Craffu er gwybodaeth yn dilyn y cais a wnaed.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu yng nghyswllt Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Byddir yn awr yn llunio nodyn gwybodaeth ar gyfer Aelodau’r Cydbwyllgor Craffu sy’n rhoi manylion y gwariant hanesyddol a’r cynigion ar gyfer y dyfodol.

 

Ymunodd y Cynghorydd W. Hodgins â’r cyfarfod ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Monitro’r Gyllideb Refeniw – 2020/2021, Rhagolwg All-dro hyd 31 Mawrth 2021 (fel ar 31 Rhagfyr 2020) pdf icon PDF 583 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn amlinellu rhagolwg sefyllfa ariannol hyd ddiwedd mis Mawrth 2021 ar draws pob portffolio, rhagolwg all-dro ar gyfer ffioedd a chostau a chynnydd ar brosiectau Pontio’r Bwlch ar gyfer 2020/2021.

 

Nododd y Prif Swyddog Adnoddau fod y rhagolwg all-dro cyffredinol fel ym mis Rhagfyr 2020 yn amrywiad anffafriol o £4.719m. Fodd bynnag, yn dilyn derbyn cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru mae’r rhagolwg yn amrywiad ffafriol o £0.552m sy’n sefyllfa llawer gwell o gymharu gyda’r rhagolwg ym mis Medi 2020 sy’n adrodd amrywiad anffafriol o £0.248m ar ôl y cyllid caledi.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau ymhellach am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg manwl o ragolwg y sefyllfa ariannol gyffredinol ar draws pob portffolio fel ar 31 Rhagfyr 2020 ac amlinellodd y prif amrywiadau anffafriol. Nododd y Prif Swyddog y rhoddir manylion cynlluniau gweithredu i fynd i’ afael â’r pwysau cost yn Atodiad 4.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau/sylwadau gan y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd Aelod at orwariant mewn rhai meysydd cyllideb. Teimlai nad oedd hynny yn ddim bai ar yr adran neu staff ond yn ymwneud â’r penderfyniadau a wneir gan Aelodau. Nododd yr Aelod sefyllfa’r Portffolio Amgylchedd sydd mewn diffyg heb fawr neu ddim ymgais yn cael ei wneud i drin y pwysau cyllideb. Ymddangosai nad oedd unrhyw ymdrech i wrthbwyso’r pwysau cost hyn a chredai’r Awdurdod fod gan yr Awdurdod ddyletswydd gofal i sicrhau y caiff cyllidebau eu cadw mewn sefyllfa ffafriol yng ngoleuni’r arian caledi a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru. Teimlai’r Aelod y dylai’r Aelod Gweithredol sy’n gyfrifol am bortffolio’r Amgylchedd a’r portffolio Adfywio gael y dasg o ystyried y pwysau cost parhaus hyn.

 

Nododd yr Aelod ymhellach yr amrywiad ffafriol a adroddir am yr ail HWRC yn Roseheyworth. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr amrywiad ffafriol oherwydd yr oedi mewn agor yn ogystal ag incwm a ragwelir ar gyfer gwastraff bag du a gaiff ei ddargyfeirio.

 

Dywedodd yr Aelod nad oedd yn teimlo fod Awdurdod o’r maint hwn angen ail HWRC a bu’n feirniadol o’r penderfyniad. Credai’r Aelod fod Aelodau yn disgwyl gormod a theimlai bod yr adroddiad yn dangos faint o waith sydd ei angen i gael cyllideb gytbwys. Nododd yr Aelod fod rhai materion yn dymhorol, fodd bynnag mae hefyd lawr i wneud penderfyniadau yn y meysydd hyn a dylai’r Aelod Gweithredol cyfrifol edrych sut y gellid cyflawni gostyngiadau er mwyn gostwng y pwysau cost hyn.

 

Nododd y Cadeirydd y bu’r penderfyniad am ail safle HWRC yn Roseheyworth wedi bod yn benderfyniad gan y Cyngor a nododd y Cadeirydd ei fod yn croesawu’r penderfyniad gan fod angen ail HWRC.

 

Nododd Aelod arall y sylwadau a wnaed yng nghyswllt gorwariant mewn portffolios a gofynnodd os yw’r swm perthnasol o arian yn cael ei ddyrannu i gyllidebau i atal gorwariant.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod peth o wariant y portffolio yn cael ei arwain gan alw, felly mae’n anodd alinio’r gyllideb.  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Monitro’r Gyllideb Cyfalaf. Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/2021 (fel ar 31 Rhagfyr 2020) pdf icon PDF 431 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n nodi’r rhagolwg o’r sefyllfa ariannol hyd 31 Mawrth 2021 ar draws pob portffolio ac yn rhoi manylion yr amrywiadau anffafriol a ffafriol sylweddol a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn cododd Aelodau gwestiynau sylwadau yng nghyswllt yr adroddiad a gyflwynwyd.

