Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar hyn o pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg |
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.
Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Cyfarwyddwr Interim Addysg yr adroddiad ac amlinellu’r newidiadau polisi diwygiedig yn Atodiad 1. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Interim na fyddai unrhyw newid i bellter a dychwelyd at derfynau statudol.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol Addysg fod gan Gynghorau ddyletswydd statudol i gyhoeddi eu polisïau Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl 16 erbyn 1 Hydref 2020. Tynnodd sylw Aelodau at Adran 2.3 yr adroddiad sy’n amlinellu fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn fwy hael yng nghyswllt hawl cludiant rhwng y cartref a’r ysgol na therfynau statudol Llywodraeth Cymru a bod hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gefnogi disgyblion a dysgwyr.
Dywedodd yr Aelod y rhoddwyd ymrwymiad fel rhan o’r adolygiad blynyddol y byddai terfynau pellter y Cyngor yn parhau’r un fath ar gyfer gweddill y weinyddiaeth wleidyddol bresennol a gobeithiai y byddai hyn yn rhoi cysur i rieni.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo’r Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl-16 2021 (Atodiad 1) (Opsiwn 1).
|