Agenda and minutes

Arbennig, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 8fed Gorffennaf, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Prif Swyddog Adnoddau.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 672 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd

5.

Opsiynau Cyllido – Heol Aberbîg pdf icon PDF 425 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Amgylchedd ac Adfywio.

 

Cyflwynodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad sy’n rhoi opsiynau ar gyllido gwaith atgyweirio i Heol Aber-bîg. Roedd llifogydd ym mis Chwefror wedi achosi difrod i’r ffordd sydd wedi arwain at gau’r ffordd i’r holl draffig. Fodd bynnag, mae’r ffordd yn awr ar agor ond wedi’i chyfyngu drwy oleuadau traffig i un lôn a gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell fetrig.

 

Dywedodd fod Heol Aber-bîg yn parhau i fod yn gysylltiad strategol ar gyfer y Fwrdeistref ac yn dilyn cyfarfod gyda chontractwr ffordd Blaenau’r Cymoedd, hysbyswyd y Cyngor eu bod yn bwriadu gwneud symud dros dro sylweddol i draffig ym Mrynmawr fel rhan o’u gwaith cyfredol, ac y bwriedid defnyddio Heol Aber-bîg fel llwybr gwyro. Fel canlyniad, mae angen gwneud y gwaith atgyweirio fel mater o frys. Hefyd nid oes cydymffurfiaeth â’r cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell fetrig a allai achosi difrod pellach i’r ffordd.

 

Wedyn aeth yr Aelod Gweithredol drwy’r opsiynau a fanylir o fewn yr adroddiad a’r goblygiadau’n gysylltiedig gyda phob opsiwn. Cadarnhaodd mai Opsiwn 2 yw’r opsiwn a ffafrir.

 

Daeth i ben drwy ddweud na fyddai’r gweithdrefn galw-mewn a nodir yng Nghyfansoddiad y Cyngor yn weithredol yn yr achos hwn gan fod y penderfyniad yn un brys, ac yn debygol o gael ei oedi gan y broses galw-mewn.

Roedd yr angen i wneud gwaith atgyweirio Heol Aber-bîg cyn gynted ag sydd modd er mwyn lliniaru’r effaith yn gysylltiedig gyda’r llwybr gwyro a gynlluniwyd ar gyfer y gwaith cau ar Adran 2 A465 ym Mrynmawr, sydd i ddechrau yn ddiweddarach yr Haf hwn, ac atal cerbydau nwyddau trwm rhag defnyddio Heol Aber-bîg yn anghyfreithlon.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at elfen ariannol yr adroddiad a dywedodd ei fod yn cytuno gyda’r Opsiwn 2 a ffafrir, gan deimlo ei fod yn rhoi digon o amser cyn mis Gorffennaf 2021 a dechrau gwaith ar y Bwa Mawr.

 

Mewn ymateb, dywedodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd ei fod ef hefyd yn cynnig Opsiwn 2 a thanlinellodd pa mor bwysig yw hi fod Heol Aber-bîg ar agor yn llawn i gefnogi busnesau a phreswylwyr yn ystod y gwaith ar Heol Blaenau’r Cymoedd. Bu’r gwaith ar y Bwa Mawr yn mynd rhagddo ers peth amser ac roedd yn hyderus y byddai’r cyllid a ddyrannwyd yn dod trwodd, fodd bynnag roedd atgyweiriadau tymor byr i Heol Aber-bîg yn flaenoriaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef defnyddio dyraniad Bwa Mawr Rhaglen Cyfalaf CBSBG (£1,000K) – Gohiriwyd cais i Cadw am ganiatâd i wneud gwaith adfer ac ni all gwaith fynd rhagddo nes y rhoddir caniatâd, gan arwain at ohirio gwaith ar y safle tan fis Gorffennaf 2021/22 fan gyntaf – caiff y cyllid ei adolygu/ailosod cyn cael cymeradwyaeth Cadw a gwaith ar y safle. Os yw Llywodraeth Cymru wedyn yn  cytuno ar y cyllid llifogydd ar gyfer y cynllun, yna gellir ‘ad-dalu’r £405k i’r dyraniad cyfalaf hwn.

 

6.

