Agenda and minutes

Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) - Dydd Llun, 26ain Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr S. Healy, J.C. Morgan, D. Wilkshire a T. Sharrem.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:-

 

Cynghorydd B. Summers – Eitem Rhif 7 – Monitro’r Gyllideb Refeniw 2020/2021 All-dro Darpariaethol (Silent Valley)

 

Cynghorydd M. Cook – Eitem Rhif 7 – Monitro’r Gyllideb Refeniw  2020/2021 All-dro Darpariaethol (Silent Valley)

 

Cynghorydd P. Edwards – Eitem Rhif 7 – Monitro’r Gyllideb Refeniw 2020/2021 All-dro Darpariaethol (Marchnadoedd)

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol..

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor fod cyfarfodydd o’r Pwyllgor Craffu yn parhau i gychwyn am 10.00 a.m. yn y dyfodol.

 

5.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 255 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu – 15 Mawrth 2021 pdf icon PDF 547 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021.

 

 

Parc yr ?yl

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 12 cofnodion y cyfarfod blaenorol lle dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ‘fod yr arian a dalwyd yn rhan o drefniant prydles gwrthdro’. Gofynnodd yr Aelod os yw’r trefniant hwn yn parhau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y byddai’n ymchwilio a dod ag adroddiad yn ôl i’r cyfarfod nesaf.

 

Gorfodaeth Parcio Sifil

 

Mynegodd Aelod bryder am lefel yr incwm a dderbynnir o hysbysiadau cosb sefydlog.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y deilliannau ar gyfer y gwasanaeth yn y flwyddyn gyntaf yn dilyn yr achos busnes a gyflwynwyd yn 2019 a’r model a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Fodd bynnag, cynhelir adolygiad o’r 12 mis diwethaf a rhoddir adroddiad i’r Pwyllgor Craffu perthnasol tuag at ddiwedd y flwyddyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

7.

Monitro Cyllideb Refeniw – All-dro Darpariaethol 2020/2021 pdf icon PDF 712 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi manylion:

 

·         Sefyllfa all-dro darpariaethol ar ddiwedd 2020/2021

·         Manylion amrywiadau niweidiol sylweddol

·         All-dro darpariaethol ar gyfer Ffioedd a Thaliadau

·         Cynnydd ar gyflawni prosiectau Pontio’r Bwlch ar gyfer 2020/2021

 

Mae’r adroddiad yn rhan o’r fframwaith adroddiadau ariannol i Aelodau.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad yn fanwl a thynnu sylw at y pwyntiau allweddol ynddo. Roedd y sefyllfa ariannol gyffredinol ar draws pob portffolio ar 31 Mawrth 2021 yn amrywiad ffafriol o £2.639m (1.7%) o gymharu â chyfanswm cyllideb refeniw o £152m. Fodd bynnag, mae’r ffigurau yn ddarpariaethol a chânt eu harchwilio’n allanol. Roedd yr all-dro yn welliant sylweddol ar y rhagolwg sefyllfa ariannol ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020, pan oedd y rhagolwg yn amrywiad ffafriol am £0.6m.

 

Mae Tabl 1 yn adran 5.1.3 yr adroddiad yn dangos yr all-dro darpariaethol ar draws pob portffolio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog yn dilyn adolygiad o’r sefyllfa diwedd blwyddyn ac i gefnogi cydnerthedd ariannol y Cyngor, y gwnaed trosglwyddiad pellach o £1.2m o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi gyda’r balans o £1.4m yn trosglwyddo i gronfeydd wrth gefn cyffredinol.

 

Dywedodd Aelod mai dyma’r sefyllfa ariannol fwyaf ffafriol iddo weld ers iddo ddod yn Aelod etholedig a diolchodd i’w gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth yn ystod pandemig Covid. Dywedodd y cafodd pob   agwedd o’r gyllideb eu rhoi yn eu lle gyda chefnogaeth Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dywedodd fod y gefnogaeth a dderbyniwyd wedi amlygu ansefydlogrwydd y Cyngor a heb y gefnogaeth ariannol dywedodd y byddai’r Cyngor mewn sefyllfa ddifrifol.

 

Holodd hefyd am y penderfyniadau gwleidyddol a gymerwyd o fewn portffolio’r Amgylchedd sy’n dangos amrywiad anffafriol sylweddol yng ngoleuni sefyllfa ariannol gadarnhaol y Cyngor.

