Lleoliad: Ystafell y Weithrediaeth, Canolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6011
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau
Cofnodion: Adroddwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cofnodion |
|
Pwyllgor Gweithredol PDF 312 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion. |
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion Addysg |
|
Cynllun Busnes 2022-2025 PDF 451 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y caiff yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol yn flynyddol i adolygu drafft Gynllun Busnes EAS 2022-2025 fel rhan o’r broses ymgynghori ranbarthol. Byddai’r Pwyllgor Gweithredol yn sicrhau fod y cynllun yn rhoi cefnogaeth briodol i ysgol a lleoliadau ym Mlaenau Gwent. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y newidiadau a wnaed i’r cynllun presennol, sy’n cynnwys cyd-destun mewn ymateb i Covid-19 a datganiad rhanbarthol o fwriad sy’n symud ymaith o weledigaeth i ddatganiad ffurfiol o fwriad a gafodd ei groesawu gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol a Phrif Swyddogion Addysg ar draws y rhanbarth. Mae’r Cynllun hefyd yn cynnwys blaenoriaethau strategol Blaenau Gwent ac o safbwynt hunanwerthuso mae crynodeb ar gynnydd yn y prif gynllun ac nid yn yr adran gefnogi fel mewn cynlluniau blaenorol. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd fod y Cynllun yn dangos mesurau a deilliannau hyd at 2025, oedd yn ddefnyddiol i fesur cynnydd.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y caiff ystadegau a straeon o Flaenau Gwent eu cynnwys yn atodiadau’r Cynllun sy’n adlewyrchu’n dda ar Flaenau Gwent. Ychwanegwyd ymhellach fod drafft Gynllun Busnes EAS wedi ei groesawu a’i gefnogi gan y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r Cynllun Busnes a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).
|
|
Polisi Derbyn Addysg Feithrin a Statudol 2023/24 PDF 595 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg am yr adroddiad sy’n amlinellu canlyniad y broses ymgynghori flynyddol, yn unol â drafft diwygiedig Polisi Derbyn Addysg Feithrin a Statudol 2023/24 Blaenau Gwent. Gofynnir i’r Pwyllgor Gweithredol am eu barn a’u sylwadau ar y ddogfen wrth baratoi ar gyfer cylch derbyn 2023/24, cyn ei benderfynu a’i gyhoeddi ar 15 Ebrill 2022.
Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y caiff y newidiadau mwyaf sylweddol eu hamlinellu yn yr adroddiad a rhoddodd grynodeb o’r prif newidiadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y ddogfen polisi (Opsiwn 1). |
|
Polisi Diogelu Corfforaethol a Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Corfforaethol PDF 528 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor Gweithredol ar y datblygiadau ynghylch argymhellion Archwilio Cymru yn ymwneud â datblygu Polisi Diogelu Corfforaethol a Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Corfforaethol a fanylir yn yr adroddiad a’r atodiadau. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol hefyd drosolwg o’r pwyntiau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad (Opsiwn 1) a: · chytuno ar y Polisi Diogelu Corfforaethol diwygiedig, a · chytuno ar y Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Corfforaethol a’i gynllun gweithredu.
|
|
Eitemau er Penderfyniad - Materion yr Amgylchedd |
|
Addasiadau i’r Anabl – Cynnig diwygio polisi i ddileu prawf modd PDF 532 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd drosolwg manwl o’r adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gweithredol i ddiwygiad polisi arfaethedig a fyddai’n dileu’r prawf modd presennol ar gyfer grantiau ar gyfer addasiadau i’r anabl ym Mlaenau Gwent.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r diwygiad polisi arfaethedig a fyddai’n dileu’r prawf modd presennol ar gyfer grantiau ar gyfer addasiadau i’r anabl ym Mlaenau Gwent o 1 Ebrill 2022.