Eitem Monitro ar y Cyd – Portffolios Addysg ac Amgylchedd: Ansawdd y Cyflenwad Dŵr mewn Ysgolion pdf icon PDF 557 KB

Ystyried adroddiad y cyd swyddogion.

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd ac Adfywio a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Ar wahoddiad Arweinydd y Cyngor, cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg yr adroddiad sy’n diweddaru’r Pwyllgor Gweithredol ar sefyllfa bresennol y problemau ansawdd cyflenwad d?r mewn ysgolion, yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn ail-agor ar 29 Mehefin 2020.

 

Dywedodd mai diogelwch ein plant a staff yw’r flaenoriaeth a’r pwysigrwydd pennaf wrth ddelio gyda materion cyflenwad d?r ysgolion, ac y dylid hefyd gydnabod fod mwyafrif canlyniadau’r profion ar ansawdd d?r ysgolion wedi dangos lefelau isel o halogiad lleol ac y cafodd hyn ei drin yn effeithlon ac wedi galluogi cyfran fawr o ysgolion i agor fel y bwriadwyd.

 

Roedd canllawiau cenedlaethol yng nghyswllt COVID-19 wedi arwain at i ysgolion fod ar gau o ddydd Llun 23 Mawrth, fodd bynnag arhosodd rhai ysgolion o fewn y Fwrdeistref ar agor fel hybiau gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol a dysgwyr bregus. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 3 Mehefin bod ysgolion i ail-agor ar 29 Mehefin, dynodwyd risgiau i’r cyflenwadau d?r o’r cyfnod digynsail y bu ysgolion ar gau, ynghyd â defnydd isel ar dd?r o fewn ysgolion. Cyflwynwyd system profion hylendid d?r ar unwaith i wirio ansawdd y d?r mewn ysgolion cyn caniatáu i’r ysgolion ailagor. Gan gofio am amseriad cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 3 Mehefin, roedd hynny’n golygu fod gan y Cyngor yn ymarferol dair wythnos i baratoi ysgolion i ail-agor. Roedd yr amserlen hon yn heriol iawn gan fod angen profi’r systemau d?r ar gyfer lefelau o Cyfanswm Cyfrif Hyfyw (TVC) bacteria a/neu halogiad Legionella.

 

Dywedodd Adran 2.2 yr adroddiad fod y Cyngor wedi cymryd ymagwedd ragweithiol a chyfrifol iawn at ailagor ysgolion o safbwynt iechyd a diogelwch, yn cynnwys profion d?r. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 3 Mehefin fod ysgolion i ail-agor ar 29 Mehefin, defnyddiwyd adnoddau’r Cyngor ar unwaith. Sefydlwyd cynllun a dechreuodd contractwyr samplo/brofi ar 9 Mehefin. Cytunwyd ar raglen o samplo/profion gyda chontractwr hylendid d?r y Cyngor i ymweld â phob ysgol cyn gynted ag oedd modd, a chasglwyd y samplau ysgol terfynol ar 18 Mehefin.

 

O’r 29 safle ysgol a gafodd eu samplo/profi, dynododd mwyafrif helaeth y safleoedd wahanol lefelau uwch o halogiad bacteria TVC, yn amrywio o halogiad lleol i halogiad system lawn. Gellid trin halogiad lleol e.e. safle tap drwy fflysio diheintydd a pasteureiddio, ac roedd angen clorineiddio ar halogiad system lawn. Dynodwyd bod gan chwech ysgol halogiad TVC system lawn, a nodir y rhain yn Adran 2.4.1 yr adroddiad.

 

Roedd angen clorineiddio systemau d?r yr ysgolion hyn ac er mwyn lliniaru’r sefyllfa, prynwyd 26 uned gludadwy golchi dwylo a darparwyd d?r yfed ar gyfer dibenion yfed, ac fe wnaeth y gweithredu rhagweithiol hwn alluogi’r ysgolion i ail-agor fel y bwriadwyd ddydd Llun 29 Mehefin.

 

Ar 25 Mehefin, cafwyd hysbysiad fod canlyniadau profion 3 ysgol yn bositif ar gyfer halogiad Legionella, a nodir yr ysgolion hyn yn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.