Agenda and minutes

Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) - Dydd Llun, 28ain Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Sharrem, P. Baldwin, D. Wilkshire, G. Paulsen a’r Rheolwr Gyfarwyddwr oedd yn mynychu Cyfarfod G10.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

 

Eitem Rhif 7 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21, Rhagolwg Alldro tan 31 Mawrth 2021

 

Cynghorydd J.C. Morgan (Atodiad 3 – HLF Tredegar)

Cynghorydd W. Hodgins (Atodiad 3 – Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin)

Cynghorydd L. Parsons (Atodiad 3 – Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin)

Cynghorydd P. Edwards (Atodiad 3 - Marchnadoedd)

 

Eitem Rhif 8 Monitro Cyfalaf. Rhagolwg Blwyddyn Ariannol 2020/21 (fel ar 30 Mehefin 2020)

 

Cynghorydd W. Hodgins (Atodiad 1 a 2 – Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin)

Cynghorydd L. Parsons (Atodiad 1 & 2 – Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin)

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor y cynhelir cyfarfodydd y dyfodol am 10.00 a.m.

 

5.

Dalen Weithredu – 9 Mawrth 2020 pdf icon PDF 321 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2020, yn cynnwys:-

 

Gorfodaeth Parcio Sifil

 

Dywedodd Aelod iddo ofyn am wybodaeth am nifer yr hysbysiadau cosb sefydlog a gyhoeddwyd a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y caiff yr wybodaeth hon ei chynnwys yn y Sesiwn Wybodaeth i Aelodau.

 

Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd Aelod ei fod yn deall fod y Cyngor wedi cytuno rhoi blaenoriaeth i gwmpas gweithgaredd gorfodaeth yng nghanol trefi a thu allan i ysgolion, a mynegodd bryder fod cosbau’n cael eu cyhoeddi mewn ardaloedd preswyl.

 

Dywedodd Aelod arall yr ymddangosai fod diffyg presenoldeb wardeiniaid traffig yng nghanol trefi yn ystod y cyfnod clo.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau y dylai gweithgaredd Gorfodaeth Parcio Sifil fod yn amlwg ar draws y Fwrdeistref yn dilyn y cyfnod clo. Yn nhermau’r ardaloedd y gweithredir ynddynt, er y cytunwyd canolbwyntio gweithgaredd yng nghanol trefi a thu allan i ysgolion, cytunwyd y byddid hefyd yn riportio amseroedd parcio mewn man arall.

 

Dywedodd yr Aelod y credai y dylai patrolau yng nghanol trefi ac ysgolion y Fwrdeistref fod yn weithgaredd digonol ar gyfer swyddogion gorfodaeth heb gynnal patrolau o ardaloedd preswyl.

 

Dywedodd Aelod arall, oherwydd y strydoedd preswyl cul yn y Fwrdeistref, bod llawer o ardaloedd lle mae parcio yn achosi problemau, yn neilltuol fynediad i griwiau Gwastraff ac Ailgylchu.

 

Cyfeiriodd Aelod at drafodaethau blaenorol am adolygiad o’r gorchmynion traffig ar draws y Fwrdeistref a gofynnodd am ddiweddariad am pryd y gellid disgwyl hyn.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai hyn yn destun adroddiad i’r Pwyllgor Craffu perthnasol maes o law.

 

Gofynnodd Aelod am gynnull cyfarfod Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar adeg addas i roi diweddariad i bob Aelod.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

 

6.

Monitro’r Gyllideb Refeniw - 2020/2021, Rhagolwg Alldro hyd 31 Mawrth 2021 (fel ar 30 Mehefin 2020) pdf icon PDF 670 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad yn rhoi manylion rhagolwg sefyllfa all-dro ariannol pob portffolio am y flwyddyn ariannol 2020/2021 (fel ar 30 Mehefin 2020); y rhagolwg alldro am Ffioedd a Chostau; a’r cynnydd ar gyflawni prosiectau Pontio’r Bwlch ar gyfer 2020/2021.

