Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 21ain Medi, 2022 11.30 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:

 

Cynghorydd H. Trollope, Aelod Gweithrediaeth – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Prif Swyddog Masnachol

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn Datganiadau Buddiant a Goddefebau..

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

Cofnodion

4.

Pwyllgor Gweithrediaeth pdf icon PDF 356 KB

Ystyried cyfarfod y cofnodion o’r Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 13 Goffennaf 2002.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD  cadarnhau’r cofnodion.

 

Materion Cyffredinol

5.

Cynadleddau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 371 KB

Ystyried cynadleddau, cyrsiau, digwyddiadau a gwahoddiadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:-

 

Seremoni Gorymdaith Cwblhau Hyfforddiant a Gwobrwyo Cadetiaid Heddlu Gwent

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo bod y Cynghorydd C. Smith, Aelod Llywyddol yn mynychu.

 

Rhaglen Arweinyddiaeth ar gyfer Cynghorwyr yng Nghymru 2022/2023

14  15 Ionawr 2023 - Modiwl 1

11 – 12 Chwefror 2023 - Modiwl 2

4 – 5 Mawrth 2023 - Modiwl 3

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo bod yr Aelodau dilynol yn mynychu:-

 

Cynghorydd T. Smith, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Pobl; a’r

Cynghorydd S. Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg.

 

Portffolio Corfforaethol a Pherfformiad

6.

Blaenraglen Waith 2022-23 y Pwyllgor Gweithrediaeth pdf icon PDF 381 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Democratiaeth a Chraffu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Gweithrediaeth ar gyfer 2022/23.

 

7.

Grarntiau i Sefydliadau pdf icon PDF 131 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

GRANTIAU I SEFYDLIADAU

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Derbyniwyd y grantiau dilynol i sefydliadau yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad:-

 

ABERTYLERI

 

Ward Abertyleri a Six Bells – Cynghorydd K. Chaplin

 

1.

Amgueddfa Abertyleri

£100

2.

Eglwys Bedyddwyr Ebenezer

£100

3.

Cymdeithas y Sgowtlaid

£100

4.

Celfyddydau Milwrol Falcon

£100

5.

Rhandiroedd Pant y Pwdyn

£100

 

Ward Abertyleri a Six Bells – Cynghorydd J. Holt

 

1.

Rhandiroedd Pant y Pwdyn

£100

 

Ward Cwmgyleri  - Cynghorwyr  M. Day a J. Wilkins

 

1.

Abertyleri Excelsiors

£250

2.

Clwb Rygbi Abertyleri BG

£250

3.

Bowls Abertyleri

£200

4.

Pêl-rwyd Abertyleri

£200

5.

Clwb Pêl-droed Abertyleri Belles

£250

6.

Amgueddfa Abertyleri

£100

7.

Piranhas Abertyleri

£150

8.

Pentref Tyleri

£150

9.

Clwb Criced Abertyleri

£100

10.

Bowls Six Bells

£100

11.

Celfyddydau Milwrol Falcon

£100

12.

Clwb Tennis Six Bells

£100

13.

Clwb Rygbi Old Tylerian

£150

14.

Rhandiroedd Blaentyleri

£100

15.

Sgowtiaid Abertyleri

£100

16.

Banc Bwyd Blaenau Gwent

£140

17.

Cangen Abertyleri y Lleng Brydeinig Filwrol

£100

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd N. Parsons

 

1.

Clwb Rygbi Llanhiledd

£200

2.

Clwb Cymdeithasol Sofrydd

£100

 

Ward Llanhiledd – Cynghorydd H. Cunningham

 

1.

Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Aber-big

£250

2.

Sefydliad Glowyr Llanhiledd

£250

3.

Clwb Cymdeithasol Sofrydd

£150

 

BRYNMAWR

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd J. Gardner

 

1.

Celfyddydau Milwrol Falcon

£350

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd J. Hill

 

1.

Piranhas Abertyleri

£150

GLYNEBWY

 

Ward De Glynebwy – Cynghorydd S. Edmunds

 

1.

Pres Cwm Ebwy

£200

 

Ward Cwm - Cynghorwyr D. Bevan & G. Humphries

 

1.

Sefydliad Newydd Cwm

£200

2.

Pwyllgor Carnifal Cwm

£200

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol i’r uchod, i dderbyn yr adrodiad

a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

Portffolio Pobl ac Addysg

8.

Adolygiad Polisi Trafnidiaeth Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl-16 2023 - 2024 pdf icon PDF 541 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol  Addysgl.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithrediaeth yn cymeradwyo’r Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol Ôl 16 2023/24 fel y’i manylir yn Atodiad 1 (Opsiwn 1).

 

Portffolio Pobl a Gwasanaehtau Cymdeithasol

9.

Cynnig i ymchwilio a datblygu achos busnes dros ddarpariaeth preswyl i blant ym Mlaenau Gwent pdf icon PDF 721 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithrediaeth yn cytuno i ddatblygu achos busnes i gyflenwi lleoliadau preswyl yr awdurdod lleol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac i ymrwymo i drefniant cydweitho gydag awdurdod cyfagos iddynt ddarparu’r rheolaeth, staffio a throsolwg gofynnol i ddarparu gofal preswyl ansawdd uchel ar gyfer ein plant sy’n derbyn gofal. Byddai hyn yn gostwng ein dibyniaeth ar ddarparwyr gofal plant preifat, darparu gofal yn nes adre ar gyfer ein plant sy’n derbyn gofal a dileu’r elfen elw a gynhwysir o fewn y ffioedd presennol a godir gan ddarparwyr preifat.

 

10.

Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2022-2025 pdf icon PDF 728 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Gwasanaethau Plant.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithrediaeth yn nodi’r adroddiad Asesiad Digonolrwydd Chwarae a dogfennau cysylltiedig ac yn cytuno ar y blaenoriaethau/camau gweithredu allweddol. (Opsiwn 1)

 

11.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022 pdf icon PDF 546 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithrediaeth yn cymeradwyo’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a Chynllun Gweithredu 2022 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (Opsiwn 1).

 

12.

Monitro’r Gyllideb Refeniw - 2022/2023, Rhagolwg All-dro i 31 Mawrth 2023 (fel ar 30 Mehefin 2022) pdf icon PDF 619 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithrediaeth yn:

·       cymeradwyo’r trosglwyddiadau cyllideb a fanylir ym mharagraff 5.1.14, dros £250,000 yn unol â’r cyfansoddiad; a

·       nodi gweithrediad y cronfeydd wrth gefn.

 

13.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf, Rhagolwg ar gyfer blwyddyn Ariannol 2022/23 (fel ar 30 Mehefin 2022) pdf icon PDF 579 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytunodd y Pwyllgor Gweithrediaeth:-

·       cefnogaeth barhaus i’r gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor; a

·       nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro cylideb sydd ar waith o fewn y Tîm Cyfalaf a Chorfforaethol i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.

 

14.

Crynodeb o Adroddiad Hunanarfarnu 2022 pdf icon PDF 555 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithrediaeth yn cytuno ar yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd, gan hefyd gydnabod fod hunanarfarnu effeithlon yn broses barhaus (Opsiwn 1).

 

15.

Tir yn Rasa

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

                       

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd  ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar yr wybodaeth sy’n cynnwys manylion yn ymwneud â materion busnes/ariannol unigooion heblaw’r Awdurdod (Opsiwn 1).