|
|
Caffael Asedau Priffyrdd yn Six Bells, Abertyleri PDF 570 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi opsiynau i’r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer caffael arfaethedig asedau priffordd yn Six Bells, Abertyleri. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod consortiwm o breswylwyr o High Street, Six Bells wedi cysylltu â’r Cyngor a gofyn i’r Cyngor ystyried dod yn berchennog rhydd-ddaliad tir sydd o fewn eu perchnogaeth y consortiwm ar hyn o bryd. Prynodd y consortiwm y tir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mis Rhagfyr 2019 i ddiogelu buddiannau preswylwyr a pherchnogion eiddo lleol. Byddai’r gr?p yn awr yn hoffi cynnig buddiant y rhydd-ddaliad ar gyfer yr asedau priffordd am ddim cost i’r Cyngor. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol nad oedd unrhyw reswm amlwg pam na fedrid trosglwyddo’r asedau priffordd hyn yn ffurfiol dan rydd-ddaliad i berchnogaeth y Cyngor gan fod y Cyngor eisoes yn ariannu’r costau cynnal a chadw yn uniongyrchol eisoes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwywyd y cais i wneud y trefniadau angenrheidiol i gwblhau a throsglwyddo’r buddiant rhydd-ddaliad i’r Cyngor. (Opsiwn 2).
|
|
Eitemau Monitro - Gwasanaethau Corfforaethol |
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o’r rhagolwg sefyllfa all-dro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 (fel ar 31 Rhagfyr 2021).
Dywedodd y Prif Swyddog bod y cyfanswm amrywiad ffafriol ym mis Rhagfyr 2021 yn £4.65m, ar ôl defnyddio Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru a dywedodd y bu cynnydd o £1.835m yn yr amrywiad ffafriol ers rhagolwg sefyllfa Medi 2021 (£2.814m). Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg pellach o’r amrywiad anffafriol ar draws y portffolios a fanylir yn yr adroddiad a dywedodd fod y rhain yn cael eu monitro a’u hadrodd yn unol â’r cynlluniau gweithredu sydd yn eu lle i drin pwysau cost.
Teimlai’r Arweinydd fod yr adroddiad hwn yn dod â’r weinyddiaeth bresennol i ben mewn sefyllfa ariannol gadarnhaol. Credai’r Arweinydd fod y Cyngor wedi rheoli’r gyllideb yn dda ac wedi gosod llwyfan cryf ar gyfer y dyfodol a gweinyddiaeth newydd ym mis Mai. Dywedodd y dylai’r Cyngor ymfalchïo yn y sefyllfa gadarnhaol a adroddwyd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi’r her briodol i’r deilliannau ariannol a amlinellir yn yr adroddiad. (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau drosolwg i’r Pwyllgor Gweithredol o wariant cyfalaf a rhagolwg gwariant pob portffolio o gymharu â chymeradwyaeth cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, fel ar 31 Rhagfyr 2021.
Mae’r sefyllfa ariannol gyffredinol yn ôl rhagolwg 31 Rhagfyr 2021 yn dangos amrywiad anffafriol o £227,852 yn erbyn cyfanswm cyllideb gyfalaf yn y flwyddyn o £20.1m. Amlinellodd y Prif Swyddog y gorwariant fel y manylir yn yr adroddiad a dywedodd fod trafodaethau gyda chyrff cyllido yn gadarnhaol ar hyn o bryd, felly ni chynigid y byddai cyllid ar gyfer y cynlluniau hyn yn cael eu hadeiladu i mewn o’r gronfa cyfalaf wrth gefn ar y cam hwn. Fodd bynnag, roedd y Prif Swyddog yn ymwybodol fod y Cyngor yn agosáu at ddiwedd y flwyddyn ac y gall fod angen edrych ar opsiynau cyllid.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad (Opsiwn 1) a:-
· rhoi’r her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad; · parhau gyda chefnogaeth ar y gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor; · nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro’r gyllideb sydd ar waith o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.