 

Dywedodd y Swyddog fod y rhagolwg o’r alldro cyffredinol ym Mehefin 2020 yn amrywiad anffafriol o £1.85m cyn cymhwyso rhagolwg cyllid Caledi a Ffyrlo Llywodraeth Cymru am £1.98m, oedd yn gostwng y rhagolwg amrywiad anffafriol i £1.2m. Mae’r tabl yn adran 5.1.2 yr adroddiad yn rhoi manylion rhagolwg cyffredinol y sefyllfa ariannol ar draws pob portffolio ar 30 Mehefin 2020 a chyn cynnwys gwariant yn gysylltiedig â Covid-19.

 

Yn dilyn cyflwyno Arolwg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Golli Incwm, dynodwyd pedwar maes lle roedd colled cyson o incwm ar draws holl awdurdodau Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys parcio, gwastraff, arlwyo ysgolion a gwasanaethau glanhau a diwylliannol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried hawliadau gan awdurdodau lleol am golli incwm am Chwarter 1 yn ymwneud â dogn 1, h.y. gorfodaeth parcio sifil, cynnal a chadw tiroedd, arlwyo ysgolion, gwaredu gwastraff a gwasanaethau diwylliannol) ac mae’r Cyngor wedi derbyn cyfanswm o £973,000. Fel canlyniad, cafodd £613,000 o incwm a gollwyd ei ailosod yn y rhagolygon portffolio.

 

Dywedodd y Swyddog y derbyniwyd £151k ychwanegol yn y dyddiau diwethaf gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ddogn 2 hawliad colli incwm Chwarter 1. Gan roi ystyriaeth i’r Cyllid Caledi, incwm Ffyrlo a’r hawliad dechreuol am incwm a gollwyd, yr effaith net ar Gyllideb Refeniw y Cyngor oedd rhagolwg o amrywiad anffafriol o £1.2m. Dywedodd y Swyddog fod 50% o’r rhagolwg amrywiad anffafriol yn gysylltiedig â’r llwyth achos uwch am y Cynllun Gostwng Treth Gyngor sydd ar hyn o bryd yn rhagweld amrywiad anffafriol o £0.6m. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried effaith ariannol hyn ar draws Cymru.

 

Daeth y Swyddog i ben drwy ddweud y caiff cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â’r pwysau cost eu cynnwys yn Atodiad 4. Fodd bynnag, dywedodd y byddai llawer o’r pwysau cost yn gostwng gyda gweithredu dognau pellach o gyllid am golli incwm (am wasanaethau y codir tâl arnynt) a chyllid Caledi posibl gan Lywodraeth Cymru am Gymorth Gostwng y Dreth Gyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at y Gronfa Trawsnewid a gofynnodd faint mwy o arian a ymrwymwyd i brosiect Parc yr ?yl.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog y cytunwyd ar £30k.

 

Dywedodd yr Aelod, gan gofio i Lywodraeth Cymru ddarparu Cronfa Galedi, ei fod yn bryderus fod y Cyngor fel sefydliad cyllid grant wedi derbyn cyllid ffyrlo pan fod busnesau bach mewn anawsterau a phobl yn colli eu swyddi yn y Fwrdeistref.

 

Dywedodd y dylid defnyddio’r £460k o’r Gronfa Trawsnewid nad yw wedi ei ymrwymo i drin unrhyw bwysau cost oherwydd y pandemig, a thra bod y Cyngor yn talu am achos busnes Parc yr ?yl, roedd yn siomedig y defnyddiwyd cronfeydd cadw wedi’u clustnodi ar gyfer rhai ffioedd ymgynghoriaeth. Fodd bynnag, dywedodd fod y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Monitro’r Gyllideb Cyfalaf, Rhagolwg Blwyddyn Ariannol 2020/2021 (fel ar 30 Mehefin 2020) pdf icon PDF 515 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob Portffolio o gymharu â chyllid a gymeradwywyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, fel ar 30 Mehefin 2020, a manylion unrhyw amrywiadau anffafriol sylweddol a/neu ffafriol.