 

Gofynnodd Aelod os oedd y costau a gafwyd ar gyfer y safle HWRC newydd yn Roseheyworth yn gysylltiedig â Covid-19.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y costau oherwydd costau uwch y contractwr oedd yn gysylltiedig â mesurau a gafodd eu rhoi ar waith oherwydd Covid-19 i sicrhau fod gwaith yn parhau yn ystod y pandemig.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y cafodd y costau hyn eu hadlewyrchu mewn contractau ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig. Mae’r costau yn ymwneud â’r gweithlu yn gorfod gweithredu pellter cymdeithasol a bu cynnydd mewn cost deunyddiau crai ac oedi wrth gyrchu deunyddiau y tu allan i’r Deyrnas Unedig.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod trafodaethau’n mynd rhagddynt i sicrhau y cedwir y cynnydd mewn costau mor isel ag sydd modd.

 

Gofynnodd Aelod os yw costau Trawsnewid Gweithle yn cynnwys symud Gwasanaethau Democrataidd i’r Swyddfa Gyffredinol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr arian hwn am waith blaenorol yn gysylltiedig â’r rhaglen trawsnewid. Byddai cyllidebau 2021/2022 yn cynnwys costau ar gyfer yr Hybiau Democrataidd a Chymunedol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am Drac Profi Glynebwy, cadarnhawyd fod y costau a nodir yn yr adroddiad craffu yn ymwneud â ffioedd ymgynghori yn cyfeirio at gostau ar gyfer 2018/19 a 2019/20. Roedd y £50,000 ar gyfer 2020/201 a adroddwyd yn yr adroddiad cyfalaf yn ychwanegol.

 

Teimlai’r Aelod y dylai adroddiad gael ei gyflwyno i gyfarfod perthnasol o’r Pwyllgor Craffu.

 

CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn yr adroddiad ac

 

  (a)        y rhoddwyd her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;

  (b)        y rhoddwyd cefnogaeth barhaus i’r gweithdrefnau rheoli ariannol priodol fel y cytunwyd gan y Cyngor; a

  (c)        nodi’r gweithdrefnau rheoli’r gyllideb a monitro sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu’r Awdurdod.

 

8.

Defnyddio Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol ac wedi’u Clustnodi 2020/2021 pdf icon PDF 597 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi’r rhagolwg o sefyllfa cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2020/2021 yn Chwarter 3 a nododd y gofynion statudol yn ymwneud â chronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol fel y’u manylir yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at Adran 6 yr adroddiad sy’n rhoi manylion y crynodeb cyffredinol o’r rhagolwg o’r sefyllfa ariannol yng nghyswllt y balansau mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi ar 31 Mawrth 2021. Fe wnaeth y Prif Swyddog amlinellu Tabl 1 sy’n dangos y sefyllfa rhagolwg uwch ar gyfer y gronfa wrth gefn gyffredinol ar ddiwedd blwyddyn 2020/2021. Mae’r balans yn cynrychioli 5.28% o wariant refeniw net sy’n uwch na lefel targed 4% o £5.414m. Mae hyn yn dangos cynnydd pellach tuag at gryfhau cadernid ariannol y Cyngor ac yn rhoi clustog i ddelio gyda phroblemau annisgwyl yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y rhagolwg cynnydd mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn ganlyniad nifer o ffactorau oedd yn cynnwys rhagolwg tanwariant portffolio net o £0.552m a chyfraniad cyllideb a gytunwyd yn 2020/21 o £0.200m. Mae hyn yn cefnogi cynllunio ariannol tymor canol ac yn cryfhau cadernid ariannol y Cyngor. Nododd y Prif Swyddog Adnoddau hefyd y lefel a ragwelir o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi fel ar 31 Mawrth 2021 y disgwylid fyddai’n £9.189m, sydd yn gynnydd diwedd blwyddyn o £0.917m a nododd y Prif Swyddog y rhoddir manylion pellach symudiadau mewn cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi yn Atodiad 1.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y caiff lefel a digonolrwydd cronfeydd wrth gefn eu hadolygu a’u monitro’n gyson drwy adroddiadau all-dro/rhagolwg rheolaidd. Fodd bynnag, o gymharu gydag awdurdodau eraill yng Nghymru, mae Blaenau Gwent yn dal i fod ag un o’r lefelau isaf o gronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi. Er mwyn cyrraedd cyfartaledd Cymru, byddai angen i gronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi gynyddu’n sylweddol ;i tua £26.4m.

 

Nododd  Prif Swyddog y byddai methiant  i gynyddu cronfeydd wrth gefn yn cael ei feirniadu gan reoleiddwyr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am lefel y cronfeydd wrth gefn, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y bwriadwyd rhoi £1m o arian mewn cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi ar gyfer y flwyddyn nesaf fel rhan o broses gosod y gyllideb, fodd bynnag mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion sefyllfa 2020/2021.

 

Cododd Aelod arall bryderon am lefel yr arian y cytunwyd ei ddodi mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac anghytunai’n gryf gyda’r llwybr gweithredu hwn tra bod preswylwyr Blaenau Gwent wedi dioddef llawer iawn o galedi yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod ymhellach at y gorwariant mewn rhai portffolios a gofynnodd os y byddid yn tynnu arian o gronfeydd wrth gefn i sicrhau fod y cyllidebau hyn yn gytbwys.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na fyddid yn tynnu unrhyw arian o gronfeydd wrth gefn gan fod rhagolwg y Cyngor mewn sefyllfa ffafriol,  ...  view the full Cofnodion text for item 8.