Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7788
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan: -
Cynghorwyr M. Cross, J.C. Morgan, S. Thomas, T. Smith, M. Cook
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cyllideb Refeniw 2020/2021 i 2024/2025 PDF 899 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar setliad llywodraeth leol darpariaethol cadarnhaol ar gyfer 2020/21 ac effaith hynny ar gyllideb y Cyngor. Cynigiodd yr adroddiad hefyd gyllideb fanwl ar gyfer 2020/21 a chyllideb ddangosol ar gyfer 2021/22; a chynigiodd lefel cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, yn unol â thybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod y setliad darpariaethol cadarnhaol a’r cyfleoedd a ddynodwyd yn rhaglen Pontio’r Bwlch yn golygu y gallai’r Cyngor fuddsoddi mewn blaenoriaethau allweddol, osgoi toriadau i wasanaethau a chynyddu ei gadernid ariannol ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, cyhoeddir manylion pellach y grantiau penodol ar gyfer llywodraeth leol ynghyd â setliad terfynol y Grant Cefnogi Refeniw ym mis Chwefror 2020.
Canmolodd Aelod y Swyddogion ar yr adroddiad cadarnhaol. Dywedodd fod hyn yn rhan bwysig iawn o’r broses gosod cyllideb a mynegodd bryder nad oedd unrhyw aelodau Llafur yn bresennol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y pwysau cost ar gyfer adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol er y cytunwyd ar strategaeth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol, fod gwahanol gamau eraill i gael eu cymryd a bod y rhain yn debygol o barhau am 2 flynedd arall.
Dywedodd Aelod Cyfetholedig fod y setliad cadarnhaol i Flaenau Gwent yn newyddion da iawn, yn arbennig y cynnydd mewn cyllid addysg a’r ffaith fod nifer disgyblion cynradd wedi cynyddu. Credai fod yr adroddiad yn ymddangos i awgrymu fod Blaenau Gwent yn sicrhau adferiad o’i ddirywiad economaidd.
Fodd bynnag, er bod y cynnydd yn y boblogaeth disgyblion yn gadarnhaol, gobeithiai y caiff hyn ei gefnogi’n ariannol. Cyfeiriodd hefyd at y diffyg yng nghyflogau a phensiynau athrawon a’r effaith bosibl ar gyllidebau ysgolion unigol. Dywedodd y byddai’n fanteisiol cael rhestr o ysgolion yn dangos y rhai sydd mewn sefyllfa gwarged/diffyg er mwyn ei chraffu gan Aelodau.
Wedyn cyfeiriodd yr Aelod Cyfetholedig at gymhlethdod cyllid ysgolion a dywedodd ei bod yn anodd cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod a gosod cyllidebau manwl gywir gyda nifer o grantiau’n cael eu dosbarthu drwy gydol y flwyddyn.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y nodir y sylwadau yng nghyswllt cyflogau a phensiynau athrawon. Fodd bynnag, os yw Aelodau o’r Cyngor yn cytuno i gyllido’r pwysau cost ar gyfer cyflogau a phensiynau athrawon am y 5 mis gweddilliol, byddai hyn yn arwain at gynnydd o tua 5% yng nghyllidebau ysgolion unigol.
Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg hefyd gadarnhau fod yr awdurdod lleol ac EAS wedi codi mater y ffaith na fedrir rhagweld faint o gyllid grant a ddyrennir gyda Llywodraeth Cymru.
Dilynodd trafodaeth fer parthed rhaglen Pontio’r Bwlch pan gadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod dal ati gyda’r ffrydiau gwaith yn gymhelliant clir i’r Tîm Rheoli Corfforaethol. Fodd bynnag, byddai’n gall defnyddio unrhyw gyflwyniad yn fwy na’r gofyniad cyllideb mewn ffordd tebycach i fusnes, yn hytrach na gorfod gwneud toriadau, ac er ei bod ... view the full Cofnodion text for item 5. |