 

Mae rhagolwg y sefyllfa ariannol gyfredol ar 30 Mehefin 2020 yn dangos amrywiad anffafriol o £24,000 o gymharu â chyfanswm cyllideb gyfalaf yn y flwyddyn o £20m. Er gwaethaf pandemig Covid-19, roedd y gwariant uniongyrchol i fis Mehefin o £2m yn £300,000 yn uwch o gymharu â Chwarter 1 ym mlwyddyn ariannol 2019/2020. Fodd bynnag, os yw’r sefyllfa pandemig yn parhau i wella, disgwylir y byddai gwariant cyfalaf yn cyrraedd £20m erbyn 31 Mawrth 2021.

 

Dywedodd y Swyddog fod y rhagolwg gorwariant o £24,000 yn ymwneud â gwaith cyfalaf hanfodol yn dilyn tywydd anffafriol a’r difrod llifogydd dilynol ddechrau 2020. Gwnaed cais am gyllid i Lywodraeth Cymru, fodd bynnag nid yw’r Cyngor hyd yma wedi derbyn cadarnhad o gyllid grant at y costau. Lle’r oedd yn debygol y byddid yn mynd yn uwch na’r cyfanswm cymeradwyaeth cyllid, ac na chafodd ffynonellau cyllid ychwanegol eu dynodi, byddai’r deiliaid cyllideb i ddechrau yn hysbysu’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol am y canlyniadau, yn cynnwys cynigion i ohirio/dileu cynlluniau eraill a gymeradwywyd.

 

Tudalen 88 Atgyweiriadau Argyfwng Difrod Llifogydd

 

Cyfeiriodd Aelod at sylwadau a wnaed yn y cyfarfod blaenorol yn ceisio cyllideb fwy ddarbodus yng nghyswllt llifogydd a dywedodd y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyn oherwydd y nifer o ddigwyddiadau llifogydd ar draws y Fwrdeistref.

 

Tudalen 85 Offer Chwarae

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar y cyllid a dderbyniwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ‘parc sblash’ yn y Fwrdeistref, a gofynnodd os cafodd y cyllid ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru neu ei wario mewn man arall.

 

Mewn ymateb esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau nad yw’r cynnig am ‘barc sblash’ yn mynd rhagddo mwyach, fodd bynnag yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru roeddent wedi cytuno y gellid defnyddio’r cyllid ar gyfer darparu offer chwarae arall yn y Fwrdeistref.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod hyn yn dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol. Cadarnhaodd y cafodd adroddiad ar offer chwarae ei ystyried, a’i argymell ar gyfer cymeradwyaeth, yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu ac mae rhan o’r adroddiad yn rhoi ystyriaeth i gyllid Llywodraeth Cymru a ddefnyddir ar gyfer offer chwarae yn unol â Strategaeth Chwarae y Cyngor a gytunwyd yn flaenorol.

 

Roedd y Cadeirydd yn cael anawsterau technegol a chymerodd yr Is-gadeirydd y Gadair ar y pwynt hwn.

 

Gofynnodd Aelod os y gellid adolygu Strategaeth Chwarae yn awr oherwydd y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol nad oedd unrhyw fwriad i adolygu’r Strategaeth Chwarae ond y byddai’r cyllid ychwanegol yn ein galluogi i fynd ymhellach lawr rhestr flaenoriaeth y Strategaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r ymrwymiad i ymgysylltu gyda phob Aelod Ward i  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol ac wedi'u Clustnodi 2019/2020 pdf icon PDF 701 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi sefyllfa all-dro Cronfeydd wrth Gefn ar gyfer 2019/2020 ar Chwarter 4 (31 Mawrth 2020). Mae Adran 6 yr adroddiad yn rhoi crynodeb cyffredinol o’r sefyllfa ariannol yng nghyswllt y balansau gweddilliol mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac wedi’u clustnodi fel ar 31 Mawrth 2020.

 

Wedyn cyfeiriodd y Swyddog yr Aelodau at dabl 1 yn Adran 6.1.3 sy’n dangos y sefyllfa all-dro ar gyfer y gronfa gyffredinol wrth gefn ar ddiwedd blwyddyn 2019/20 i fod yn gynnydd o £0.454m i £6.348m. Mae’r balans hwn yn 4.69% o’r gwariant refeniw net, £0.934m yn uwch na’r lefel targed o 3% sef £5.414m. Fel canlyniad i’r setliad darpariaethol cadarnhaol, roedd y Cyngor wedi cymeradwyo cynnydd i gronfeydd wrth gefn o fwy na £1.5m ar gyfer 2020/2021 wrth osod Cyllideb 2020/2021 i gefnogi cynllunio ariannol tymor cynnal a chryfhau cydnerthedd ariannol y Cyngor.

