Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 24ain Mehefin, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Croesawodd yr Arweinydd bawb i gyfarfod ffurfiol cyntaf ers y Cyngor ers gweithredu’r mesurau cyfyngiadau symud.

 

Diolchodd hefyd i swyddogion am eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf er mwyn sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu darparu a gofynnodd am gyfleu diolchiadau’r Pwyllgor Gweithredol i’r staff.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai’n sicr y caiff y neges ei throsglwyddo i’r staff.

 

Gofynnodd yr Arweinydd hefyd i’n cydymdeimlad gael ei roi fel Awdurdod i’r bobl hynny a gollodd anwyliaid ym Mlaenau Gwent ac i’r rhai mewn awdurdodau cyfagos a gofyn am funud o fyfyrdod.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

 

Cofnodion:

Datganodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd fuddiant yn Eitem 11 – Rhyddhad Ardrethi Busnes – Rhyddhad Ardrethi Hamdden, Hamdden a Lletygarwch – 2020/21 ac ar ôl cael cyngor cyfreithiol gan y Swyddog Monitro, arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd unrhyw ran yn y penderfyniad yng nghyswllt eitem 11. Caiff y rhesymau dros y datganiad buddiant eu cofnodi ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol.

 

Materion Cyffredinol

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 643 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Gwasanaethau Corfforaethol

5.

Argyfwng Covid-19 – Pontio i’r Cyfnod Nesaf pdf icon PDF 668 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yr adroddiad sy’n cadarnhau ymateb strategol y Cyngor i argyfwng Covid-19 ac i amlinellu’r camau nesaf wrth i Gymru symud i gyfnod nesaf y pandemig, gyda llacio cyfyngiadau symud ac ail-ddechrau gwasanaethau yn raddol.

 

Soniodd y Swyddog, yng nghyswllt yr argyfwng cenedlaethol, fod y Cyngor wedi sefydlu ei drefniadau cynllunio argyfwng ym mis Mawrth 2020, fel y manylir ym mharagraff 2 yr adroddiad.

 

Mae Adran 3 yr adroddiad yn rhoi manylion peth o’r gwaith y bu’r Cyngor yn ei wneud yn ystod y cyfnod clo ac y cafodd y ffocws ei symud i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn unig gyda’r adnoddau eraill oedd ar gael yn cael eu hadleoli i gefnogi’r ymateb argyfwng, a gaiff eu manylu ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Roedd yr ymateb i’r argyfwng hefyd yn cynnwys cau ysgolion a chafodd hybiau ysgol eu sefydlu i roi cefnogaeth i weithwyr allweddol. Dywedodd y bu gwaith partneriaeth da gydag ysgolion a bod y Cyngor wedi parhau i gefnogi teuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol rhad ac am ddim. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn cefnogi dros 2000 teulu yr wythnos drwy daliadau uniongyrchol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wedyn at baragraffau 3.4 i 3.9 sy’n rhoi manylion y penderfyniadau a wnaeth y Cyngor yn ystod y pandemig e.e. sefydlu timau ymateb ardal i gefnogi pobl fregus yn y gymuned drwy wahanol grantiau Llywodraeth Cymru. Fel sefydliad mae’r Cyngor hefyd wedi newid y ffordd y mae’n gweithredu, e.e. gweithio gartref a defnydd effeithlon o dechnoleg newydd, sydd hefyd wedi ei fabwysiadu gan Aelodau.

 

Mae paragraff 3.10 yr adroddiad yn amlygu sut effeithiodd y pandemig ar weithlu’r Cyngor gyda lefelau uchel o absenoldeb ar ddechrau’r pandemig ar tua 18%, fodd bynnag mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos fod absenoldeb staff wedi gostwng a bod ychydig dan 3% o staff heb fod ar gael i weithio, yn bennaf oherwydd rhai sydd ar y rhestr gwarchod ac yn methu gweithio o gartref.

 

Mae Adran 5 yn rhoi manylion y pontio i’r cyfnod nesaf a sut y gallai’r Cyngor ailddechrau ei wasanaethau tra’n dal i fod yn ymwybodol nad yw’r pandemig drosodd. Sefydlwyd Gr?p Cydlynu Adferiad i arwain y gwaith adfer yng Ngwent a bydd y cyfarfod cyntaf ar 24 Mehefin 2020, byddai Blaenau Gwent wedyn yn sefydlu ei gr?p ei hun.

 

Fel rhan o’r camau nesaf bydd y Cyngor yn diweddaru ei flaenoriaethau corfforaethol i gynnwys yr hyn a ddysgwyd dros yr ychydig fisoedd diwethaf a’r arfer da i symud ymlaen i’r dyfodol.

