Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H. Trollope, Aelod Cabinet Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Materion Cyffredinol |
|
Cynadleddau, Cyrsiau, Gwahoddiadau a Digwyddiadau PDF 369 KB Ystyried yr uchod.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:
Arddangosfa Hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain – Dydd Llun 10 Hydref 2022
PENDERFYNWYD cymeradwyo bod y Cynghorydd D. Bevan, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog yn mynychu.
Briffiad Blynyddol, HMS CAMBRIA – Dydd Llun 20 Hydref 2022.
PENDERFYNWYD cymeradwyo bod y Cynghorydd D. Bevan, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog yn Mynychu.
Gwobrau GAVO – 25 Hydref 2022
PENDERFYNWYD cymeradwyo bod y Cynghorydd C. Smith, Aelod Llywyddol, yn mynychu.
|
|
Cofnodion |
|
Pwyllgor Gweithrediaeth PDF 395 KB Cadarnhau penderfyniadau y Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r Penderfyniadau.
|
|
Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad |
|
Blaenraglen Gwaith – 7 Rhagfyr 2022 PDF 462 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 7 Rhagfyr 2022 fel y’i cyflwynwyd.
|
|
Perfformiad Absenoldeb Salwch 2021/22 PDF 766 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygiad Sefydliadol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cytuno ar y camau gweithredu cyfredol i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb. (Opsiwn 2).
|
|
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/22 PDF 424 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a hysbyswyd y Cabinet am berfformiad y Cyngor yng nghyswllt cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac y cafodd yr adroddiad ei gyfeirio at y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio am sicrwydd fod y broses ar gyfer monitro cwynion yn gadarn a bod yr wybodaeth a roddwyd am berfformiad yn adlewyrchu’r arferion hyn. (Opsiwn 1)
|
|
Portffolio Pobl ac Addysg |
|
Cytundeb Partneriaeth Ysgolion Statudol a Gynhelir PDF 419 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau. (Opsiwn 1)
|
|
Adolygu Strategaethau, Polisïau ac Arferion Anghenion Dysgu Ychwanegol PDF 483 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r strategaethau/polisïau a atodwyd fel y’u cyflwynwyd. (Opsiwn 1)
|
|
Rhaglen Gwella Ysgolion PDF 508 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd. (Opsiwn 2)
|
|
Portffolio Lle ac Amgylchedd |
|
Adolygiad o Raglen Gweithiau Cyfalaf Priffyrdd 2017-2022 PDF 531 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2b, sef pe byddai cyllid yn dod ar gael y cynigir yr opsiynau dilynol:-
Opsiwn 2a: Ffyrdd Dosbarthiadol Blaenoriaeth Uchaf (yn nhrefn blaenoriaeth) amcangyfrif o gyfanswm y gost £500,000
1. A467 Warm Turn, wyneb newydd ar y gerbytffordd £75k 2. Stad Ddiwydiannol Tafarnaubach (ffordd uchaf), wyneb newydd £175k 3. Cylchfan Stad Ddiwydiannol Blaenant, wyneb newydd £75k 4. Bwa Mawr / Heol y Gwaith Dur / Swyddfeydd Cyffredinol, wyneb newydd £50k 5. A4046 – Heol Waun-y-Pound, Glynebwy £25k 6. Heol y Coleg, Glynebwy - £100k
Opsiwn 2b - fel Opsiwn 2a ynghyd â’r 5 ffordd breswyl waethaf a ffyrdd eraill cysylltiedig â phriffyrdd – amcangyfrif o gyfanswm y gost £1,000,000
Ffyrdd Preswyl: 5 ffordd breswyl blaenoriaeth £350k Gwaith arall cysylltiedig â phriffyrdd:- · Rhwystrau diogelwch £50k · Marciau ffordd, arwyddion a bolardau £35k · Twmpathau cyflymder £50k · Adolygu gorchmynion traffig £15k
Gall Opsiynau 2a a 2b amrywio yn dibynnu ar lefel y cyllid a all fod ar gael.
|
|
Cyd-bortffolio – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol/Pobl ac Addysg |
|
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaehtol Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Addysg Corfforaethol.
PENDERFYNWYD derbyn y dull gweithredu a’r wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).
|