Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7788
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Day, M. Cross, H. Trollope, L. Elias a Mr. T. Baxter (Aelod Cyfetholedig).
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd B. Summers fuddiant yn Silent Valey Waste Services Cyf lle cyfeirir ato ar yr agenda.
|
|
Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) PDF 249 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 22 Tachwedd 2021 PDF 201 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) PDF 221 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi’r rhagolwg o’r sefyllfa alldro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 (rhagolwg 31 Rhagfyr 2022); y rhagolwg o’r sefyllfa ariannol hyd ddiwedd mis Mawrth 2022 ar draws pob portffolio, a’r rhagolwg o’r all-dro ar gyfer ffioedd a thaliadau.
Yr all-dro cyffredinol a ragwelwyd fel ym mis Rhagfyr 2021 oedd amrywiad ffafriol o £4.65m, ar ôl gweithredu Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru. Bu cynnydd o £1.835m yn yr amrywiad ffafriol ers sefyllfa rhagolwg Medi 2021 (£2.814m).
Mae’r rhagolwg yn cynnwys cyllid gwirioneddol ac amcangyfrif o’r Gronfa Caledi ar gyfer mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 o £5.036m. Cadarnhaodd y Swyddog y cafodd yr hawliadau eu cyflwyno, yn unol gyda set o faterion egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer colli incwm Chwarteri 1 i 3 a chafodd £130,000 ei gynnwys yn y rhagolwg ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Cadarnhawyd y byddai Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru yn parhau i fis Mawrth 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n nodi’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o wariant cyfalaf gwirioneddol a rhagolwg pob portffolio o gymharu â chymeradwyaethau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, fel ar 31 Rhagfyr 2021; y rhagolwg o’r sefyllfa ariannol hyd 31 Mawrth 2022 ar draws pob portffolio, a manylion amrywiadau anffafriol/ffafriol sylweddol.
Roedd y sefyllfa ariannol gyffredinol fel y’i rhagwelwyd ar 31 Rhagfyr 2021 yn dangos amrywiad anffafriol o £227,852 o gymharu â chyfanswm cyllideb gyfalaf yn y flwyddyn o £20.1m. Dynododd yr adroddiad orwariant sylweddol ar y prosiectau dilynol:
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi - £42,752 Mae’r gorwariant yn ymwneud â chynnydd mewn costau oherwydd pandemig Covid-19 a pharatoi’r safle ar gyfer y dyfodol. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda WRAP Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch cyllido’r gwariant ychwanegol.
Parc Busnes Rhodfa Calch – £185,096 Mae’r cyfrif terfynol diweddaraf a ragwelir yn sôn am golled a hawliad treuliau ar gyfer eitemau yng nghyswllt problemau nas rhagwelwyd a achoswyd gan bandemig Covid-19 o £185,096, gostyngiad o £49,614 o gymharu â rhagolwg Chwarter 2 o £234,710. Roedd swyddogion yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a swyddogion prosiect WEFO i geisio cyllid ychwanegol i liniaru’r gorwariant.
Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau gyda chyrff cyllido yn gadarnhaol ar hyn o bryd felly ni chynigir ar y cam hwn fod cyllid ar gyfer y cynlluniau hyn yn dod o’r gronfa cyfalaf wrth gefn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddog fod y ffigurau a roddwyd ar gyfer yr adeiladau presennol ar Barc Busnes Rhodfa Calch.
Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at y cais cynllunio ar gyfer cyflenwi 10 uned i dde’r safle a holodd am gyllid ar gyfer y datblygiad.
Cadarnhaodd y Swyddog y rhoddwyd cymeradwyaeth cynllunio yr wythnos ddiwethaf, fodd bynnag nid yw’r Cyngor yn ymwneud â chyflenwi’r prosiect. Caiff y prosiect ei gyllido gan yr ymgeisydd gyda chyllid rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Aelod arall y deallai fod Cymoedd Technoleg wedi tynnu allan o’r prosiect.
Mewn ymateb esboniodd y Swyddog fod Cymoedd Technoleg yn darparu cyllid ar gyfer unedau dechrau busnes, fodd bynnag mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno cais newydd gyda newid i’r unedau a ddarperir yn y safle. O ran cyllid Cymoedd Technoleg, disgwylir cael gwybod beth yw lefel y cyllid Llywodraeth Cymru i Cymoedd Technoleg ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, ond mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y bydd cyllid yn anodd y flwyddyn nesaf. Dywedodd y Swyddog bod cyllid ar gael ar gyfer datblygiadau, a’i bod yn debygol y byddai’r ymgeisydd yn dechrau ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
Gofynnodd Aelod am gostau’r arolwg a gynhaliwyd ar y Ganolfan Ddinesig a dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’n adrodd yn ôl ar y mater hwn.