 

Daeth y Swyddog i’r casgliad, o gymharu gyda holl awdurdodau lleol Cymru ar 31 Mawrth 2018, mai Blaenau Gwent sydd â’r lefel isaf o gronfeydd wrth gefn cyffredinol ac wedi’u clustnodi fel canran o wariant refeniw crynswth. Mae gwybodaeth gymharol o gyfrifon statudol archwiliedig yn dangos fod y sefyllfa wedi gwella hyd ddiwedd 2018/19. Fodd bynnag byddai’n rhaid i gronfeydd wrth gefn cyffredinol ac wedi’u clustnodi gynyddu’n sylweddol er mwyn cyrraedd cyfartaledd Cymru.

 

Atodiad 2 Adolygiadau Busnes Strategol

 

Gofynnodd Aelod pam fod caffael ffioedd ymgynghori arbenigol i gefnogi’r Adolygiad Busnes Strategol wedi dod allan o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi ac nid o’r Gyllideb Trawsnewid.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau na chafodd y Gyllideb Trawsnewid ei sefydlu tan flwyddyn ariannol 2020/21, ac y gwnaethpwyd y costau hyn yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac ystyriodd Aelodau ddefnydd cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac wedi’u clustnodi ar gyfer 2019/20; a

 

·         Nodi’r cynnydd drafft yn y Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol yn 2019/2020 i £6.438m, sef 4.69% o’r gwariant refeniw net (uwch na’r lefel targed o 4%);

·         Ystyried effaith y byddai’r amrywiad ffafriol o £0.454m ar gyfer 2019/20 yn ei gael ar darged y Gronfa wrth Gefn Gyffredinol; a

·         Pharhau i herio gorwariant cyllideb a gweithredu cynlluniau gweithredu gwasanaeth priodol lle mae angen. (Opsiwn 1)

Mae cynnal cronfeydd wrth gefn cyffredinol ar lefel ddigonol yn hanfodol i’r Cyngor fedru ateb ymrwymiadau’r dyfodol yn deillio o risgiau na wnaed darpariaeth benodol ar eu cyfer.

 

 

9.

Dalen Weithredu – 9 Mawrth 2020 pdf icon PDF 221 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The action sheet arising from the Joint Scrutiny (Budget Monitoring) Committee held on 9th March, 2020 was submitted, whereupon:-

 

Civil Parking Enforcement

 

A Member said he had requested information on the number of fixed penalty notices that had been issued, and the Corporate Director Regeneration & Community Services confirmed that this information would be included in the Members Briefing Session.

 

A discussion ensued when a Member said he understood the Council had agreed to prioritise the scope of enforcement activity to town centres and outside schools, and expressed concern that fines were being issued within residential areas.

 

Another Member said following the lockdown period there seemed be a lack of presence of traffic wardens within town centres.

 

In response the Corporate Director Regeneration & Community Services explained that Civil Parking Enforcement activity should be visible across the Borough following lockdown.  In terms of the areas covered, whilst it had been agreed to focus activity in town centres and outside schools, it was agreed that parking issues elsewhere would also be reported.

 

A Member said in his opinion patrols of the Borough’s town centres and schools should be ample activity for the enforcement officers without undertaking patrols of residential areas.

 

Another Member said due to the narrow residential streets within the Borough there were many areas where parking was causing problems, particularly access for the Waste & Recycling crews.

 

A Member referred to previous discussions regarding a review of traffic orders across the Borough and sought an update on when this could be expected.

 

The Chair confirmed that this would be subject to a report to the relevant Scrutiny Committee in due course

 

A Member requested that a Members Briefing Session be convened at an appropriate juncture to provide an update to all Members.

 

The Committee AGREED, subject to the foregoing, that the Action Sheet be noted.