Agenda and minutes

Pwyllgor Gwaith - Dydd Mercher, 13eg Gorffennaf, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6011

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cynigiwyd ac eiliwyd fod cyfarfodydd yn dechrau am 10.00 a.m. yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Cofnodion

5.

Pwyllgor Gwaith pdf icon PDF 264 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

Materion Cyffredinol

6.

Cynadleddau, Cyrsiau, Gwahoddiadau a Digwyddiadau pdf icon PDF 274 KB

Ystyried gwahoddiadau i gynadleddau, cyrsiau a digwyddiadau a dderbyniwyd.

Cofnodion:

CYNADLEDDAU, CYRSIAU, DIGWYDDIADAU A GWAHODDIADAU

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:-

 

Sefydlu Archddiacon nesaf Cymoedd Gwent a Chyfarwyddwr Cenhadaeth yr Esgobaeth – Dydd Sul 19 Mehefin 2022.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo i’r Cynghorydd D. Wilkins, Dirprwy Aelod Llywyddol fynychu.

 

Diwrnod Lluoedd Arfog 2022

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynghorydd D. Bevan, Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog i fynychu.

 

7.

Cyfle Gweithlu ar gyfer ‘Benthyciad Pontio’ ar gyfer cymorth gyda chost gynyddol defnyddio car ar gyfer dibenion gwaith pdf icon PDF 491 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chynnig cyfle i weithwyr cyflogedig sy’n defnyddio eu car ar gyfer dibenion gwaith i wneud cais am fenthyciad ‘pontio’ o £200 sy’n llwyr ad-daladwy. Byddid yn adolygu’r sefyllfa ym mis Mawrth 2023 neu yn gynharach pe byddai cost tanwydd yn gostwng, y gweithredwyd y dyfarniad cyflog neu os oes unrhyw newid arall. Byddai’r benthyciad yn ad-daladwy mewn rhandaliadau misol dros 12 mis. Byddid angen ad-dalu’r benthyciad ‘pontio’ yn llawn ar unwaith pe byddai gweithiwr yn terfynu eu cyflogaeth gyda’r Awdurdod.

 

Byddai trafodaethau yn parhau yng nghyswllt posibilrwydd adolygiad dros dro ar gyfraddau milltiroedd gyda’r undebau llafur.

 

Caiff y cyfle am fenthyciad ei hysbysebu drwy reolwyr llinell a Chylchlythyr y Prif Weithredwr a dim ond i’r rhai a hawliodd dâl milltiroedd dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn defnyddio eu car ar gyfer dibenion gwaith y byddai ar gael. Byddai angen i’r gweithiwr lofnodi datganiad ac ymrwymiad i ad-dalu’r benthyciad yn y dyfodol (Opsiwn 1).

 

Eitemau er Penderfyniad - Materion Adfywio a Datblygu Economaidd

8.

Cynllun Buddsoddi Lleol a Chynllun Buddsoddiad Rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin pdf icon PDF 452 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

Cofnodion:

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytunwyd symud ymlaen gyda phroses y Gronfa Ffyniant Gyffredin Ranbarthol (Opsiwn 1) fel sy’n dilyn:

 

1.     Ceisio cytundeb i Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf weithredu fel Awdurdod Lleol Arweiniol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac iddynt gyflwyno Cynllun Buddsoddi y Brifddinas-Ranbarth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig erbyn y dyddiad cau o 1 Awst 2022.

 

2.     Caniatáu awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Pennaeth Adfywio a Datblygu (mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Adfywio, Prif Weithredwr, Prif Swyddog Adnoddau/Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro/Cydymffurfiaeth Cyfreithiol) i gymryd y camau gweithredu gofynnol i gadw at y dyddiadau cau a gofynion ar gyfer cyflwyno.

 

3.       Cytuno ar nifer o ymyriadau i sicrhau bod cyllid 2022/23 yn cael ei wario yn amserol, yn cynnwys peth recriwtio mewn-risg. Byddai hyn yn risg ariannol i’r cyngor yn y lle cyntaf. Gellid ymestyn contractau ymhellach unwaith y derbyniwyd cadarnhad am gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

4.       Cytunwyd i ddefnyddio rhan o ffi gweinyddu/rheoli 4% y Gronfa Ffyniant Gyffredin (£1,120,000 dros dair blynedd)  i benodi tîm prosiect bach i reoli a gweinyddu cyflenwi’r rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

 

Portffolio Pobl ac Addysg

9.

Maes Llafur Hawliau, Gwerthoedd, Moeseg pdf icon PDF 528 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithrediaeth yn mabwysiadu’r maes llafur a gytunwyd ar gyfer ei ddefnyddio mewn ysgolion cynradd o fis Medi 2002 ac ar gyfer yr ysgolion pob oed/uwchradd hynny fydd yn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru o 2023 fel y nodir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).

 

10.

Gwerthu Tir, Ashvale, Tredegar

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth sy’n cynnwys manylion yn ymwneud â materion busnes/ariannol unigolion heblaw’r Awdurdod (Opsiwn 2).