 

Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy sôn fod angen i’r Cyngor ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol a ddigwyddodd, sy’n cynnwys gweithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau a chyfeiriodd at yr argymhellion yn Adran 7.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd/Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y bu’r gefnogaeth a roddwyd i fusnesau gan yr Adran Adfywio yn wych, fodd bynnag mae llawer o waith yn dal ar ôl, a nododd bod y gwahaniaethau rhwng Lloegr a  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Effaith Covid-19 ar Gyllideb Refeniw 2020/2021 a’r Diweddariad ar Gynigion Pontio’r Bwlch pdf icon PDF 565 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi manylion rhagolwg dechreuol o effaith Covid-19 ar gyllideb refeniw 2020/2021 ac i roi diweddariad ar gynnydd ar raglen Pontio’r Bwlch.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at y manylion yn Adran 5 a chyfeiriodd at Atodiad 1 sy’n rhoi rhagolwg cyffredinol ar sail portffolio unigol ac yn nodi fod yr adroddiad yn dangos y sefyllfa achos gwaethaf. Mae’r rhagolwg yn cynnwys amcangyfrif hawliadau i gronfa caledi Llywodraeth Cymru a chronfa caledi newydd Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau wedyn at Adran 5.6 a’r crynodeb cyffredinol yn Atodiad 2- cynigion Pontio’r Bwlch a’r targed o £1.465m, mae’r Cyngor yn rhagweld y cyflawnir £1.2m neu 83% o’r targed hwnnw. Roedd llawer o’r cynigion hyn yn gysylltiedig ac incwm.

 

Nododd y Swyddog y byddai angen i ni fel Cyngor geisio dynodi os oes rhannau yn ein cyllidebau ein hunain i liniaru rhai o’r costau yr aed iddynt a nodwyd fod paragraff 5.7.1 o’r adroddiad yn dynodi peth incwm ychwanegol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Adnoddau am adroddiad cynhwysfawr a nododd fod cyllid yn flaenoriaeth bwysig ar agenda WLGA a bod Llywodraeth Cymru, WLGA a Chynghorau yn cydweithio’n dda a bod ganddynt un farn consensws sef canolbwyntio ar y sefyllfa ariannol oedd wedi digwydd drwy gydol y cyfan.

 

O safbwynt gwleidyddol cadarnhaol, dywedodd yr Arweinydd fod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi gwella’n enfawr. Fodd bynnag, nododd na fyddai’r ffynonellau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael yn yr hirdymor a chytunodd fod angen i’r Cyngor edrych ar ei gyllidebau ei hun. Nododd fod rheoli’r sefyllfa ariannol yn ystod y pandemig ar lefel leol a hefyd ar draws Gwent ac yn ehangach wedi mynd yn dda iawn. Canmolodd y Prif Swyddog Adnoddau a’i thîm am fedru ymateb i alwadau amserlenni Llywodraeth Cymru a chafodd pob ffurflen eu dychwelyd ar amser.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol wedi ystyried y rhagolygon presennol ac wedi rhoi her briodol i’r tybiaethau ariannol a gynhwysir yn yr adroddiad, a nodi’r cynnydd a wnaed ar raglen Pontio’r Bwlch ar gyfer 2020/2021. (Opsiwn 1)

 

 

7.

Profi, Olrhain a Diogelu pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Prif Swyddog Masnachol yr adroddiad sy’n rhoi manylion y trefniadau a roddwyd ar waith i sefydlu olrhain cysylltiadau ym Mlaenau Gwent fel rhan o’r ymateb rhanbarthol i Gynllun Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at Adran 3 a rhoddodd drosolwg o rolau a chyfrifoldebau y gwasanaeth. Rhoddodd hefyd wybodaeth ar fanylion gweithredol y gwasanaeth.

 

Nodwyd y byddai’r gwaith dechreuol yn canolbwyntio ar brofi staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal a hyd yma bu lefel y profi yn eithaf isel. Fodd bynnag, rhagwelir y byddai’r ffigurau yn cynyddu wrth i fesurau cyfnod clo gael eu llacio; a nodwyd ei bod yn debygol y byddai’r gwasanaeth yn parhau tan fis Mawrth 2021.

 

Yna, yng ngoleuni’r cyhoeddiad dros yr ychydig ddyddiau fod potensial cryf y bydd cyfleuster profi yn cael ei leoli yn safle Glofa Marine yn Cwm, gofynnodd yr Arweinydd i swyddog roi datganiad byr.