Cyfeiriodd Aelod arall at y trafodaethau ar y datblygiad newydd arfaethedig yn Rhodfa Calch a mynegodd bryder y gallai’r golled bosibl ar gyllid Cymoedd Technoleg effeithio ar brosiectau eraill. Dywedodd fod yr Aelod Gweithrediaeth a hefyd Gyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau cymunedol ill dau yn aelodau o Fwrdd Cymoedd Technoleg ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Defnyddio Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol ac Wedi’u Clustnodi 2021/2022 PDF 550 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi rhagolwg sefyllfa cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2021/2022 fel yn Chwarter 3 (31 Rhagfyr 2021). Mae Adran 6 yr adroddiad yn rhoi crynodeb cyffredinol o’r rhagolwg sefyllfa ariannol yng nghyswllt y balasau yn gyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi ru clustnodi ar 31 Mawrth 2022.
Mae balans agoriadol y gronfeydd wrth gefn gyffredinol o £7.553m yn 5.72% o wariant refeniw net, oedd yn uwch na lefel targed 4% o £5.284m. Mae Tabl 1 yn Adran 6.1.3 yn dangos y sefyllfa rhagolwg ar gyfer y gronfa gadw cyffredinol ar ddiwedd blwyddyn 2021/2022 i fod yn gynnydd o £4.849m i £12.402m. Mae’r balans hwn yn 9.39% o wariant refeniw net, £7.118m uwchben y lefel targed o 4% o £5.284m yn dangos cynnydd pellach tuag at gryfhau cydnerthedd ariannol y Cyngor a rhoi clustog i ddelio gyda problemau annisgwyl yn y dyfodol.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn:
· Ystyried yr effaith y byddai amrywiad ffafriol o £4.649m ar gyfer 2021/2022 ar y cyfraniad yn y gyllideb i’r Gronfa Gyffredinol wrth Gefn; · Nodi’r cynnydd a ragwelir yn y Gronfa Gyffredinol wrth Gefn yn 2021/2022 i £12.402m, sef 9.39% o wariant refeniw net, yn uwch na’r lefel targed o 4%; · Ystyried yr angen am reolaeth ariannol darbodus parhaus i gefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a chydnerthedd ariannol y Cyngor; a · Pharhau i herio gorwariant cyllideb a gweithredu Cynlluniau Gweithredu gwasanaeth priodol, lle mae angen.
Mae’n hanfodol bod cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn cael eu cynnal ar lefel digonol i’r Cyngor fedru ateb ymrwymiadau’r dyfodol sy’n deillio o risgiau na wnaed darpariaeth benodol ar eu cyfer. |
|
Rhaglen Pontio’r Bwlch 2021/2022 – Diweddariad Cynnydd Hydref i Rhagfyr 2021 PDF 538 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed gyda’r adolygiadau busnes strategol yn ystod cyfnod mis Hydref i fis Rhagfyr 2021, yr asesiad diweddaraf o’r cyflawniad ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a’r amcangyfrif diweddaraf o gyflawniad rhwng 2022/23 a 2026/27.
Wrth gydnabod yr heriau sy’n wynebu’r Cyngor yn y tymor byr, y tymor canol a’r hirdymor, cafodd rhaglen o adolygiadau busnes strategol ei ddatblygu i ddelio gyda bylchau cyllid posibl eu dynodi yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (Tabl 1) a gwella cydnerthedd ariannol y Cyngor.
Wrth gytuno ar y gyllideb ar gyfer 2021/2022, mae’r amcangyfrif o gyflawniad Pontio’r Bwlch yn £755,000 gan gyfrannu at gyllideb gwarged o £1.3m.
Amcangyfrifwyd fod yr asesiad diweddaraf o gyflawniad posibl rhaglen Pontio’r Bwlch (fel yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol) yn £6.7m rhwng 2022/2023 a 2026/2017, a rhoddodd Tabl 2 yr asesiad blynyddol o gyflawniad.
Cadarnhaodd y Swyddog fod Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol y Cyngor, gyda chefnogaeth gan swyddogion o bob gwasanaeth, yn parhau i ddynodi/datblygu cynigion ychwanegol Pontio’r Bwlch i gau bylchau cyllideb ym mlynyddoedd y dyfodol.
Mae’r bylchau yn y gyllideb a ddynodwyd o fewn yr adroddiad yn seiliedig ar dybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a gynhwysir yn Adroddiad cyllideb 2022/2023. Mae’r tybiaethau hyn yn cynnwys: · Cynnydd cyllid gan Lywodraeth Cymru o 3% ar gyfer 2022/2023, 2% ar gyfer 2023/2024 ac arian gwastad ar ôl hynny. · Dyfarniadau cyflog a chwyddiant prisiau o 2% y flwyddyn. · Pwysau cost blynyddol o £2m y flwyddyn (o 2023/24).
Dywedodd y Swyddog fod amrywiaethau i/o y tybiaethau hyn yn effeithio ar y bylchau cyllideb.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n nodi cynnydd rhaglen Pontio’r Bwlch (Opsiwn 1).
Gan mai hwn oedd y cyfarfod diwethaf yn y cylch cyn yr etholiadau, manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’r Is-gadeirydd, Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. |