Agenda and minutes

Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) - Dydd Llun, 18fed Tachwedd, 2019 12.00 pm

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

YMDDIHEURIADAU

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan: -

 

Cynghorwyr G.A. Davies, W. Hodgins, H. McCarthy, J. Millard, K. Rowson, T. Sharrem, B. Summers, H. Trollope, J. Wilkins, D. Wilkshire, B. Willis, L. Winnett

 

Aelodau Cyfethol

Mr. T. Baxter

Mr. A. Williams

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr J. C. Morgan a P. Edwards fuddiant yn yr eitem ddilynol:-

 

Eitem 8 – Monitro'r Gyllideb Gyfalaf mis Ebrill hyd fis Medi Blwyddyn Ariannol 2019/20

 

 

4.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 269 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Cydbwyllgor Craffu (Monitro'r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019.

 

(Dylid nodi fod y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o'r Cydbwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd M. Moore iddi gyflwyno ei hymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod a dywedodd y Cynghorydd J. C. Morgan iddo adael y cyfarfod ar ddiwedd y drafodaeth ar eitem rhif 10.

 

Cytunodd y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 310 KB

Derbyn y ddalen weithredu..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd dalen weithredu'r Pwyllgor Craffu (Monitro'r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019, yn cynnwys:-

 

Gorfodaeth Parcio Sifil

 

Dywedodd y Cadeirydd y trefnwyd Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar gyfer 22 Tachwedd 2019. Gofynnodd hefyd am ychwanegu  Ysgol Gynradd Sant Illtud ac Ysgol Gynradd Swffryd at y rhestr o feysydd blaenoriaeth ar gyfer gorfodaeth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.

 

6.

Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 213 KB

Derbyn Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer ystyriaeth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi'r Ddalen Weithredu.

 

7.

Monitro'r Gyllideb Refeniw -2019/2020, Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2020 (fel ym mis Medi 2019) pdf icon PDF 627 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau sy'n rhoi rhagolwg y sefyllfa all-dro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 (fel ar 30 Medi 2019) ac i adolygu'r camau gweithredu a gymerwyd i symud tuag at sefyllfa all-dro cytbwys.

 

Dywedodd y Swyddog fod hwn yn adroddiad cadarnhaol a bod y rhagolwg o'r sefyllfa ariannol gyffredinol ar draws pob portffolio fel ar 31 Mawrth 2020 yn dangos amrywiad anffafriol cymharol fach o £7,200 o gymharu â chyfanswm cyllideb refeniw net o £147m. Roedd hyn yn welliant ar y rhagolwg sefyllfa a adroddwyd yn chwarter 1. Wedyn siaradodd am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo. 

 

Amgylchedd - amrywiad anffafriol £259k

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 4 sy'n amlinellu'r camau i gael eu cymryd i fynd i'r afael â'r amrywiad anffafriol, yn neilltuol ostwng dwfn-lanhau canol trefi a chwistrellu chwyn. Dywedodd fod y weinyddiaeth bresennol, yn y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019, wedi rhoi ymrwymiad i roi blaenoriaeth i lanhau strydoedd dros y 5 mlynedd nesaf a gofynnodd Aelod os bwriedir symud ymaith o'r flaenoriaeth honno.

 

Cyfeiriodd hefyd at ddatblygu ail HWRC yn Roseheyworth a'r costau refeniw cysylltiedig. O gofio am yr amrywiad anffafriol o fewn Portffolio'r Amgylchedd, gofynnodd os yw'n ariannol hyfyw i'r Cyngor ac os yw'r HWRC wedi disodli blaenoriaeth yr Arweinyddiaeth ar gyfer glanhau strydoedd. Mynegodd bryder fod yr amrywiad anffafriol o fewn y portffolio ar ôl trosglwyddo arian i'r portffolio, a chyn i'r HWRC ddod yn weithredol.

 

Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio fod glanhau strydoedd yn parhau'n flaenoriaeth i'r Cyngor ond bod angen y camau gweithredu hyn i gael cyllideb gytbwys. Un o'r heriau allweddol oedd y cynnydd mewn didoli bagiau du ond mae ailgylchu'n parhau i wella a gobeithir y byddai'n hybu gostyngiad mewn costau er mwyn cael cyllideb gytbwys, ac wedyn ein galluogi i barhau â'r gweithgareddau y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w cyflawni.

