Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7788
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb ar gyfer y Cynghorydd P. Baldwin.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cyllideb Refeniw 2022/2023 PDF 855 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar setliad darpariaethol cadarnhaol i lywodraeth leol ar gyfer 2022/23 ac effaith hynny ar gyllideb y Cyngor, a gofynnodd am gytundeb ar y gyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2022/23 a lefel cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023.
Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo. Y prif gynnydd ar gyfer CBSBG ar ôl caniatáu am drosglwyddiadau oedd 8.4% (£10.4m), o gymharu â chynnydd Cymru gyfan o 9.4%. Mae hyn yn setliad cadarnhaol ac o’i gyfuno gyda’r cyfleoedd a ddynodwyd yn rhaglen Pontio’r Bwlch yn golygu os caiff yr argymhellion yn yr adroddiad eu cytuno y gallai’r Cyngor gytuno ar gyllideb ar gyfer 2022/23.
Cyfeiriodd Aelod at y dull dysgu cyfunol a gyflwynwyd mewn ysgolion mewn ymateb i bandemig Covid a gofynnodd os yw’r Cyngor yn bwriadu parhau i hunan-gefnogi’r drwydded ac offer TGCh ar gyfer y teuluoedd hynny sydd angen cymorth.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y dynodwyd pwysau cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 yn ymwneud â datblygiadau TGCh mewn ysgolion, a byddai hyn yn elfen i Aelodau ei hystyried yng nghyfarfod llawn y Cyngor ar 17 Chwefror 2022.
Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 2, yn neilltuol y pwysau cost o fewn portffolio’r Amgylchedd a gofynnodd os y byddai hyn yn gostwng pe cytunid ar basbortio ffioedd clwydi gwastraff.
Esboniodd y Prif Swyddog fod y pwysau cost o fewn portffolio’r Amgylchedd yn eithrio unrhyw bwysau cost yng nghyswllt ffioedd clwydi gwastraff. Byddai’r pwysau cost o fewn y portffolio yn cynyddu pe na chytunid ar drosglwyddo’r grant ffioedd clwyd gwastraff.
Wedyn cynigiodd Aelod y gwelliant dilynol i Opsiwn 1:
Oherwydd y prif ymgodiad o 8.4%, bod Aelodau yn derbyn Adrannau 3.1.1. i 3.1.6 o Opsiwn 1, ac y dylid GOHIRIO penderfyniad ar Adrannau 3.1.7 a 3.1.8 (trosglwyddo unrhyw gyllideb dros ben i’r Gronfa wrth Gefn Gwytnwch Ariannol ac argymhellion am y cynnydd yn y Dreth Gyngor) i ddisgwyl ystyriaeth bellach yn y cyfarfod arbennig o’r Cyngor ar 17 Chwefror 2022.
Eiliwyd y cynnig ac yn dilyn trafodaeth fer cafodd y gwelliant ei gario.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i argymell derbyn yr adroddiad a chefnogi Opsiwn 1 wedi’i ddiwygio fel sy’n dilyn:
· Bod Aelodau’n argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor gyllideb refeniw 2022/23 fel y’i dangosir yn nhabl 2 ym mharagraff 5.1.13.
· Bod Aelodau’n nodi’r deilliannau o fewn Setliad RSG darpariaethol cyffredinol ac yn nodi’r potensial am newid pellach yn y Setliad RSG Terfynol (paragraffau 2.7 – 2.17).
· Bod Aelodau’n nodi’r deilliannau o fewn setliad RSG darpariaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac effaith hynny ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (paragraffau 2.18 – 2.24).
· Bod Aelodau’n argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor y pwysau cost ac eitemau twf (cyfanswm o £4m) a ddynodir yn Atodiad 2 (paragraffau 5.1.9 – 5.1.12) i’w gynnwys yng nghyllideb y Cyngor.
· Bod Aelodau’n argymell i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor y dylid pasbortio’r grantiau ... view the full Cofnodion text for item 4. |