 

Hefyd holodd yr Aelod yr angen am ail ganolfan ailgylchu HWRC, yn neilltuol oherwydd y diffyg incwm a ddisgwylir yng nghyswllt gwerthu deunyddiau ailgylchu. Dywedodd y credai y dylai’r pryderon a’r pwysau o fewn y gwasanaeth fod wedi ffurfio sail y penderfyniad i agor ail ganolfan ailgylchu.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cymorth ariannol unwaith yn unig a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a amlygir yn adran 5.1.8 yr adroddiad a gofynnodd os y byddai’n rhaid dychwelyd unrhyw arian nas gwariwyd yng nghyswllt arwyddion pellter cymdeithasol i Lywodraeth Cymru.

 

Atebodd y Prif Swyddog Adnoddau na wyddai am delerau ac amodau’r cyllid ar gyfer arwyddion pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, esboniodd os yw’r cyllid wedi ei neilltuo, y byddai’n rhaid dychwelyd unrhyw arian nas gwariwyd ond os nad oedd y cyllid wedi ei neilltuo gallai’r Cyngor ei gadw a’i wario mewn man arall.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod yng nghyswllt y taliad o £500 i weithwyr gofal, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y gwneir y taliad hwn hefyd i weithwyr gofal o fewn y sector  preifat yn gweithredu o fewn Blaenau Gwent.

 

Wedyn cyfeiriodd Aelod at adran 5.1.30 a holodd am yr amrywiad niweidiol o fewn cyllideb cynnal a chadw y gaeaf.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod rhan o’r amrywiad niweidiol yn ymwneud ag  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Monitro’r Gyllideb Cyfalaf, All-dro Darpariaethol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/2021 (fel ar 31 Mawrth 2021 pdf icon PDF 513 KB

Ystyried adroddid y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi manylion ar sefyllfa ariannol all-dro ddarpariaethol hyd 31 Mawrth 2021 ar draws pob portffolio a manylion unrhyw amrywiadau sylweddol niweidiol a/neu ffafriol. Roedd yr adroddiad yn rhan o’r fframwaith adroddiadau ariannol chwarterol i Aelodau.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo. Roedd y sefyllfa ariannol ddarpariaethol gyffredinol ar 31 Mawrth 2021 yn dangos tanwariant o £161k yn erbyn cyfanswm cyllideb cyfalaf y flwyddyn o £17.78m. Dangosir y sefyllfa gyffredinol ar draws pob portffolio yn y tabl yn adran 5.1.1 yr adroddiad .

 

Gofynnodd Aelod os cafodd unrhyw gynlluniau cyfalaf eu oedi’n sylweddol oherwydd pandemig Covid.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na wyddai am unrhyw gynlluniau cyfalaf a gafodd eu hoedi’n sylweddol. Mae’r pandemig wedi effeithio ar gostau ond dim ar weithredu prosiectau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod y ffaith i ni fedru parhau â chontractau sylweddol yn ystod y pandemig yn ganmoliaeth i gontractwyr a staff. Wrth symud i chwarter 1, dywedodd fod rhai o’r elfennau gorwariant yn is nag a ragwelid a disgwyliai adroddiad mwy ffafriol yn ystod chwarteri 1 a 2.

 

Diolchodd Aelodau i staff yn yr adran Gwasanaethau Cymunedol am eu gwaith caled drwy gydol y pandemig.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar y cyfrif terfynol ar gyfer adeiladu Canolfan Ailgylchu Roseheyworth, a chadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y rhoddir adroddiad hyn i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac:

 

      i.        Ei fod yn rhoi her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;

    ii.        Parhau i gefnogi gweithdrefnau rheoli ariannol priodol fel y cytunwyd gan y Cyngor; a

   iii.        Nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro cyllideb a weithredir o fewn y Tîm Cyfalaf, i ddiogeli cyllid yr Awdurdod.

 

9.

Defnyddio Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol a Chronfeydd wrth Gefn wedi’u Clustnodi 2020/2021 pdf icon PDF 438 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n amlinellu sefyllfa all-dro cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2020/2021 fel ar 31 Mawrth 2021, yn amodol ar archwilio.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Roedd lefel cronfa gyffredinol wrth gefn y Cyngor a ddatgelwyd yn y cyfrifon statudol am y flwyddyn ariannol a ddiweddodd 31 Mawrth 2020 yn £6.399m sy’n gyfwerth â 4.73% o wariant refeniw net (fel yr adroddir yn ffurflenni All-dro Refeniw 2019/2020).£5.414m yw lefel targed gyfredol 4% cronfeydd wrth gefn cyffredinol.

