Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 26ain Hydref, 2022 11.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H. Trollope, Aelod Cabinet Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

Materion Cyffredinol

4.

Cynadleddau, Cyrsiau, Gwahoddiadau a Digwyddiadau pdf icon PDF 369 KB

Ystyried yr uchod.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:

 

Arddangosfa Hanesyddol Cymru a Brwydr Prydain – Dydd Llun 10 Hydref 2022

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo bod y Cynghorydd D. Bevan, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog yn mynychu.

 

Briffiad Blynyddol, HMS CAMBRIA – Dydd Llun 20 Hydref 2022.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo bod y Cynghorydd D. Bevan, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog yn Mynychu.

 

Gwobrau GAVO – 25 Hydref 2022

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo bod y Cynghorydd C. Smith, Aelod Llywyddol, yn mynychu.

 

Cofnodion

5.

Pwyllgor Gweithrediaeth pdf icon PDF 395 KB

Cadarnhau penderfyniadau y Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r Penderfyniadau.

 

Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

6.

Blaenraglen Gwaith – 7 Rhagfyr 2022 pdf icon PDF 462 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 7 Rhagfyr 2022 fel y’i cyflwynwyd.

 

7.

Perfformiad Absenoldeb Salwch 2021/22 pdf icon PDF 766 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygiad Sefydliadol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cytuno ar y camau gweithredu cyfredol i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb. (Opsiwn 2).

 

8.

Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021/22 pdf icon PDF 424 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a hysbyswyd y Cabinet am berfformiad y Cyngor yng nghyswllt cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac y cafodd yr adroddiad ei gyfeirio at y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio am sicrwydd fod y broses ar gyfer monitro cwynion yn gadarn a bod yr wybodaeth a roddwyd am berfformiad yn adlewyrchu’r arferion hyn. (Opsiwn 1)

 

Portffolio Pobl ac Addysg

9.

Cytundeb Partneriaeth Ysgolion Statudol a Gynhelir pdf icon PDF 419 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau. (Opsiwn 1)

 

10.

Adolygu Strategaethau, Polisïau ac Arferion Anghenion Dysgu Ychwanegol pdf icon PDF 483 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r strategaethau/polisïau a atodwyd fel y’u cyflwynwyd. (Opsiwn 1)

 

11.

Rhaglen Gwella Ysgolion pdf icon PDF 508 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd. (Opsiwn 2)

 

Portffolio Lle ac Amgylchedd

12.

Adolygiad o Raglen Gweithiau Cyfalaf Priffyrdd 2017-2022 pdf icon PDF 531 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2b, sef pe byddai cyllid yn dod ar gael y cynigir yr opsiynau dilynol:-

 

Opsiwn 2a: Ffyrdd Dosbarthiadol Blaenoriaeth Uchaf (yn nhrefn blaenoriaeth) amcangyfrif o gyfanswm y gost £500,000

 

1. A467 Warm Turn, wyneb newydd ar y gerbytffordd £75k

2. Stad Ddiwydiannol Tafarnaubach (ffordd uchaf), wyneb newydd £175k

3. Cylchfan Stad Ddiwydiannol Blaenant, wyneb newydd £75k

4. Bwa Mawr / Heol y Gwaith Dur / Swyddfeydd Cyffredinol, wyneb newydd £50k

5. A4046 – Heol Waun-y-Pound, Glynebwy £25k

6. Heol y Coleg, Glynebwy - £100k

 

Opsiwn 2b - fel Opsiwn 2a ynghyd â’r 5 ffordd breswyl waethaf a ffyrdd eraill cysylltiedig â phriffyrdd – amcangyfrif o gyfanswm y gost £1,000,000

 

Ffyrdd Preswyl: 5 ffordd breswyl blaenoriaeth £350k

Gwaith arall cysylltiedig â phriffyrdd:-

·         Rhwystrau diogelwch £50k

·         Marciau ffordd, arwyddion a bolardau £35k

·         Twmpathau cyflymder £50k

·         Adolygu gorchmynion traffig £15k

 

Gall Opsiynau 2a a 2b amrywio yn dibynnu ar lefel y cyllid a all fod ar gael.

 

 

Cyd-bortffolio – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol/Pobl ac Addysg

13.

Adroddiad Perfformiad Diogelu Corfforaethol, yn cynnwys Gwybodaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol 1 Ebrill i 30 Mehefin 2022 a Thymor Haf 2022 Addysg pdf icon PDF 795 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaehtol Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Addysg Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y dull gweithredu a’r wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).