 

Atebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy ddweud y gwnaed cais yn yr ychydig ddiwethaf diwethaf pan roedd Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cysylltu â’r Cyngor i ganfod safleoedd posibl yn y fwrdeistref ar gyfer canolfan profion drwy ffenest y car. Roedd y Cyngor wedi croesawu eu diddordeb mewn cael canolfan profi yn yr ardal. Dangoswyd safleoedd posibl i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a dewiswyd Glofa’r Marine yn Cwm, yn bennaf oherwydd ei faint. Mae swyddogion yn awr yn mynd drwy’r cynlluniau i wneud yn si?r y byddai’r safle yn addas a dylai profion ddechrau’r wythnos nesaf. Nododd fod canolfannau profi drwy’r ffenestr yn rhan o ymagwedd genedlaethol at brofion, drwy system genedlaethol, a’i fod yn cysylltu’n daclus â gwaith olrhain cyswllt lleol, a chaiff unrhyw ganlyniadau eu bwydo i’r tîm. Roedd hyn yn newyddion cadarnhaol i Flaenau Gwent ac mae swyddogion wedi gweithio’n gyflym dros yr ychydig ddyddiau diwethaf a disgwylir cyhoeddiad ffurfiol dros yr ychydig ddyddiau nesaf.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Masnachol a swyddogion eraill a gymerodd ran am eu gwaith ar y prosiect Profi, Olrhain a Diogelu, a fyddai’n hanfodol i lacio mesurau’r cyfnod cloi ymhellach.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn nodi a chymeradwyo Olrhain Cysylltiadau ym Mlaenau Gwent fel rhan o’r dull gweithredu rhanbarthol yng Ngwent ac i gefnogi cynllun cenedlaethol Profi, Olrhain a Diogelu cenedlaethol. (Opsiwn 1)

 

Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol

8.

Monitro’r Gylideb Revfeniw – All-dro Darpariaethol 2019/2020 pdf icon PDF 704 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi manylion sefyllfa all-dro ddarpariaethol ddiwedd 2019/2020; yr amrywiadau niweidiol sylweddol o fewn portffolios; yr all-dro darpariaethol ar gyfer Ffioedd a Thaliadau; a’r cynnydd ar gyflawni’r prosiectau effeithiolrwydd ariannol ar gyfer 2019/2020.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at baragraff 5.1.3 sy’n dangos y sefyllfa gyffredinol ar draws pob portffolio.

 

Nododd fod yr all-dro darpariaethol o £0.48m o amrywiad ffafriol yn sefyllfa sylweddol well na’r rhagolwg ym mis Rhagfyr 2019, a hefyd yn dangos y costau a wnaed fel canlyniad i lifogydd difrifol ym mis Chwefror 2020.

 

Wedyn cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at Atodiad 1 a rhoddodd drosolwg byr o’r amrywiadau ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth.

 

Cyfeiriodd hefyd at baragraffau 5.1.25 – 5.1.27 sy’n rhoi manylion y Ffioedd a Thaliadau.

 

Yn olaf, tynnodd sylw Aelodau at baragraff 5.1.29 a’r Prosiectau Effeithiolrwydd Ariannol a’r targed o £3.35m ac y cyflawnwyd 98% (£3.28m) o hynny.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad, a nododd y gwelliant hynod o fis Rhagfyr 2019; ac ategodd pa mor dda y gwnaeth y Cyngor dros y 2 i 3 blynedd ddiwethaf wrth reoli ei gyllideb. Aeth ymlaen drwy ddweud ei fod yn dangos y gall Cyfarwyddiaethau drwy gydweithio gyflawni’r targedau a osodir. Mae’r ymrwymiad parhaus i’r strategaeth ariannol wedi rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa dda i gyflawni’r targed ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Nododd y byddai amrywiadau niweidiol yn parhau i’r flwyddyn ariannol gyfredol a gofynnodd am eglurhad y byddai’r is-gr?p Pwysau Cost yn parhau i gwrdd i fonitro’r materion hynny yn barhaus.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’r is-gr?p Pwysau Cost yn parhau i gwrdd.