 

Gofynnodd Aelod arall os medrid cynnal rhai o'r gweithgareddau glanhau stryd 'yn fewnol' er mwyn gostwng costau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod rhai o'r camau gweithredu a amlinellwyd yn yr adroddiad yn rhai tymor byr ac y byddai cyfle i adolygu ac ystyried cyfleoedd eraill wrth i'r gyllideb fynd rhagddi.

 

Dywedodd Aelod nad oedd dim yn yr adroddiad i awgrymu bod blaenoriaethau'r Cyngor wedi newid yn wleidyddol. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r angen ar gyfer 'torri'n ôl' er mwyn cael cyllideb gytbwys a gall fod angen hyn ar draws pob portffolio.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Yng nghyswllt cynhyrchu incwm, gofynnodd Aelod os oes unrhyw gynigion i ehangu'r cyfleusterau sydd ar gael yn Nh? Augusta.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol y cynhaliwyd astudiaeth dichonolrwydd ac y sicrhawyd cyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyfleusterau ychwanegol ar gyfer ardal Gwent yn ehangach.

 

Safle Carafanau Cwmcrachen

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am broblemau cyflenwad trydan yn y safle, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio fod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda'r cwmni ynni am osod mesuryddion unigol yn y safle.

 

Gofynnodd Aelod os y gallai'r Awdurdod roi  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf, mis Ebrill i fis Medi, Blwyddyn Ariannol 2019/20 pdf icon PDF 514 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr J. C. Morgan a P. Edwards fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy'n rhoi trosolwg o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob Portffolio o gymharu â chyllid a gymeradwywyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/2020.

 

Dywedodd y Swyddog fod hwn yn adroddiad cadarnhaol arall, gyda'r sefyllfa ariannol gyffredinol ar 30 Medi 2019 yn dangos amrywiad nil o gymharu â chyfanswm cyllideb gyfalaf o £19.16m. Rhagwelid y byddai'r holl wariant cyfalaf o fewn y flwyddyn yn cael ei ariannu'n llawn.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi a gofynnodd os oedd y trefniadau agor arfaethedig wedi eu cynnwys yn y cais am gyllid a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio cyn belled ag y gwyddai ef nad oedd unrhyw ofyniad am fanylion o fewn y cynnig yng nghyswllt trefniadau agor.

 

Adeiladu Ysgol Cyfrwng Cymraeg Newydd Band B

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod pob llwybr o gyllid refeniw yn cael eu hymchwilio ar hyn o bryd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Cydbwyllgor Monitro'r Gyllideb:

 

·       Wedi rhoi her briodol i'r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;

·       Yn parhau i gefnogi gweithdrefnau rheolaeth ariannol a gytunwyd gan y Cyngor;

·       Yn nodi'r gweithdrefnau rheoli a monitro'r gyllideb sydd yn eu lle i ddiogelu cyllid yr Awdurdod;

·       Yn ystyried y cynigion cyllid yng nghyswllt prosiectau Rhaglen Gwella Unedau Diwydiannol a'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC) ac argymell hynny i'r Pwyllgor Gweithredol.

 

9.

Defnyddio Cronfeydd wrth gefn Cyffredinol ac wedi'u Clustnodi 2019/2020 pdf icon PDF 556 KB

Ystyried adroddiad Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy'n rhoi rhagolwg sefyllfa cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019/2020 fel yn Chwarter 2 (30 Medi 2019). Mae'r rhagolwg o falans y gronfa gyffredinol wrth gefn ar 31 Mawrth 2020 o £6.136m yn 4.58% o'r gwariant refeniw net a adroddwyd yn ffurflenni All-dro Refeniw 2018/19. Byddai'r gronfa gyffredinol wrth gefn felly yn £0.775m sy'n uwch na'r lefel targed 4% o £5.361m.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Cydbwyllgor Craffu'r Gyllideb yn:

 

·       Nodi'r rhagolwg cynnydd a fwriedir i'r Gronfa Gyffredinol wrth Gefn i 4.58% (uwch na'r lefel targed 4%) ar gyfer 2019/2020 a blynyddoedd y dyfodol gan gryfhau gwytnwch ariannol y Cyngor;

·       Ystyried yr effaith a gaiff y rhagolwg o'r amrywiad anffafriol o £0.007m ar gyfer 2019/20 ar y targed Cronfa Gyffredinol wrth Gefn; a

·       Pharhau i herio gorwariant y gyllideb a gweithredu cynlluniau gweithredu gwasanaeth priodol, lle mae angen.