 

Mae Atodiad 1 yn rhoi manylion y cyfanswm cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a ddaliwyd ar ddiwedd chwarter 4 blwyddyn ariannol 2020/2021 (31  Mawrth 2021). Cafodd lefel y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ei benderfynu yn unol â’r protocol a gytunwyd ar gyfer cronfeydd wrth gefn. Roedd lefel y cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi oedd ar gael i’r Awdurdod wedi cynyddu gan £12.509m yn 2020/2021.

 

Cadarnhaodd y Swyddog ar gyfer y cronfeydd wrth gefn hynny a ddefnyddiwyd i gyllido union wariant hyd 31 Mawrth 2021 (£1.022m), rhoddir manylion y gwariant a gyllidwyd yn Atodiad 2, a rhoddir manylion y symiau ychwanegol a drosglwyddwyd i gronfeydd wrth gefn (£13.687m) yn Atodiad 3.

 

Gofynnodd Aelod os y byddai’r Cyngor yn cael ei archwilio yn y dyfodol ar sut y gwnaethom wario Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru ac efallai gael ein beirniadu am roi arian mewn cronfeydd wrth gefn.

 

Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog y byddai Archwilio Cymru yn edrych ar lefel ein cronfeydd wrth gefn fel rhan o’u hadolygiad o gyfrifon diwedd y flwyddyn. Roedd yn hyderus y caiff y cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ei wario’n briodol a bod y Cyngor yn parhau i ymateb a gwneud gwariant yng nghyswllt pandemig Covid. Fodd bynnag, dywedodd nad dyna’r rheswm am benderfynu’r lefel hon o gronfeydd wrth gefn.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan gyfeiriodd Aelod at Atodiad 2 a gofynnodd pam fod gwariant Cyngor Chwaraeon Cymru o £29,700 ar gyfer adnewyddu’r ystafelloedd newid yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri wedi dod allan o gronfeydd wrth gefn.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod hwn yn gais a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a dan delerau’r trefniant comisiynu bod y cyllid wedi dod i’r Cyngor a chael ei ddal gennym ni. Fodd bynnag, cadarnhaodd yr aeth y prosiect yn ei flaen ac y cafodd y gwaith ei gwblhau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach yng nghyswllt gwariant ar gyfer cyngor masnachol arbenigol ar Silent Valley, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y teimlid ei bod yn ddarbodus i sefydlu cronfa wrth gefn tra’n cynnal adolygiad o Silent Valley a rhoi peth arian o’r neilltu ar gyfer cyngor annibynnol allanol; tra’n cynnal diwydrwydd dyladwy.

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 2, tudalen 82 a holodd am y diffiniad o Gytundebau Adran 106. 

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y gellid defnyddio Cytundebau Adran 106 i gefnogi unrhyw seilwaith priffyrdd ychwanegol neu uwchraddio seilwaith sydd ei angen fel rhan o ddatblygu ysgol newydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Rhaglen Pontio’r Bwlch 2021/2022 pdf icon PDF 542 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar yr Adolygiadau Busnes Strategol, yn cynnwys all-dro darpariaethol ar gyfer 2020/2021 a’r asesiad diweddaraf o’r cyflawniad ariannol ar gyfer 2021/22 ymlaen.

 

Wedyn aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at y benthyciad gwella rheilffyrdd a gofynnodd os y byddai’r Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) yn weithredol.

 

Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog pe cytunid ar y buddsoddiad a benthyciad rheilffyrdd, y byddai’n effeithio ar MRP yn y dyfodol. Fodd bynnag, byddai’r incwm y disgwyliwn ei dderbyn gan Trafnidiaeth Cymru i gyllido’r benthyciad yn lliniaru’r cynnydd mewn MRP yn y dyfodol.

 

Mynegodd Aelod bryder y dylai’r goblygiadau ariannol pe na fyddid yn sicrhau’r lefel ddisgwyliedig o incwm.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y deallai pe byddai’r incwm tocynnau yn annigonol ei bod yn rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol drwy Trafnidiaeth Cymru i’w galluogi i gyllido’r ffi datblygu asedau i’r swm llawn.

 

Gofynnodd Aelod os byddai hyn yn cynnwys MRP a chadarnhaodd y Swyddog y byddai’r effaith ar MRP yr un fath.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach cadarnhaodd y Prif Swyddog y cynhelir asesiad effaith ar holl gynigion Pontio’r Bwlch.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a’i fod yn rhoi her priodol i raglen Pontio’r Bwlch.