 

Siaradodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol am y sefyllfa ariannol a llongyfarchodd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyflawni ei amrywiad ffafriol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol wedi ystyried a chymeradwyo’r adroddiad ac wedi rhoi her priodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad. (Opsiwn 1)

 

 

9.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, All-dro Darpariaethol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019/2020 pdf icon PDF 491 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi manylion y sefyllfa all-dro ariannol ddarpariaethol hyd at ddiwedd Mawrth 2020 ar draws pob portffolio (yn amodol ar archwiliad); ac unrhyw amrywiadau sylweddol niweidiol a/neu ffafriol.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at baragraffau 5.1.2 a 5.1.3 fod deiliaid cyllideb yn gyffredinol wedi cynnal gwariant o fewn y prif gyfanswm ar gyfer cynlluniau cyfalaf a gymeradwywyd, ac y caiff cyllid blynyddoedd y dyfodol o £59m yn cynnwys grantiau allanol a chyllid yr Awdurdod eu hun eu cario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Nododd yr Arweinydd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr her a bod y Pwyllgor Gweithredol yn:

·        Rhoi her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;

·        Parhau i gefnogi gweithdrefnau rheolaeth ariannol briodol a gytunwyd gan y Cyngor; a

·        Nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro cyllideb sydd ar waith o fewn y Tîm Cyfalaf, i ddiogelu cyllid yr Awdurdod. (Opsiwn 1)

 

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg

10.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Adroddwyd y grantiau ychwanegol dilynol:

 

ABERTYLERI

Ward Abertyleri - Cynghorydd N. Daniels

 

 

1.

Clwb Rygbi Old Tyleryans

£100

2.

Clwb Pêl-droed Abertyleri Belles

£100

3.

Cymdeithas Amgueddfa Abertyleri a’r Cylch

£50

4.

Rhandiroedd Stryd Esgob

£50

5.

Rhandiroedd Stryd Adam

£50

6.

Clwb Pêl-droed Abertyleri

£100

7.

Clwb Rygbi Abertyleri BG

£100

8.

Clwb Bowls Abertyleri Cyf

£100

9.

Clwb Criced Abertyleri

£100

10.

Band Tref Abertyleri

£100

11.

Clwb Pêl-droed Abertyleri Bluebirds

£100

12.

Orffews Menywod Abertyleri

£75

13.

Clwb Pêl-droed Abertyleri Excelsiors

£100

14.

Clwb Pêl-droed Abertillery Excelsiors Iau

£100

15.

Côr Ebwy Fach

£75

 

Ward Abertyleri – Cynghorydd  J. Holt

 

1.

Rhandiroedd Cymunedol Stryd Adam

       £100

 

Ward Abertyleri - Cynghorydd M. Cook

 

1.

Clwb Criced Abertyleri

£100

2.

Clwb Bowls Abertyleri

£100

3.

Adran Iau Clwb Bowls Abertyleri

£100

 

Ward Cwmtyleri - Cynghorydd J. Wilkins

 

1.

Clwb Pêl-droed Abertyleri Excelsiors

£150

2.

Clwb Rygbi Abertyleri BG

£150

3.

Clwb Bowls Abertyleri

£100

4.

Clwb Pêl-droed Abertyleri

£100

5.

Clwb Pêl-droed Abertyleri Belles

£150

6.

Band Tref Abertyleri

£50

7.

Cymdeithas Menywod a Phroffesiynol Abertyleri

£50

8.

Canolfan Gymunedol Wyndham Vowles

£50

9.

Clwb Criced Abertyleri

£50

10.

Clwb Bowls Six Bells

£50

 

BRYNMAWR

Ward Brynmawr - Cynghorydd J. Hill

 

1.

Showstoppers

£100

2.

Amgueddfeydd Gweithfeydd Glynebwy

£100

3.

BGFM Cyf

£100

 

GLYNEBWY

Ward Badminton – Cynghorydd  G. Paulsen

 

1.

Clwb Criced Glynebwy

£150

2.

Rygbi Glynebwy Mini & Iau

£100

 

Ward Rasa - Cynghorydd G.A. Davies

 

1.

Special Movers

       £200

 

Ward Cwm  – Cynghorwyr G. Davies a D. Bevan

 

1.

Cymdeithas Pensiynwyr Waunlwyd

£300

2.

Sefydliad Newydd Cwm

£300

3.

Clwb Colomennod Clwb

£100

4.

Gr?p Sgowtiaid 1af Cwm

£200

5.

Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Waunlwyd

£200

6.

Clwb Cinio Pensiynwyr Waunlwyd

£100

7.

TK’s a Gr?p Cymunedol

£300

 

NANTYGLO A BLAENAU

Ward Blaenau – Cynghorwyr J. Mason a K. Rowson

 

1.

Cymdeithas Pensiynwyr Nantyglo 

£200

2.

Cymdeithas Pensiynwyr Winchestown

£200

3.

Eglwys Fethodistaidd Wesleyaidd

£200

4.

Eglwys y Drindod Sanctaidd Santes Anne

£200

5.