|
|
Defnyddio Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol ac Wedi’u Clustnodi 2021/2022 PDF 550 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Hysbysodd y Prif Swyddog Adnoddau y Pwyllgor Gweithredol am y rhagolwg sefyllfa cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2021/2022 fel yn Chwarter 3 a thynnodd sylw at y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n dangos fod y Cyngor wedi mynd i’r afael â chydnerthedd ariannol y sefydliad. Er fod gan y Cyngor y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn ers 2012, dywedodd yr Arweinydd nad yw’r Cyngor ond rhan o’r ffordd lan y tabl cynghrair o gymharu â lefelau cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol arall. Fodd bynnag, teimlai’r Arweinydd fod y Cyngor yn symud yn y cyfeiriad iawn ac yn gosod y Cyngor nesaf mewn lle da i etifeddu neu ecsbloetio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn ystyried y rhagolwg o ddefnydd cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac wedi’u clustnodi ar gyfer 2021/2022 (Opsiwn 1) a
· yr effaith y byddai amrywiad ffafriol o £4.649m ar gyfer 2021/2022 yn ei gael ar y cyfraniad yn y gyllideb i’r Gronfa wrth Gefn Gyffredinol; · nodi’r rhagolwg o’r cynnydd yn y Gronfa wrth Gefn Gyffredinol yn 2021/2022 i £12.402m, gan fod yn 9.39% o wariant refeniw net, yn uwch na lefel targed 4%; · parhau’r angen am reolaeth ariannol ddarbodus barhaus i gefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a chydnerthedd ariannol y Cyngor; a · pharhau i herio gorwariant yn y gyllideb a gweithredu cynlluniau gweithredu addas ar gyfer gwasanaethau, lle mae angen.
|
|
Rhaglen Pontio’r Bwlch 2021/2022 – Diweddariad Cynnydd mis Hydref i fis Rhagfyr 2021 PDF 539 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd ar yr Adolygiadau Busnes Strategol yn ystod cyfnod mis Hydref i fis Rhagfyr 2021, yr asesiad diweddaraf o’r hyn a gyflawnwyd yn ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a’r amcangyfrif o’r cyflawniad diweddaraf rhwng 2022/23 a 2026/27.
Amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau y bylchau cyllideb ar gyfer 2022/23 i 2026/26 a dywedodd y disgwylir y bydd y rhagolwg cyflawniad yn fwy na’r amcangyfrif cyflawniad o £0.75m gan £0.25m ar gyfer y flwyddyn bresennol oherwydd canlyniad llwyddiannus yr apeliadau ar werthoedd trethiannol eiddo ac asedau’r Cyngor ac incwm rhent ar unedau diwydiannol.
I gloi, dywedodd y Prif Swyddog y teimlai fod hwn yn adroddiad cadarnhaol arall ar sefyllfa ariannol y Cyngor.
Cytunodd yr Arweinydd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol a theimlai y bu rhaglen Pontio’r Bwlch yn ddarn cadarnhaol o waith oedd wedi diogelu gwasanaethau yn yr Awdurdod lle mae’r Cyngor wedi symud ymaith o’r ffordd draddodiadol o gydbwyso cyllidebau lle roedd y Cyngor yn edrych ar feysydd gwasanaeth ar gyfer toriadau. Gobeithid y byddai hyn yn parhau, er y teimlid y byddai angen mireinio’r Rhaglen yn y dyfodol.
Nododd yr Arweinydd uchelgais ac ymrwymiad swyddogion ynghyd â mwyafrif y gwleidyddion sy’n cefnogi’r Rhaglen a theimlai’r Arweinydd y byddai’n rhan bwysig yn nyfodol cyllidebau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi’r her briodol i raglen Pontio’r Bwlch. (Opsiwn 1).
|
|
Eitemau Monitro - Yr Amgylchedd |
|
Ymestyn Contract – Gwasanaeth Triniaeth Rheoli Pla hyd 31 Rhagfyr 2023 PDF 503 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi parhad y contract gyda Rentokil tan 31 Mawrth 2023. Byddai wedyn yn cael ei adolygu a’i aildendro, fel sydd angen, yn unol â’r rheolau caffael corfforaethol. (Opsiwn 1)
|
|
Gweithgaredd Gorfodaeth Tipio Anghyfreithlon 2021/22 PDF 528 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaehtol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Gorfodaeth Rheng Flaen.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar weithgareddau gorfodaeth yr Awdurdod yng nghyswllt tipio anghyfreithlon a throseddau rheoleiddio gwastraff eraill a lefel y gweithgaredd tipio anghyfreithlon o fewn Blaenau Gwent am y flwyddyn 2021/22. Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol yn fanwl am yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol i’r Pwyllgor Gweithredol fel y’u cynhwysir yn yr adroddiad.
Croesawodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yr adroddiad cadarnhaol a gafodd ei groesawu gan y Pwyllgor Trosolwg Cymunedol. Bu nifer o sylwadau ffafriol ar waith y Tîm Gorfodaeth.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod hwn yn faes a fu’n ffynhonnell cwynion gan aelodau’r cyhoedd am amser maith, na fyddai wedi bod â chonsyrn am yr ochr weithredol gan fod preswylwyr eisiau gweld gweithredu. Roedd y Tîm Gorfodaeth wedi cyflwyno ffyrdd gwahanol o weithio yn hytrach na dyblygu gwahanol wasanaethau ar draws digwyddiadau tîm yn cael eu trin gyda’i gilydd a chaiff eu camau gweithredu eu hamlinellu yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod y Tîm Gorfodaeth yn gynllun y dymunai ei ddatblygu i symud y Cyngor hwn ymlaen. Mae’n flaenoriaeth bersonol ac yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth ac mae’r adborth gan breswylwyr yn gadarnhaol.
Cyfeiriodd yr Aelod Gweithredol ymhellach at Ganolfan Ailgylchu Roseheyworth a nodwyd y system archebu a weithredwyd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, fodd bynnag o heddiw ymlaen byddai system hybrid ar waith yn galluogi preswylwyr i droi lan ar y safle heb wneud apwyntiad. Dewiswyd safle Roseheyworth gan ei fod yn safle mwy sydd hefyd â siop ar y safle ar gyfer preswylwyr i ymweld â hi. Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol hefyd y byddai’r gwaith yn dechrau yn fuan ar Ganolfan Addysg ar y safle a fyddai’n addysgu plant am sbwriel ac ailgylchu.
Ategodd yr Aelod Gweithredol fod hwn yn adroddiad da sy’n amlygu gwaith y Tîm Gorfodaeth ar draws y Fwrdeistref.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y weinyddiaeth wedi dymuno gwneud y gwaith hwn am flynyddoedd lawer. Bu oedi oherwydd y pandemig, fodd bynnag mae’r gwaith yn cael ei wneud yn awr ac mae’r cyhoedd wedi cydnabod y newidiadau yn eu hardaloedd. Mae’r Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen yn gwneud gwaith ardderchog ac mae’r gwahaniaeth yn y Fwrdeistref wedi bod yn enfawr. Ychwanegodd yr Arweinydd fod cryn ffordd yn dal i fynd gyda chyfuno’r Tîm Gorfodaeth, fodd bynnag roedd yr Arweinydd wedi dweud y dylem gyflwyno’r hysbysiadau cosb a chadw penderfyniad i gadw Blaenau Gwent yn daclus. Mae’r cynnydd a’r gwaith a wnaed yn glod enfawr i’r Adran gyda chefnogaeth Aelod Gweithredol yr Amgylchedd.
I gloi ychwanegodd yr Aelod Gweithredol fod yr adroddiad hwn yn dangos y dechrau cryf, fodd bynnag roedd ffordd bell i fynd gyda’r cynllun ac mae’r Aelod Gweithredol yn hyderus y byddai’r Tîm Gorfodaeth yn parhau i sicrhau’r canlyniadau gorau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn parhau i gefnogi’r gwaith rheoleiddio gwastraff a datblygu’r Gwasanaeth Gorfodaeth Rheng-flaen fel y manylir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).
DIWEDDARIAD LLAFUR – MATERION ADDYSG
CYMUNED DDYSGU ABERTYLERI ... view the full Cofnodion text for item 15. |