BGFM LCyf

£200

6.

Clwb Interact Coed Cae

£200

7.

Clwb Rygbi Abertyleri BG

£200

 

PENDERFYNOL yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r grantiau a gynhwysir ynddo.

 

11.

Rhyddhad Ardrethi Busnes –Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2020/2021 pdf icon PDF 547 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd fuddiant yn yr eitem hon ac, ar ôl cael cyngor cyfreithiol gan y Swyddog Monitro, arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y penderfyniad yng nghyswllt eitem 11.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad i’r Pwyllgor Gweithredol ei ystyried a’i fabwysiadu, ar ran y Cyngor, cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2020/21, fel rhyddhad ardrethi ar ddisgresiwn adran 47 ar gyfer 2020/21.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Adnoddau at Atodiad 1 sy’n rhoi’r meini prawf a’r canllawiau ar gyfer gweithredu a chyflenwi’r cynllun.

 

Dywedodd nad yw Llywodraeth Cymru hyd yma wedi cadarnhau’r union ddyraniad cyllid ar gyfer Blaenau Gwent, ond ei bod wedi rhoi amcangyfrif o £3.5m ar gyfer cyflenwi’r cynllun. Rhagwelir y gall 300 busnes gael budd o’r cynllun os caiff ei fabwysiadu ac er mwyn rhoi cymorth i drethdalwyr, mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu mabwysiadu’r cynllun ar gynllun rhyddhad ardrethi ar ddisgresiwn yn unol ag Adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

 

Nododd yr Arweinydd y byddai nifer o sefydliadau yn croesawu’r cynllun hwn.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd/Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd fod y pwnc hwn yn faes yr oedd busnesau manwerthu ym Mlaenau Gwent wedi ymgyrchu arno am flynyddoedd lawer a gobeithiai y byddai’r rhyddhad ardrethi yn parhau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn mabwysiadu cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2020/21 ar ran y Cyngor, i atodi cynllun rhyddhad ardrethi ar ddisgresiwn y Cyngor. (Opsiwn 2).

 

12.

Eitem(au) Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd/oedd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (roedd y rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

13.

Cyfleuster Profion Technoleg Uchel Glynebwy

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei chynnal gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad ar wahoddiad yr Arweinydd.

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y cytunwyd y gwneir hyn mewn camau ac yna y caiff y penderfyniad terfynol i symud ymlaen gyda’r prosiect ei wneud a nododd fod y Cyngor wedi symud yn y cyfeiriad hwnnw. Dywedodd fod y llywodraeth genedlaethol wedi cael trafodaethau mewn dyddiau diweddar am ailgynllunio ceir ac yn y blaen, a fod y drafodaeth yn gydnaws â’r agenda hwnnw. Hefyd byddai sefydliadau yn cefnogi’r Cyngor sy’n adnabod y diwydiant ac mae rhai pwyntiau gwerthu unigryw, nid yn unig yr ardal.

 

Cynigiodd yr Aelod Gweithredol opsiwn dau a chytunodd y dylai’r Cyngor edrych am gyllid i ddatblygu’r prosiect hwn ymhellach.

 

Gofynnodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol am eglurhad ar y cyllid a ymrwymwyd i’r prosiect a holodd os y gallai’r ffigurau hynny gynyddu.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y byddai’r ffigurau hynny yn cynyddu ac mai’r allwedd fyddai derbyn cefnogaeth CCRCD ar gyfer y camau nesaf. Byddai angen cyllid ar gyfer ceisiadau cynllunio ac yn y blaen, disgwylid hefyd y byddai partneriaid yn cyfrannu o leiaf yn gyfartal.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr na fyddai’r Cyngor yn medru ymgymryd â’r prosiect hwn ar ei ben ei hun, byddai am ddatblygu’r prosiect mewn partneriaeth ac mai’r cam nesaf fyddai cyflwyno Achos Busnes Amlinellol Strategol i’r CCRCD, byddai’r ymchwil yn rhoi hygrededd a thystiolaeth arbenigol i’r prosiect, a byddai derbyn cytundeb ar gyfer cyllid datblygu yn galluogi’r Cyngor i ddatblygu’r partneriaethau hynny i symud ymlaen. Byddai hyn yn gam allweddol ar sut y derbynnir y prosiect a faint o gefnogaeth a chyllid a fyddai ar gael.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod ac Opsiwn 2, sef ymestyn yr Opsiwn tir a pharau gyda phrofion meddal ar y farchnad ac i gyflwyno’r prosiect i CCRCD ar gyfer cyllid datblygu.